Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
20 Yr Arglwydd a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi. 21 Canys cedwais ffyrdd yr Arglwydd, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw. 22 Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i, a’i ddeddfau ni fwriais oddi wrthyf. 23 Bûm hefyd yn berffaith gydag ef, ac ymgedwais rhag fy anwiredd. 24 A’r Arglwydd a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder, yn ôl purdeb fy nwylo o flaen ei lygaid ef. 25 A’r trugarog y gwnei drugaredd; â’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd. 26 A’r glân y gwnei lendid; ac â’r cyndyn yr ymgyndynni. 27 Canys ti a waredi y bobl gystuddiedig: ond ti a ostyngi olygon uchel. 28 Oherwydd ti a oleui fy nghannwyll: yr Arglwydd fy Nuw a lewyrcha fy nhywyllwch. 29 Oblegid ynot ti y rhedais trwy fyddin; ac yn fy Nuw y llemais dros fur. 30 Duw sydd berffaith ei ffordd: gair yr Arglwydd sydd wedi ei buro: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo.
8 Ac yng nghanol y nos y gŵr a ofnodd, ac a ymdrôdd: ac wele wraig yn gorwedd wrth ei draed ef. 9 Ac efe a ddywedodd, Pwy ydwyt ti? A hi a ddywedodd, Myfi yw Ruth dy lawforwyn: lleda gan hynny dy adain dros dy lawforwyn, canys fy nghyfathrachwr i ydwyt ti. 10 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddych, fy merch, gan yr Arglwydd: dangosaist fwy o garedigrwydd yn y diwedd, nag yn y dechrau; gan nad aethost ar ôl gwŷr ieuainc, na thlawd na chyfoethog. 11 Ac yn awr, fy merch, nac ofna; yr hyn oll a ddywedaist, a wnaf i ti: canys holl ddinas fy mhobl a ŵyr mai gwraig rinweddol ydwyt ti. 12 Ac yn awr gwir yw fy mod i yn gyfathrachwr agos: er hynny y mae cyfathrachwr nes na myfi. 13 Aros heno; a’r bore, os efe a wna ran cyfathrachwr â thi, da; gwnaed ran cyfathrachwr: ond os efe ni wna ran cyfathrachwr â thi; yna myfi a wnaf ran cyfathrachwr â thi, fel mai byw yr Arglwydd: cwsg hyd y bore.
14 A hi a orweddodd wrth ei draed ef hyd y bore: a hi a gyfododd cyn yr adwaenai neb ei gilydd. Ac efe a ddywedodd, Na chaffer gwybod dyfod gwraig i’r llawr dyrnu. 15 Ac efe a ddywedodd, Moes dy fantell sydd amdanat, ac ymafael ynddi. A hi a ymaflodd ynddi; ac efe a fesurodd chwe mesur o haidd, ac a’i gosododd arni: a hi a aeth i’r ddinas. 16 A phan ddaeth hi at ei chwegr, hi a ddywedodd, Pwy ydwyt ti, fy merch? A hi a fynegodd iddi yr hyn oll a wnaethai y gŵr iddi hi. 17 A hi a ddywedodd, Y chwe mesur hyn o haidd a roddodd efe i mi: canys dywedodd wrthyf, Nid ei yn waglaw at dy chwegr. 18 Yna y dywedodd hithau, Aros fy merch, oni wypech pa fodd y digwyddo y peth hyn: canys ni orffwys y gŵr, nes gorffen y peth hyn heddiw.
31 Yna gwedi iddo fyned allan, yr Iesu a ddywedodd, Yn awr y gogoneddwyd Mab y dyn, a Duw a ogoneddwyd ynddo ef. 32 Os gogoneddwyd Duw ynddo ef, Duw hefyd a’i gogonedda ef ynddo ei hun, ac efe a’i gogonedda ef yn ebrwydd. 33 O blant bychain, eto yr wyf ennyd fechan gyda chwi. Chwi a’m ceisiwch: ac, megis y dywedais wrth yr Iddewon, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod; yr ydwyf yn dywedyd wrthych chwithau hefyd yr awron. 34 Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, Ar garu ohonoch eich gilydd; fel y cerais i chwi, ar garu ohonoch chwithau bawb eich gilydd. 35 Wrth hyn y gwybydd pawb mai disgyblion i mi ydych, os bydd gennych gariad i’ch gilydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.