Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
20 Yr Arglwydd a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi. 21 Canys cedwais ffyrdd yr Arglwydd, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw. 22 Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i, a’i ddeddfau ni fwriais oddi wrthyf. 23 Bûm hefyd yn berffaith gydag ef, ac ymgedwais rhag fy anwiredd. 24 A’r Arglwydd a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder, yn ôl purdeb fy nwylo o flaen ei lygaid ef. 25 A’r trugarog y gwnei drugaredd; â’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd. 26 A’r glân y gwnei lendid; ac â’r cyndyn yr ymgyndynni. 27 Canys ti a waredi y bobl gystuddiedig: ond ti a ostyngi olygon uchel. 28 Oherwydd ti a oleui fy nghannwyll: yr Arglwydd fy Nuw a lewyrcha fy nhywyllwch. 29 Oblegid ynot ti y rhedais trwy fyddin; ac yn fy Nuw y llemais dros fur. 30 Duw sydd berffaith ei ffordd: gair yr Arglwydd sydd wedi ei buro: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo.
3 Yna Naomi ei chwegr a ddywedodd wrthi, Fy merch, oni cheisiaf fi orffwystra i ti, fel y byddo da i ti? 2 Ac yn awr onid yw Boas o’n cyfathrach ni, yr hwn y buost ti gyda’i lancesi? Wele efe yn nithio haidd y nos hon yn y llawr dyrnu. 3 Ymolch gan hynny, ac ymira, a gosod dy ddillad amdanat, a dos i waered i’r llawr dyrnu: na fydd gydnabyddus i’r gŵr, nes darfod iddo fwyta ac yfed. 4 A phan orweddo efe, yna dal ar y fan y gorweddo efe ynddi; a dos, a dinoetha ei draed ef, a gorwedd; ac efe a fynega i ti yr hyn a wnelych. 5 A hi a ddywedodd wrthi, Gwnaf yr hyn oll a erchaist i mi.
6 A hi a aeth i waered i’r llawr dyrnu, ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai ei chwegr iddi. 7 Ac wedi i Boas fwyta ac yfed, fel y llawenhaodd ei galon, efe a aeth i gysgu i gwr yr ysgafn. Hithau a ddaeth yn ddistaw, ac a ddinoethodd ei draed, ac a orweddodd.
17 A phan nesaodd amser yr addewid, yr hwn a dyngasai Duw i Abraham, y bobl a gynyddodd ac a amlhaodd yn yr Aifft, 18 Hyd oni chyfododd brenin arall, yr hwn nid adwaenai mo Joseff. 19 Hwn a fu ddichellgar wrth ein cenedl ni, ac a ddrygodd ein tadau, gan beri iddynt fwrw allan eu plant, fel nad epilient. 20 Ar yr hwn amser y ganwyd Moses; ac efe oedd dlws i Dduw, ac a fagwyd dri mis yn nhŷ ei dad. 21 Ac wedi ei fwrw ef allan, merch Pharo a’i cyfododd ef i fyny, ac a’i magodd ef yn fab iddi ei hun. 22 A Moses oedd ddysgedig yn holl ddoethineb yr Eifftiaid, ac oedd nerthol mewn geiriau ac mewn gweithredoedd. 23 A phan oedd efe yn llawn deugain mlwydd oed, daeth i’w galon ef ymweled â’i frodyr plant yr Israel. 24 A phan welodd efe un yn cael cam, efe a’i hamddiffynnodd ef, ac a ddialodd gam yr hwn a orthrymid, gan daro’r Eifftiwr. 25 Ac efe a dybiodd fod ei frodyr yn deall, fod Duw yn rhoddi iachawdwriaeth iddynt trwy ei law ef; eithr hwynt‐hwy ni ddeallasant. 26 A’r dydd nesaf yr ymddangosodd efe iddynt, a hwy yn ymrafaelio, ac a’u hanogodd hwynt i heddychu, gan ddywedyd, Ha wŷr, brodyr ydych chwi; paham y gwnewch gam â’ch gilydd? 27 Ond yr hwn oedd yn gwneuthur cam â’i gymydog, a’i cilgwthiodd ef, gan ddywedyd, Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni? 28 A leddi di fi, y modd y lleddaist yr Eifftiwr ddoe? 29 A Moses a ffodd ar y gair hwn, ac a fu ddieithr yn nhir Midian; lle y cenhedlodd efe ddau o feibion.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.