Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Caniad y graddau, i Solomon.
127 Os yr Arglwydd nid adeilada y tŷ, ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho: os yr Arglwydd ni cheidw y ddinas, ofer y gwylia y ceidwad. 2 Ofer i chwi foregodi, myned yn hwyr i gysgu, bwyta bara gofidiau: felly y rhydd efe hun i’w anwylyd. 3 Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr Arglwydd: ei wobr ef yw ffrwyth y groth. 4 Fel y mae saethau yn llaw y cadarn; felly y mae plant ieuenctid. 5 Gwyn ei fyd y gŵr a lanwodd ei gawell saethau â hwynt: nis gwaradwyddir hwy, pan ymddiddanant â’r gelynion yn y porth.
4 Yna Boas a aeth i fyny i’r porth, ac a eisteddodd yno. Ac wele y cyfathrachwr yn myned heibio, am yr hwn y dywedasai Boas. Ac efe a ddywedodd wrtho, Ho, hwn a hwn! tyred yn nes; eistedd yma. Ac efe a nesaodd, ac a eisteddodd. 2 Ac efe a gymerth ddengwr o henuriaid y ddinas, ac a ddywedodd, Eisteddwch yma. A hwy a eisteddasant. 3 Ac efe a ddywedodd wrth y cyfathrachwr, Y rhan o’r maes yr hon oedd eiddo ein brawd Elimelech a werth Naomi, yr hon a ddychwelodd o wlad Moab. 4 A dywedais y mynegwn i ti, gan ddywedyd, Prŷn ef gerbron y trigolion, a cherbron henuriaid fy mhobl. Os rhyddhei, rhyddha ef; ac oni ryddhei, mynega i mi, fel y gwypwyf: canys nid oes ond ti i’w ryddhau, a minnau sydd ar dy ôl di. Ac efe a ddywedodd, Myfi a’i rhyddhaf. 5 Yna y dywedodd Boas, Y diwrnod y prynych di y maes o law Naomi, ti a’i pryni hefyd gan Ruth y Foabes, gwraig y marw, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef.
6 A’r cyfathrachwr a ddywedodd, Ni allaf ei ryddhau i mi, rhag colli fy etifeddiaeth fy hun: rhyddha di i ti dy hun fy rhan i; canys ni allaf fi ei ryddhau. 7 A hyn oedd ddefod gynt yn Israel, am ryddhad, ac am gyfnewid, i sicrhau pob peth: Gŵr a ddiosgai ei esgid, ac a’i rhoddai i’w gymydog: a hyn oedd dystiolaeth yn Israel. 8 Am hynny y dywedodd y cyfathrachwr wrth Boas, Prŷn i ti dy hun: ac efe a ddiosgodd ei esgid.
9 A dywedodd Boas wrth yr henuriaid, ac wrth yr holl bobl, Tystion ydych chwi heddiw, i mi brynu yr hyn oll oedd eiddo Elimelech, a’r hyn oll oedd eiddo Chilion a Mahlon, o law Naomi. 10 Ruth hefyd y Foabes, gwraig Mahlon, a brynais i mi yn wraig, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef, fel na thorrer ymaith enw y marw o blith ei frodyr, nac oddi wrth borth ei fangre: tystion ydych chwi heddiw.
6 Canys Crist, pan oeddem ni eto yn weiniaid, mewn pryd a fu farw dros yr annuwiol. 7 Oblegid braidd y bydd neb farw dros un cyfiawn: oblegid dros y da ysgatfydd fe feiddiai un farw hefyd. 8 Eithr y mae Duw yn canmol ei gariad tuag atom; oblegid, a nyni eto yn bechaduriaid, i Grist farw trosom ni. 9 Mwy ynteu o lawer, a nyni yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed ef, y’n hachubir rhag digofaint trwyddo ef. 10 Canys os pan oeddem yn elynion, y’n heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef; mwy o lawer, wedi ein heddychu, y’n hachubir trwy ei fywyd ef. 11 Ac nid hynny yn unig, eithr gorfoleddu yr ydym hefyd yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn yr awr hon y derbyniasom y cymod.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.