Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 75

I’r Pencerdd, Al‐teschith, Salm neu Gân Asaff.

75 Clodforwn dydi, O Dduw, clodforwn; canys agos yw dy enw; dy ryfeddodau a fynegant hynny. Pan dderbyniwyf y gynulleidfa, mi a farnaf yn uniawn. Ymddatododd y ddaear, a’i holl drigolion: myfi sydd yn cynnal ei cholofnau. Sela. Dywedais wrth y rhai ynfyd, Nac ynfydwch; ac wrth y rhai annuwiol, Na ddyrchefwch eich corn: Na ddyrchefwch eich corn yn uchel: na ddywedwch yn warsyth. Canys nid o’r dwyrain, nac o’r gorllewin, nac o’r deau, y daw goruchafiaeth. Ond Duw sydd yn barnu; efe a ostwng y naill, ac a gyfyd y llall. Oblegid y mae ffiol yn llaw yr Arglwydd, a’r gwin sydd goch; yn llawn cymysg, ac efe a dywalltodd ohono: eto holl annuwiolion y tir a wasgant, ac a yfant ei waelodion. Minnau a fynegaf yn dragywydd, ac a ganaf i Dduw Jacob. 10 Torraf hefyd holl gyrn y rhai annuwiol; a chyrn y rhai cyfiawn a ddyrchefir.

Job 41:1-11

41 A dynni di y lefiathan allan â bach? neu a rwymi di ei dafod ef â rhaff? A osodi di fach yn ei drwyn ef? neu a dylli di asgwrn ei ên ef â mynawyd? A fawr ymbil efe â thi? a ddywed efe wrthyt ti yn deg? A wna efe amod â thi? a gymeri di ef yn was tragwyddol? A chwaraei di ag ef fel ag aderyn? neu a rwymi di ef i’th lancesau? A swpera cyfeillion arno? a gyfrannant hwy ef rhwng marsiandwyr? A lenwi di ei groen ef â phigau heyrn? neu ei ben â thryferau? Gosod dy law arno ef; cofia y rhyfel; na wna mwy. Wele, ofer ydyw ei obaith ef: oni chwymp un gan ei olwg ef? 10 Nid oes neb mor hyderus â’i godi ef: a phwy a saif ger fy mron i? 11 Pwy a roddodd i mi yn gyntaf, a mi a dalaf? beth bynnag sydd dan yr holl nefoedd, eiddof fi yw.

Hebreaid 6:13-20

13 Canys Duw, wrth wneuthur addewid i Abraham, oblegid na allai dyngu i neb oedd fwy, a dyngodd iddo ei hun, 14 Gan ddywedyd, Yn ddiau gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhau y’th amlhaf. 15 Ac felly, wedi iddo hirymaros, efe a gafodd yr addewid. 16 Canys dynion yn wir sydd yn tyngu i un a fo mwy: a llw er sicrwydd sydd derfyn iddynt ar bob ymryson. 17 Yn yr hyn Duw, yn ewyllysio yn helaethach ddangos i etifeddion yr addewid ddianwadalwch ei gyngor, a gyfryngodd trwy lw: 18 Fel trwy ddau beth dianwadal, yn y rhai yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog, y gallem ni gael cysur cryf, y rhai a ffoesom i gymryd gafael yn y gobaith a osodwyd o’n blaen; 19 Yr hwn sydd gennym ni megis angor yr enaid, yn ddiogel ac yn sicr, ac yn myned i mewn hyd at yr hyn sydd o’r tu fewn i’r llen; 20 I’r man yr aeth y rhagflaenor drosom ni, sef Iesu, yr hwn a wnaethpwyd yn Archoffeiriad yn dragwyddol yn ôl urdd Melchisedec.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.