Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 146

146 Molwch yr Arglwydd. Fy enaid, mola di yr Arglwydd. Molaf yr Arglwydd yn fy myw: canaf i’m Duw tra fyddwyf. Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo. Ei anadl a â allan, efe a ddychwel i’w ddaear: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef. Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymorth iddo, sydd â’i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw: Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, y môr, a’r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd: Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymedig, yn rhoddi bara i’r newynog. Yr Arglwydd sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd. Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion: yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn. Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid: efe a gynnal yr amddifad a’r weddw; ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol. 10 Yr Arglwydd a deyrnasa byth, sef dy Dduw di, Seion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr Arglwydd.

Ruth 2:10-14

10 Yna hi a syrthiodd ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd i lawr, ac a ddywedodd wrtho ef, Paham y cefais ffafr yn dy olwg di, fel y cymerit gydnabod arnaf, a minnau yn alltudes? 11 A Boas a atebodd, ac a ddywedodd wrthi, Gan fynegi y mynegwyd i mi yr hyn oll a wnaethost i’th chwegr ar ôl marwolaeth dy ŵr; ac fel y gadewaist dy dad a’th fam, a gwlad dy enedigaeth, ac y daethost at bobl nid adwaenit o’r blaen. 12 Yr Arglwydd a dalo am dy waith; a bydded dy obrwy yn berffaith gan Arglwydd Dduw Israel, yr hwn y daethost i obeithio dan ei adenydd. 13 Yna hi a ddywedodd, Caffwyf ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd; gan i ti fy nghysuro i, a chan i ti lefaru wrth fodd calon dy wasanaethferch, er nad ydwyf fel un o’th lawforynion di. 14 A dywedodd Boas wrthi hi, Yn amser bwyd tyred yma, a bwyta o’r bara, a gwlych dy damaid yn y finegr. A hi a eisteddodd wrth ystlys y medelwyr: ac efe a estynnodd iddi gras ŷd; a hi a fwytaodd, ac a ddigonwyd, ac a adawodd weddill.

Luc 10:25-37

25 Ac wele, rhyw gyfreithiwr a gododd, gan ei demtio ef, a dywedyd, Athro, pa beth a wnaf i gael etifeddu bywyd tragwyddol? 26 Yntau a ddywedodd wrtho, Pa beth sydd ysgrifenedig yn y gyfraith? pa fodd y darlleni? 27 Ac efe gan ateb a ddywedodd, Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth, ac â’th holl feddwl; a’th gymydog fel ti dy hun. 28 Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a atebaist yn uniawn: gwna hyn, a byw fyddi. 29 Eithr efe, yn ewyllysio ei gyfiawnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, A phwy yw fy nghymydog? 30 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, Rhyw ddyn oedd yn myned i waered o Jerwsalem i Jericho, ac a syrthiodd ymysg lladron; y rhai wedi ei ddiosg ef, a’i archolli, a aethant ymaith, gan ei adael yn hanner marw. 31 Ac ar ddamwain rhyw offeiriad a ddaeth i waered y ffordd honno: a phan ei gwelodd, efe a aeth o’r tu arall heibio. 32 A’r un ffunud Lefiad hefyd, wedi dyfod i’r fan, a’i weled ef, a aeth o’r tu arall heibio. 33 Eithr rhyw Samariad, wrth ymdaith, a ddaeth ato ef: a phan ei gwelodd, a dosturiodd, 34 Ac a aeth ato, ac a rwymodd ei archollion ef, gan dywallt ynddynt olew a gwin; ac a’i gosododd ef ar ei anifail ei hun, ac a’i dug ef i’r llety, ac a’i hamgeleddodd. 35 A thrannoeth wrth fyned ymaith, efe a dynnodd allan ddwy geiniog, ac a’u rhoddes i’r lletywr, ac a ddywedodd wrtho, Cymer ofal drosto: a pha beth bynnag a dreuliech yn ychwaneg, pan ddelwyf drachefn, mi a’i talaf i ti. 36 Pwy gan hynny o’r tri hyn, yr ydwyt ti yn tybied ei fod yn gymydog i’r hwn a syrthiasai ymhlith y lladron? 37 Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drugaredd ag ef. A’r Iesu am hynny a ddywedodd wrtho, Dos, a gwna dithau yr un modd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.