Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
38 Yna yr Arglwydd a atebodd Job allan o’r corwynt, ac a ddywedodd, 2 Pwy yw hwn sydd yn tywyllu cyngor ag ymadroddion heb wybodaeth. 3 Gwregysa dy lwynau yn awr fel gŵr; a mynega i mi yr hyn a ofynnwyf i ti. 4 Pa le yr oeddit ti pan sylfaenais i y ddaear? mynega, os medri ddeall. 5 Pwy a osododd ei mesurau hi, os gwyddost? neu pwy a estynnodd linyn arni hi? 6 Ar ba beth y sicrhawyd ei sylfeini hi? neu pwy a osododd ei chonglfaen hi, 7 Pan gydganodd sêr y bore, ac y gorfoleddodd holl feibion Duw?
34 A ddyrchefi di dy lef ar y cwmwl, fel y gorchuddio helaethrwydd o ddyfroedd dydi? 35 A ddanfoni di fellt allan, fel yr elont, ac y dywedont wrthyt, Wele ni? 36 Pwy a osododd ddoethineb yn yr ymysgaroedd? neu pwy a roddodd ddeall i’r galon? 37 Pwy a gyfrif y cymylau trwy ddoethineb? a phwy a all atal costrelau y nefoedd. 38 Pan droer y llwch yn dom, fel y glyno y priddellau ynghyd? 39 A elli di hela ysglyfaeth i’r llew? neu a elli di lenwi gwanc cenawon y llewod, 40 Pan ymgrymant yn eu llochesau, pan eisteddant mewn ffau i gynllwyn? 41 Pwy a ddarpar i’r gigfran ei bwyd? pan lefo ei chywion ar Dduw, gwibiant o eisiau bwyd.
104 Fy enaid, bendithia yr Arglwydd. O Arglwydd fy Nuw, tra mawr ydwyt; gwisgaist ogoniant a harddwch. 2 Yr hwn wyt yn gwisgo goleuni fel dilledyn: ac yn taenu y nefoedd fel llen. 3 Yr hwn sydd yn gosod tulathau ei ystafelloedd yn y dyfroedd; yn gwneuthur y cymylau yn gerbyd iddo; ac yn rhodio ar adenydd y gwynt. 4 Yr hwn sydd yn gwneuthur ei genhadon yn ysbrydion; a’i weinidogion yn dân fflamllyd. 5 Yr hwn a seiliodd y ddaear ar ei sylfeini, fel na symudo byth yn dragywydd. 6 Toaist hi â’r gorddyfnder, megis â gwisg: y dyfroedd a safent goruwch y mynyddoedd. 7 Gan dy gerydd di y ffoesant: rhag sŵn dy daran y prysurasant ymaith. 8 Gan y mynyddoedd yr ymgodant: ar hyd y dyffrynnoedd y disgynnant, i’r lle a seiliaist iddynt. 9 Gosodaist derfyn, fel nad elont drosodd; fel na ddychwelont i orchuddio y ddaear.
24 Mor lluosog yw dy weithredoedd, O Arglwydd! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb: llawn yw y ddaear o’th gyfoeth.
35 Darfydded y pechaduriaid o’r tir, na fydded yr annuwiolion mwy. Fy enaid, bendithia di yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.
5 Canys pob archoffeiriad wedi ei gymryd o blith dynion, a osodir dros ddynion yn y pethau sydd tuag at Dduw, fel yr offrymo roddion ac aberthau dros bechodau: 2 Yr hwn a ddichon dosturio wrth y rhai sydd mewn anwybodaeth ac amryfusedd; am ei fod yntau hefyd wedi ei amgylchu â gwendid. 3 Ac o achos hyn y dylai, megis dros y bobl, felly hefyd drosto ei hun, offrymu dros bechodau. 4 Ac nid yw neb yn cymryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun, ond yr hwn a alwyd gan Dduw, megis Aaron. 5 Felly Crist hefyd nis gogoneddodd ei hun i fod yn Archoffeiriad; ond yr hwn a ddywedodd wrtho, Tydi yw fy Mab; myfi heddiw a’th genhedlais di. 6 Megis y mae yn dywedyd mewn lle arall, Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec. 7 Yr hwn yn nyddiau ei gnawd, gwedi iddo, trwy lefain cryf a dagrau, offrwm gweddïau ac erfyniau at yr hwn oedd abl i’w achub ef oddi wrth farwolaeth, a chael ei wrando yn yr hyn a ofnodd; 8 Er ei fod yn Fab, a ddysgodd ufudd‐dod trwy’r pethau a ddioddefodd: 9 Ac wedi ei berffeithio, efe a wnaethpwyd yn Awdur iachawdwriaeth dragwyddol i’r rhai oll a ufuddhant iddo; 10 Wedi ei gyfenwi gan Dduw yn Archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec.
35 A daeth ato Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, gan ddywedyd, Athro, ni a fynnem wneuthur ohonot i ni yr hyn a ddymunem. 36 Yntau a ddywedodd wrthynt, Beth a fynnech i mi ei wneuthur i chwi? 37 Hwythau a ddywedasant wrtho, Caniatâ i ni eistedd, un ar dy ddeheulaw, a’r llall ar dy aswy, yn dy ogoniant. 38 Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn: a ellwch chwi yfed o’r cwpan yr wyf fi yn ei yfed? a’ch bedyddio â’r bedydd y’m bedyddir i ag ef? 39 A hwy a ddywedasant wrtho, Gallwn. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o’r cwpan yr yfwyf fi; ac y’ch bedyddir â’r bedydd y bedyddir finnau: 40 Ond eistedd ar fy neheulaw a’m haswy, nid eiddof fi ei roddi; ond i’r rhai y darparwyd. 41 A phan glybu’r deg, hwy a ddechreuasant fod yn anfodlon ynghylch Iago ac Ioan. 42 A’r Iesu a’u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch fod y rhai a dybir eu bod yn llywodraethu ar y Cenhedloedd, yn tra‐arglwyddiaethu arnynt; a’u gwŷr mawr hwynt yn tra‐awdurdodi arnynt. 43 Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a ewyllysio fod yn fawr yn eich plith, bydded weinidog i chwi; 44 A phwy bynnag ohonoch a fynno fod yn bennaf, bydded was i bawb. 45 Canys ni ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.