Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Al‐teschith, Salm neu Gân Asaff.
75 Clodforwn dydi, O Dduw, clodforwn; canys agos yw dy enw; dy ryfeddodau a fynegant hynny. 2 Pan dderbyniwyf y gynulleidfa, mi a farnaf yn uniawn. 3 Ymddatododd y ddaear, a’i holl drigolion: myfi sydd yn cynnal ei cholofnau. Sela. 4 Dywedais wrth y rhai ynfyd, Nac ynfydwch; ac wrth y rhai annuwiol, Na ddyrchefwch eich corn: 5 Na ddyrchefwch eich corn yn uchel: na ddywedwch yn warsyth. 6 Canys nid o’r dwyrain, nac o’r gorllewin, nac o’r deau, y daw goruchafiaeth. 7 Ond Duw sydd yn barnu; efe a ostwng y naill, ac a gyfyd y llall. 8 Oblegid y mae ffiol yn llaw yr Arglwydd, a’r gwin sydd goch; yn llawn cymysg, ac efe a dywalltodd ohono: eto holl annuwiolion y tir a wasgant, ac a yfant ei waelodion. 9 Minnau a fynegaf yn dragywydd, ac a ganaf i Dduw Jacob. 10 Torraf hefyd holl gyrn y rhai annuwiol; a chyrn y rhai cyfiawn a ddyrchefir.
40 Yr Arglwydd hefyd a atebodd Job, ac a ddywedodd, 2 Ai dysgeidiaeth yw ymryson â’r Hollalluog? a argyhoeddo Dduw, atebed i hynny.
3 A Job a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, 4 Wele, gwael ydwyf; pa beth a atebaf i ti? mi a osodaf fy llaw ar fy ngenau. 5 Dywedais unwaith; ond nid atebaf: ie, ddwywaith; ond ni chwanegaf.
6 A’r Arglwydd a atebodd Job allan o’r corwynt, ac a ddywedodd, 7 Gwregysa yn awr dy lwynau fel gŵr; a myfi a ofynnaf i ti, mynega dithau i mi. 8 A wnei di fy marn i yn ofer? a ferni di fi yn anghyfiawn, i’th gyfiawnhau dy hun? 9 A oes i ti fraich fel i Dduw? neu a wnei di daranau â’th lais fel yntau? 10 Ymdrwsia yn awr â mawredd ac â godidowgrwydd, ac ymwisg â gogoniant ac â phrydferthwch. 11 Gwasgar gynddaredd dy ddigofaint; ac edrych ar bob balch, a thafl ef i lawr. 12 Edrych ar bob balch, a gostwng ef; a mathra yr annuwiol yn eu lle. 13 Cuddia hwynt ynghyd yn y pridd, a rhwym eu hwynebau hwynt mewn lle cuddiedig. 14 Yna hefyd myfi a addefaf i ti, y gall dy ddeheulaw dy achub.
15 Yn awr wele y behemoth, yr hwn a wneuthum gyda thi; glaswellt a fwyty efe fel ych. 16 Wele yn awr, ei gryfder ef sydd yn ei lwynau, a’i nerth ym mogel ei fol. 17 Efe a gyfyd ei gynffon fel cedrwydden: gewynnau ei arennau ef sydd blethedig. 18 Pibellau pres ydyw ei esgyrn ef: ei esgyrn sydd fel ffyn heyrn. 19 Pennaf o ffyrdd Duw ydyw efe: yr hwn a’i gwnaeth a all beri i’w gleddyf nesáu ato ef. 20 Y mynyddoedd yn ddiau a ddygant laswellt iddo: ac yno y chwery holl anifeiliaid y maes. 21 Efe a orwedd dan goedydd cysgodfawr, mewn lloches o gyrs a siglennydd. 22 Coed cysgodfawr a’i gorchuddiant â’u cysgod: helyg yr afon a’i hamgylchant. 23 Wele, efe a yf yr afon, ac ni phrysura: efe a obeithiai y tynnai efe’r Iorddonen i’w safn. 24 A ddeil neb ef o flaen ei lygaid? a dylla neb ei drwyn ef â bachau?
6 Am hynny, gan roddi heibio yr ymadrodd sydd yn dechrau rhai yng Nghrist, awn rhagom at berffeithrwydd; heb osod i lawr drachefn sail i edifeirwch oddi wrth weithredoedd meirwon, ac i ffydd tuag at Dduw, 2 I athrawiaeth bedyddiadau, ac arddodiad dwylo, ac atgyfodiad y meirw, a’r farn dragwyddol. 3 A hyn a wnawn, os caniatâ Duw. 4 Canys amhosibl yw i’r rhai a oleuwyd unwaith, ac a brofasant y rhodd nefol, ac a wnaethpwyd yn gyfranogion o’r Ysbryd Glân, 5 Ac a brofasant ddaionus air Duw, a nerthoedd y byd a ddaw, 6 Ac a syrthiant ymaith, ymadnewyddu drachefn i edifeirwch; gan eu bod yn ailgroeshoelio iddynt eu hunain Fab Duw, ac yn ei osod yn watwar. 7 Canys y ddaear, yr hon sydd yn yfed y glaw sydd yn mynych ddyfod arni, ac yn dwyn llysiau cymwys i’r rhai y llafurir hi ganddynt, sydd yn derbyn bendith gan Dduw: 8 Eithr yr hon sydd yn dwyn drain a mieri, sydd anghymeradwy, ac agos i felltith; diwedd yr hon yw, ei llosgi. 9 Eithr yr ydym ni yn coelio amdanoch chwi, anwylyd, bethau gwell, a phethau ynglŷn wrth iachawdwriaeth, er ein bod yn dywedyd fel hyn. 10 Canys nid yw Duw yn anghyfiawn, fel yr anghofio eich gwaith, a’r llafurus gariad, yr hwn a ddangosasoch tuag at ei enw ef, y rhai a weiniasoch i’r saint, ac ydych yn gweini. 11 Ac yr ydym yn chwennych fod i bob un ohonoch ddangos yr un diwydrwydd, er mwyn llawn sicrwydd gobaith hyd y diwedd: 12 Fel na byddoch fusgrell, eithr yn ddilynwyr i’r rhai trwy ffydd ac amynedd sydd yn etifeddu’r addewidion.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.