Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Caniad y graddau, i Solomon.
127 Os yr Arglwydd nid adeilada y tŷ, ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho: os yr Arglwydd ni cheidw y ddinas, ofer y gwylia y ceidwad. 2 Ofer i chwi foregodi, myned yn hwyr i gysgu, bwyta bara gofidiau: felly y rhydd efe hun i’w anwylyd. 3 Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr Arglwydd: ei wobr ef yw ffrwyth y groth. 4 Fel y mae saethau yn llaw y cadarn; felly y mae plant ieuenctid. 5 Gwyn ei fyd y gŵr a lanwodd ei gawell saethau â hwynt: nis gwaradwyddir hwy, pan ymddiddanant â’r gelynion yn y porth.
18 Dyma genedlaethau Phares: Phares a genhedlodd Hesron, 19 A Hesron a genhedlodd Ram, a Ram a genhedlodd Aminadab, 20 Ac Aminadab a genhedlodd Nahson, a Nahson a genhedlodd Salmon, 21 A Salmon a genhedlodd Boas, a Boas a genhedlodd Obed, 22 Ac Obed a genhedlodd Jesse, a Jesse a genhedlodd Dafydd.
12 A thrannoeth, wedi iddynt ddyfod allan o Fethania, yr oedd arno chwant bwyd. 13 Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigysbren ag arno ddail, efe a aeth i edrych a gaffai ddim arno. A phan ddaeth ato, ni chafodd efe ddim ond y dail: canys nid oedd amser ffigys. 14 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Na fwytaed neb ffrwyth ohonot byth mwy. A’i ddisgyblion ef a glywsant.
20 A’r bore, wrth fyned heibio, hwy a welsant y ffigysbren wedi crino o’r gwraidd. 21 A Phedr wedi atgofio, a ddywedodd wrtho, Athro, wele y ffigysbren a felltithiaist, wedi crino. 22 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Bydded gennych ffydd yn Nuw: 23 Canys yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, Pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Tynner di ymaith, a bwrier di i’r môr; ac nid amheuo yn ei galon, ond credu y daw i ben y pethau a ddywedo efe; beth bynnag a ddywedo, a fydd iddo. 24 Am hynny meddaf i chwi, Beth bynnag oll a geisioch wrth weddïo credwch y derbyniwch, ac fe fydd i chwi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.