Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Al‐teschith, Salm neu Gân Asaff.
75 Clodforwn dydi, O Dduw, clodforwn; canys agos yw dy enw; dy ryfeddodau a fynegant hynny. 2 Pan dderbyniwyf y gynulleidfa, mi a farnaf yn uniawn. 3 Ymddatododd y ddaear, a’i holl drigolion: myfi sydd yn cynnal ei cholofnau. Sela. 4 Dywedais wrth y rhai ynfyd, Nac ynfydwch; ac wrth y rhai annuwiol, Na ddyrchefwch eich corn: 5 Na ddyrchefwch eich corn yn uchel: na ddywedwch yn warsyth. 6 Canys nid o’r dwyrain, nac o’r gorllewin, nac o’r deau, y daw goruchafiaeth. 7 Ond Duw sydd yn barnu; efe a ostwng y naill, ac a gyfyd y llall. 8 Oblegid y mae ffiol yn llaw yr Arglwydd, a’r gwin sydd goch; yn llawn cymysg, ac efe a dywalltodd ohono: eto holl annuwiolion y tir a wasgant, ac a yfant ei waelodion. 9 Minnau a fynegaf yn dragywydd, ac a ganaf i Dduw Jacob. 10 Torraf hefyd holl gyrn y rhai annuwiol; a chyrn y rhai cyfiawn a ddyrchefir.
12 Ni chelaf ei aelodau ef, na’i gryfder, na gweddeidd‐dra ei ystum ef. 13 Pwy a ddatguddia wyneb ei wisg ef? pwy a ddaw ato ef â’i ffrwyn ddauddyblyg? 14 Pwy a egyr ddorau ei wyneb ef? ofnadwy yw amgylchoedd ei ddannedd ef. 15 Ei falchder yw ei emau, wedi eu cau ynghyd megis â sêl gaeth. 16 Y mae y naill mor agos at y llall, fel na ddaw gwynt rhyngddynt. 17 Pob un a lŷn wrth ei gilydd; hwy a gydymgysylltant, fel na wahenir hwy. 18 Wrth ei disian ef y tywynna goleuni, a’i lygaid ef sydd fel amrantau y bore. 19 Ffaglau a ânt allan, a gwreichion tanllyd a neidiant o’i enau ef. 20 Mwg a ddaw allan o’i ffroenau, fel o bair neu grochan berwedig. 21 Ei anadl a wna i’r glo losgi, a fflam a ddaw allan o’i enau. 22 Yn ei wddf y trig cryfder, a thristwch a dry yn llawenydd o’i flaen ef. 23 Llywethau ei gnawd a lynant ynghyd: caledodd ynddo ei hun, fel na syflo. 24 Caled ydyw ei galon fel carreg: a chaled fel darn o’r maen isaf i felin. 25 Rhai cryfion a ofnant pan godo efe: rhag ei ddrylliadau ef yr ymlanhânt. 26 Cleddyf yr hwn a’i trawo, ni ddeil; y waywffon, y bicell, na’r llurig. 27 Efe a gyfrif haearn fel gwellt, a phres fel pren pwdr. 28 Ni phair saeth iddo ffoi: cerrig tafl a droed iddo yn sofl. 29 Picellau a gyfrifir fel soflyn; ac efe a chwardd wrth ysgwyd gwaywffon. 30 Dano ef y bydd megis darnau llymion o lestri pridd: efe a daena bethau llymion ar hyd y clai. 31 Efe a wna i’r dyfnder ferwi fel crochan: efe a esyd y môr fel crochan o ennaint. 32 Efe a wna lwybr golau ar ei ôl; fel y tybygid fod y dyfnder yn frigwyn. 33 Nid oes ar y ddaear gyffelyb iddo, yr hwn a wnaethpwyd heb ofn. 34 Efe a edrych ar bob peth uchel: brenin ydyw ar holl feibion balchder.
13 Achyn gŵyl y pasg, yr Iesu yn gwybod ddyfod ei awr ef i ymadael â’r byd hwn at y Tad, efe yn caru yr eiddo y rhai oedd yn y byd, a’u carodd hwynt hyd y diwedd. 2 Ac wedi darfod swper, wedi i ddiafol eisoes roi yng nghalon Jwdas Iscariot, mab Simon, ei fradychu ef; 3 Yr Iesu yn gwybod roddi o’r Tad bob peth oll yn ei ddwylo ef, a’i fod wedi dyfod oddi wrth Dduw, ac yn myned at Dduw; 4 Efe a gyfododd oddi ar swper, ac a roes heibio ei gochlwisg, ac a gymerodd dywel, ac a ymwregysodd. 5 Wedi hynny efe a dywalltodd ddwfr i’r cawg, ac a ddechreuodd olchi traed y disgyblion, a’u sychu â’r tywel, â’r hwn yr oedd efe wedi ei wregysu. 6 Yna y daeth efe at Simon Pedr: ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, a wyt ti’n golchi fy nhraed i? 7 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Y peth yr wyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost ti yr awron: eithr ti a gei wybod ar ôl hyn. 8 Pedr a ddywedodd wrtho, Ni chei di olchi fy nhraed i byth. Yr Iesu a atebodd iddo, Oni olchaf di, nid oes i ti gyfran gyda myfi. 9 Simon Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid fy nhraed yn unig, eithr fy nwylo a’m pen hefyd. 10 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yr hwn a olchwyd, nid rhaid iddo ond golchi ei draed, eithr y mae yn lân oll: ac yr ydych chwi yn lân, eithr nid pawb oll. 11 Canys efe a wyddai pwy a’i bradychai ef: am hynny y dywedodd, Nid ydych chwi yn lân bawb oll. 12 Felly wedi iddo olchi eu traed hwy, a chymryd ei gochlwisg, efe a eisteddodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, A wyddoch chwi pa beth a wneuthum i chwi? 13 Yr ydych chwi yn fy ngalw i, Yr Athro, a’r Arglwydd: a da y dywedwch; canys felly yr ydwyf. 14 Am hynny os myfi, yn Arglwydd ac yn Athro, a olchais eich traed chwi; chwithau a ddylech olchi traed eich gilydd; 15 Canys rhoddais esampl i chwi, fel y gwnelech chwithau megis y gwneuthum i chwi. 16 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd; na’r hwn a ddanfonwyd yn fwy na’r hwn a’i danfonodd. 17 Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gwnewch hwynt.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.