Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Ruth 3:1-5

Yna Naomi ei chwegr a ddywedodd wrthi, Fy merch, oni cheisiaf fi orffwystra i ti, fel y byddo da i ti? Ac yn awr onid yw Boas o’n cyfathrach ni, yr hwn y buost ti gyda’i lancesi? Wele efe yn nithio haidd y nos hon yn y llawr dyrnu. Ymolch gan hynny, ac ymira, a gosod dy ddillad amdanat, a dos i waered i’r llawr dyrnu: na fydd gydnabyddus i’r gŵr, nes darfod iddo fwyta ac yfed. A phan orweddo efe, yna dal ar y fan y gorweddo efe ynddi; a dos, a dinoetha ei draed ef, a gorwedd; ac efe a fynega i ti yr hyn a wnelych. A hi a ddywedodd wrthi, Gwnaf yr hyn oll a erchaist i mi.

Ruth 4:13-17

13 Felly Boas a gymerodd Ruth; a hi a fu iddo yn wraig: ac efe a aeth i mewn ati hi; a’r Arglwydd a roddodd iddi hi feichiogi, a hi a ymddûg fab. 14 A’r gwragedd a ddywedasant wrth Naomi, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn ni’th adawodd di heb gyfathrachwr heddiw, fel y gelwid ei enw ef yn Israel. 15 Ac efe fydd i ti yn adferwr einioes, ac yn ymgeleddwr i’th benwynni: canys dy waudd, yr hon a’th gâr di, a blantodd iddo ef, a hon sydd well i ti na saith o feibion. 16 A Naomi a gymerth y plentyn, ac a’i gosododd ef yn ei mynwes, ac a fu famaeth iddo. 17 A’i chymdogesau a roddasant iddo enw, gan ddywedyd, Ganwyd mab i Naomi; ac a alwasant ei enw ef Obed: hwn oedd dad Jesse, tad Dafydd.

Salmau 127

Caniad y graddau, i Solomon.

127 Os yr Arglwydd nid adeilada y tŷ, ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho: os yr Arglwydd ni cheidw y ddinas, ofer y gwylia y ceidwad. Ofer i chwi foregodi, myned yn hwyr i gysgu, bwyta bara gofidiau: felly y rhydd efe hun i’w anwylyd. Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr Arglwydd: ei wobr ef yw ffrwyth y groth. Fel y mae saethau yn llaw y cadarn; felly y mae plant ieuenctid. Gwyn ei fyd y gŵr a lanwodd ei gawell saethau â hwynt: nis gwaradwyddir hwy, pan ymddiddanant â’r gelynion yn y porth.

Hebreaid 9:24-28

24 Canys nid i’r cysegr o waith llaw, portreiad y gwir gysegr, yr aeth Crist i mewn; ond i’r nef ei hun, i ymddangos yn awr gerbron Duw trosom ni: 25 Nac fel yr offrymai efe ei hun yn fynych, megis y mae’r archoffeiriad yn myned i mewn i’r cysegr bob blwyddyn, â gwaed arall: 26 (Oblegid yna rhaid fuasai iddo’n fynych ddioddef er dechreuad y byd;) eithr yr awron unwaith yn niwedd y byd yr ymddangosodd efe, i ddileu pechod trwy ei aberthu ei hun. 27 Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny bod barn: 28 Felly Crist hefyd, wedi ei offrymu unwaith i ddwyn ymaith bechodau llawer, a ymddengys yr ail waith, heb bechod, i’r rhai sydd yn ei ddisgwyl, er iachawdwriaeth.

Marc 12:38-44

38 Ac efe a ddywedodd wrthynt yn ei athrawiaeth, Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a chwenychant rodio mewn gwisgoedd llaesion, a chael cyfarch yn y marchnadoedd, 39 A’r prif gadeiriau yn y synagogau, a’r prif eisteddleoedd mewn swperau; 40 Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth fwy.

41 A’r Iesu a eisteddodd gyferbyn â’r drysorfa, ac a edrychodd pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw arian i’r drysorfa: a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer. 42 A rhyw wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy hatling, yr hyn yw ffyrling. 43 Ac efe a alwodd ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fwrw o’r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na’r rhai oll a fwriasant i’r drysorfa. 44 Canys hwynt‐hwy oll a fwriasant o’r hyn a oedd yng ngweddill ganddynt: ond hon o’i heisiau a fwriodd i mewn yr hyn oll a feddai, sef ei holl fywyd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.