Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 28

Salm Dafydd.

28 Arnat ti, Arglwydd, y gwaeddaf; fy nghraig, na ddistawa wrthyf: rhag, o thewi wrthyf, i mi fod yn gyffelyb i rai yn disgyn i’r pwll. Erglyw lef fy ymbil pan waeddwyf arnat, pan ddyrchafwyf fy nwylo tuag at dy gafell sanctaidd. Na thyn fi gyda’r annuwiolion, a chyda gweithredwyr anwiredd; y rhai a lefarant heddwch wrth eu cymdogion, a drwg yn eu calon. Dyro iddynt yn ôl eu gweithred, ac yn ôl drygioni eu dychmygion: dyro iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo; tâl iddynt eu haeddedigaethau. Am nad ystyriant weithredoedd yr Arglwydd, na gwaith ei ddwylo ef, y dinistria efe hwynt, ac nis adeilada hwynt. Bendigedig fyddo yr Arglwydd: canys clybu lef fy ngweddïau. Yr Arglwydd yw fy nerth, a’m tarian; ynddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon, a myfi a gynorthwywyd: oherwydd hyn y llawenychodd fy nghalon, ac ar fy nghân y clodforaf ef. Yr Arglwydd sydd nerth i’r cyfryw rai, a chadernid iachawdwriaeth ei Eneiniog yw efe. Cadw dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth: portha hwynt hefyd, a dyrcha hwynt yn dragywydd.

Eseciel 18

18 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, Paham gennych arferu y ddihareb hon am dir Israel, gan ddywedyd, Y tadau a fwytasant rawnwin surion, ac ar ddannedd y plant y mae dincod? Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni bydd i chwi mwy arferu y ddihareb hon yn Israel. Wele, yr holl eneidiau eiddof fi ydynt; fel enaid y tad, felly hefyd enaid y mab, eiddof fi ydynt; yr enaid a becho, hwnnw a fydd farw.

Canys os bydd gŵr yn gyfiawn, ac yn gwneuthur barn a chyfiawnder, Heb fwyta ar y mynyddoedd, na chyfodi ei lygaid at eilunod tŷ Israel, ac heb halogi gwraig ei gymydog, na nesáu at wraig fisglwyfus, Na gorthrymu neb, ond a roddes ei wystl i’r dyledwr yn ei ôl, ni threisiodd drais, ei fara a roddodd i’r newynog, ac a ddilladodd y noeth, Ni roddes ar usuriaeth, ac ni chymerodd ychwaneg, ei law a dynnodd yn ei hôl oddi wrth anwiredd, gwir farn a wnaeth rhwng gŵr a gŵr. Yn fy neddfau y rhodiodd, a’m barnedigaethau a gadwodd, i wneuthur gwirionedd: cyfiawn yw; gan fyw efe a fydd byw, medd yr Arglwydd Dduw.

10 Os cenhedla efe fab yn lleidr, ac yn tywallt gwaed, ac a wna gyffelyb i’r un o’r pethau hyn, 11 Ac ni wna yr un o’r pethau hynny, ond ar y mynyddoedd y bwyty, a gwraig ei gymydog a haloga, 12 Yr anghenus a’r tlawd a orthryma, trais a dreisia, gwystl ni rydd drachefn, ac at eilunod y cyfyd ei lygaid, a wnaeth ffieidd‐dra, 13 Ar usuriaeth y rhoddes, ac ychwaneg a gymerth; gan hynny a fydd efe byw? Ni bydd byw: gwnaeth yr holl ffieidd‐dra hyn; gan farw y bydd farw; ei waed a fydd arno ei hun.

14 Ac wele, os cenhedla fab a wêl holl bechodau ei dad y rhai a wnaeth efe, ac a ystyria, ac ni wna felly, 15 Ar y mynyddoedd ni fwyty, a’i lygaid ni chyfyd at eilunod tŷ Israel, ni haloga wraig ei gymydog, 16 Ni orthryma neb chwaith, ni atal wystl, ac ni threisia drais, ei fara a rydd i’r newynog, a’r noeth a ddillada, 17 Ni thry ei law oddi wrth yr anghenog, usuriaeth na llog ni chymer, fy marnau a wna, yn fy neddfau y rhodia: hwnnw ni bydd farw am anwiredd ei dad; gan fyw y bydd efe byw. 18 Ei dad, am orthrymu yn dost, a threisio ei frawd trwy orthrech, a gwneuthur yr hyn nid oedd dda ymysg ei bobl, wele, efe a fydd marw yn ei anwiredd.

