Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
20 Yr Arglwydd a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi. 21 Canys cedwais ffyrdd yr Arglwydd, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw. 22 Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i, a’i ddeddfau ni fwriais oddi wrthyf. 23 Bûm hefyd yn berffaith gydag ef, ac ymgedwais rhag fy anwiredd. 24 A’r Arglwydd a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder, yn ôl purdeb fy nwylo o flaen ei lygaid ef. 25 A’r trugarog y gwnei drugaredd; â’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd. 26 A’r glân y gwnei lendid; ac â’r cyndyn yr ymgyndynni. 27 Canys ti a waredi y bobl gystuddiedig: ond ti a ostyngi olygon uchel. 28 Oherwydd ti a oleui fy nghannwyll: yr Arglwydd fy Nuw a lewyrcha fy nhywyllwch. 29 Oblegid ynot ti y rhedais trwy fyddin; ac yn fy Nuw y llemais dros fur. 30 Duw sydd berffaith ei ffordd: gair yr Arglwydd sydd wedi ei buro: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo.
15 A hi a gyfododd i loffa: a gorchmynnodd Boas i’w weision, gan ddywedyd, Lloffed hefyd ymysg yr ysgubau, ac na feiwch arni: 16 A chan ollwng gollyngwch hefyd iddi beth o’r ysgubau; a gadewch hwynt, fel y lloffo hi hwynt; ac na cheryddwch hi. 17 Felly hi a loffodd yn y maes hyd yr hwyr: a hi a ddyrnodd yr hyn a loffasai, ac yr oedd ynghylch effa o haidd.
18 A hi a’i cymerth, ac a aeth i’r ddinas: a’i chwegr a ganfu yr hyn a gasglasai hi: hefyd hi a dynnodd allan, ac a roddodd iddi yr hyn a weddillasai hi, wedi cael digon. 19 A dywedodd ei chwegr wrthi hi, Pa le y lloffaist heddiw, a pha le y gweithiaist? bydded yr hwn a’th adnabu yn fendigedig. A hi a fynegodd i’w chwegr pwy y gweithiasai hi gydag ef; ac a ddywedodd, Enw y gŵr y gweithiais gydag ef heddiw, yw Boas. 20 A dywedodd Naomi wrth ei gwaudd, Bendigedig fyddo efe gan yr Arglwydd, yr hwn ni pheidiodd â’i garedigrwydd tua’r rhai byw a’r rhai meirw. Dywedodd Naomi hefyd wrthi hi, Agos i ni yw y gŵr hwnnw, o’n cyfathrach ni y mae efe. 21 A Ruth y Foabes a ddywedodd, Efe a ddywedodd hefyd wrthyf, Gyda’m llanciau i yr arhosi, nes gorffen ohonynt fy holl gynhaeaf i. 22 A dywedodd Naomi wrth Ruth ei gwaudd, Da yw, fy merch, i ti fyned gyda’i lancesi ef, fel na ruthront i’th erbyn mewn maes arall. 23 Felly hi a ddilynodd lancesau Boas i loffa, nes darfod cynhaeaf yr haidd a chynhaeaf y gwenith: ac a drigodd gyda’i chwegr.
17 Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Darperwch bethau onest yng ngolwg pob dyn. 18 Os yw bosibl, hyd y mae ynoch chwi, byddwch heddychlon â phob dyn. 19 Nac ymddielwch, rai annwyl, ond rhoddwch le i ddigofaint: canys y mae yn ysgrifenedig, I mi y mae dial; myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. 20 Am hynny, os dy elyn a newyna, portha ef; os sycheda, dyro iddo ddiod: canys wrth wneuthur hyn ti a bentyrri farwor tanllyd ar ei ben ef. 21 Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni.
8 Na fyddwch yn nyled neb o ddim, ond o garu bawb eich gilydd: canys yr hwn sydd yn caru arall, a gyflawnodd y gyfraith. 9 Canys hyn, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, Na thrachwanta; ac od oes un gorchymyn arall, y mae wedi ei gynnwys yn gryno yn yr ymadrodd hwn, Câr dy gymydog fel ti dy hun. 10 Cariad ni wna ddrwg i’w gymydog: am hynny cyflawnder y gyfraith yw cariad.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.