Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 34:1-8

Salm Dafydd, pan newidiodd efe ei wedd o flaen Abimelech; yr hwn a’i gyrrodd ef ymaith, ac efe a ymadawodd.

34 Bendithiaf yr Arglwydd bob amser: ei foliant fydd yn fy ngenau yn wastad. Yn yr Arglwydd y gorfoledda fy enaid: y rhai gostyngedig a glywant hyn, ac a lawenychant. Mawrygwch yr Arglwydd gyda mi; a chyd‐ddyrchafwn ei enw ef. Ceisiais yr Arglwydd, ac efe a’m gwrandawodd; gwaredodd fi hefyd o’m holl ofn. Edrychasant arno, a hwy a oleuwyd; a’u hwynebau ni chywilyddiwyd. Y tlawd hwn a lefodd, a’r Arglwydd a’i clybu, ac a’i gwaredodd o’i holl drallodau. Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a’i hofnant ef, ac a’u gwared hwynt. Profwch, a gwelwch mor dda yw yr Arglwydd: gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo.

Salmau 34:19-22

19 Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn: ond yr Arglwydd a’i gwared ef oddi wrthynt oll. 20 Efe a geidw ei holl esgyrn ef: ni thorrir un ohonynt. 21 Drygioni a ladd yr annuwiol: a’r rhai a gasânt y cyfiawn, a anrheithir. 22 Yr Arglwydd a wared eneidiau ei weision: a’r rhai oll a ymddiriedant ynddo ef, nid anrheithir hwynt.

2 Brenhinoedd 20:12-19

12 Yn yr amser hwnnw yr anfonodd Berodach‐Baladan, mab Baladan brenin Babilon, lythyrau ac anrheg at Heseceia: canys efe a glywsai fod Heseceia yn glaf. 13 A Heseceia a wrandawodd arnynt, ac a ddangosodd iddynt holl dŷ ei drysor, yr arian, a’r aur, a’r peraroglau, a’r olew gorau, a holl dŷ ei arfau, a’r hyn oll a gafwyd yn ei drysorau ef: nid oedd dim yn ei dŷ ef, nac yn ei holl gyfoeth ef, a’r nas dangosodd Heseceia iddynt.

14 Yna Eseia y proffwyd a ddaeth at y brenin Heseceia, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd y gwŷr hyn? ac o ba le y daethant atat ti? A dywedodd Heseceia, O wlad bell y daethant hwy, sef o Babilon. 15 Yntau a ddywedodd, Beth a welsant hwy yn dy dŷ di? A dywedodd Heseceia, Yr hyn oll oedd yn fy nhŷ i a welsant hwy: nid oes dim yn fy nhrysorau i nas dangosais iddynt hwy. 16 Ac Eseia a ddywedodd wrth Heseceia, Gwrando air yr Arglwydd. 17 Wele y dyddiau yn dyfod, pan ddyger i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di, a’r hyn a gynilodd dy dadau hyd y dydd hwn: ni adewir dim, medd yr Arglwydd. 18 Cymerant hefyd o’th feibion di, y rhai a ddaw allan ohonot, y rhai a genhedli di, a hwy a fyddant yn ystafellyddion yn llys brenin Babilon. 19 Yna Heseceia a ddywedodd wrth Eseia, Da yw gair yr Arglwydd, yr hwn a leferaist. Dywedodd hefyd, Onid da os bydd heddwch a gwirionedd yn fy nyddiau i?

Hebreaid 7:1-10

Canys y Melchisedec hwn, brenin Salem, offeiriad y Duw Goruchaf, yr hwn a gyfarfu ag Abraham wrth ddychwelyd o ladd y brenhinoedd, ac a’i bendithiodd ef; I’r hwn hefyd y cyfrannodd Abraham ddegwm o bob peth: yr hwn yn gyntaf, o’i gyfieithu, yw Brenin cyfiawnder, ac wedi hynny hefyd, Brenin Salem, yr hyn yw, Brenin heddwch; Heb dad, heb fam, heb achau, heb fod iddo na dechrau dyddiau, na diwedd einioes; eithr wedi ei wneuthur yn gyffelyb i Fab Duw, sydd yn aros yn Offeiriad yn dragywydd. Edrychwch faint oedd hwn, i’r hwn hefyd y rhoddodd Abraham y patriarch ddegwm o’r anrhaith. A’r rhai yn wir sydd o feibion Lefi yn derbyn swydd yr offeiriadaeth, y mae ganddynt orchymyn i gymryd degwm gan y bobl yn ôl y gyfraith, sef gan eu brodyr, er eu bod wedi dyfod o lwynau Abraham: Eithr yr hwn nid oedd ei achau ohonynt hwy, a gymerodd ddegwm gan Abraham, ac a fendithiodd yr hwn yr oedd yr addewidion iddo. Ac yn ddi‐ddadl, yr hwn sydd leiaf a fendithir gan ei well. Ac yma y mae dynion y rhai sydd yn meirw yn cymryd degymau: eithr yno, yr hwn y tystiolaethwyd amdano ei fod ef yn fyw. Ac, fel y dywedwyf felly, yn Abraham y talodd Lefi hefyd ddegwm, yr hwn oedd yn cymryd degymau. 10 Oblegid yr ydoedd efe eto yn lwynau ei dad, pan gyfarfu Melchisedec ag ef.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.