19 Eto chwi a ddywedwch, Paham? oni ddwg y mab anwiredd y tad? Pan wnelo y mab farn a chyfiawnder, a chadw fy holl ddeddfau, a’u gwneuthur hwynt, gan fyw efe a fydd byw. 20 Yr enaid a becho, hwnnw a fydd marw. Y mab ni ddwg anwiredd y tad, a’r tad ni ddwg anwiredd y mab: cyfiawnder y cyfiawn fydd arno ef, a drygioni y drygionus fydd arno yntau. 21 Ond os yr annuwiol a ddychwel oddi wrth ei holl bechodau y rhai a wnaeth, a chadw fy holl ddeddfau, a gwneuthur barn a chyfiawnder, efe gan fyw a fydd byw; ni bydd efe marw. 22 Ni chofir iddo yr holl gamweddau a wnaeth: yn ei gyfiawnder a wnaeth y bydd efe byw. 23 Gan ewyllysio a ewyllysiwn i farw yr annuwiol, medd yr Arglwydd Dduw, ac na ddychwelai oddi wrth ei ffyrdd, a byw?

24 Ond pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, a gwneuthur yn ôl yr holl ffieidd‐dra a wnelo yr annuwiol; a fydd efe byw? ni chofir yr holl gyfiawnderau a wnaeth efe: yn ei gamwedd yr hwn a wnaeth, ac yn ei bechod a bechodd, ynddynt y bydd efe marw.

25 Eto chwi a ddywedwch, Nid cymwys yw ffordd yr Arglwydd. Gwrandewch yr awr hon, tŷ Israel, onid yw gymwys fy ffordd i? onid eich ffyrdd chwi nid ydynt gymwys? 26 Pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, a marw ynddynt; am ei anwiredd a wnaeth y bydd efe marw. 27 A phan ddychwelo yr annuwiol oddi wrth ei ddrygioni yr hwn a wnaeth, a gwneuthur barn a chyfiawnder, hwnnw a geidw yn fyw ei enaid. 28 Am iddo ystyried, a dychwelyd oddi wrth ei holl gamweddau y rhai a wnaeth, gan fyw y bydd byw, ni bydd marw. 29 Eto tŷ Israel a ddywedant, Nid cymwys yw ffordd yr Arglwydd. Tŷ Israel, onid cymwys fy ffyrdd i? onid eich ffyrdd chwi nid ydynt gymwys? 30 Am hynny barnaf chwi, tŷ Israel, bob un yn ôl ei ffyrdd ei hun, medd yr Arglwydd Dduw. Dychwelwch, a throwch oddi wrth eich holl gamweddau; fel na byddo anwiredd yn dramgwydd i chwi.

31 Bwriwch oddi wrthych eich holl gamweddau y camweddasoch ynddynt, a gwnewch i chwi galon newydd, ac ysbryd newydd: canys paham, tŷ Israel, y byddwch feirw? 32 Canys nid oes ewyllys gennyf i farwolaeth y marw, medd yr Arglwydd Dduw. Dychwelwch gan hynny, a byddwch fyw.

Actau 9:32-35

32 A bu, a Phedr yn tramwy trwy’r holl wledydd, iddo ddyfod i waered at y saint hefyd y rhai oedd yn trigo yn Lyda. 33 Ac efe a gafodd yno ryw ddyn a’i enw Aeneas, er ys wyth mlynedd yn gorwedd ar wely, yr hwn oedd glaf o’r parlys. 34 A Phedr a ddywedodd wrtho, Aeneas, y mae Iesu Grist yn dy iacháu di: cyfod, a chyweiria dy wely. Ac efe a gyfododd yn ebrwydd. 35 A phawb a’r oedd yn preswylio yn Lyda a Saron a’i gwelsant ef, ac a ymchwelasant at yr Arglwydd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.