Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 104:1-9

104 Fy enaid, bendithia yr Arglwydd. O Arglwydd fy Nuw, tra mawr ydwyt; gwisgaist ogoniant a harddwch. Yr hwn wyt yn gwisgo goleuni fel dilledyn: ac yn taenu y nefoedd fel llen. Yr hwn sydd yn gosod tulathau ei ystafelloedd yn y dyfroedd; yn gwneuthur y cymylau yn gerbyd iddo; ac yn rhodio ar adenydd y gwynt. Yr hwn sydd yn gwneuthur ei genhadon yn ysbrydion; a’i weinidogion yn dân fflamllyd. Yr hwn a seiliodd y ddaear ar ei sylfeini, fel na symudo byth yn dragywydd. Toaist hi â’r gorddyfnder, megis â gwisg: y dyfroedd a safent goruwch y mynyddoedd. Gan dy gerydd di y ffoesant: rhag sŵn dy daran y prysurasant ymaith. Gan y mynyddoedd yr ymgodant: ar hyd y dyffrynnoedd y disgynnant, i’r lle a seiliaist iddynt. Gosodaist derfyn, fel nad elont drosodd; fel na ddychwelont i orchuddio y ddaear.

Salmau 104:24

24 Mor lluosog yw dy weithredoedd, O Arglwydd! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb: llawn yw y ddaear o’th gyfoeth.

Salmau 104:35

35 Darfydded y pechaduriaid o’r tir, na fydded yr annuwiolion mwy. Fy enaid, bendithia di yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.

Job 39

39 A wyddost ti yr amser i eifr gwylltion y creigiau lydnu? a fedri di wylied yr amser y bwrw yr ewigod loi? A gyfrifi di y misoedd a gyflawnant hwy? ac a wyddost ti yr amser y llydnant? Ymgrymant, bwriant eu llydnod, ac ymadawant â’u gofid. Eu llydnod a gryfha, cynyddant yn y maes: ânt allan, ac ni ddychwelant atynt hwy. Pwy a ollyngodd yr asyn gwyllt yn rhydd? neu pwy a ddatododd rwymau yr asyn gwyllt? Yr hwn y gosodais yr anialwch yn dŷ iddo, a’r diffeithwch yn drigfa iddo. Efe a chwardd am ben lliaws tref: ni wrendy ar lais y geilwad. Cilfachau y mynyddoedd yw ei borfa ef, ac efe a chwilia am bob glaswelltyn. A gytuna yr unicorn i’th wasanaethu di? a erys efe wrth dy bresebau di? 10 A rwymi di unicorn â’i did mewn rhych? a lyfna efe y dolydd ar dy ôl di? 11 A ymddiriedi wrtho, am fod ei gryfder yn fawr? a adewi di dy lafur iddo? 12 A goeli di ef, y dwg efe dy had di drachefn, ac y casgl efe ef i’th lawr dyrnu di? 13 A roddaist ti adenydd hyfryd i’r peunod? neu adenydd a phlu i’r estrys? 14 Yr hon a ad ei hwyau yn y ddaear, ac a’u cynhesa yn y llwch; 15 Ac y mae hi yn gollwng dros gof y gallai droed eu dryllio hwynt, neu anifail y maes eu sathru. 16 Caled yw hi wrth ei chywion, fel pe na byddent eiddi hi: ei gwaith hi sydd ofer, heb ofn; 17 Oblegid na roddes Duw iddi ddoethineb, ac na chyfrannodd iddi ddeall. 18 Yr amser yr ymgodo hi yn uchel, hi a ddiystyra y march a’i farchog. 19 A roddaist ti gryfder i farch? neu a ddysgaist iddo weryru? 20 A ddychryni di ef fel ceiliog rhedyn? dychryn ydyw ardderchowgrwydd ei ffroen ef. 21 Ei draed ef a gloddiant yn y dyffryn, ac efe a lawenycha yn ei gryfder: efe a â allan i gyfarfod arfau. 22 Efe a ddiystyra arswyd, ac ni ddychryna efe; ac ni ddychwel yn ei ôl rhag y cleddyf. 23 Y cawell saethau a drystia yn ei erbyn, y ddisglair waywffon a’r darian. 24 Efe a lwnc y ddaear gan greulondeb a chynddaredd: ac ni chred mai llais yr utgorn yw. 25 Efe a ddywed ymhlith yr utgyrn, Ha, ha; ac a arogla o bell ryfel, twrf tywysogion, a’r bloeddio. 26 Ai trwy dy ddoethineb di yr eheda y gwalch, ac y lleda efe ei adenydd tua’r deau? 27 Ai wrth dy orchymyn di yr ymgyfyd yr eryr, ac y gwna efe ei nyth yn uchel? 28 Y trig efe ac yr erys mewn craig; ac ar ysgithredd y graig, a’r lle cadarn? 29 Oddi yno y chwilia am fwyd; ei lygaid a ganfyddant o bell. 30 Ei gywion hefyd a sugnant waed: a lle y byddo celanedd, yno y bydd efe.

Luc 22:24-30

24 A bu ymryson yn eu plith, pwy ohonynt a dybygid ei fod yn fwyaf. 25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; a’r rhai sydd mewn awdurdod arnynt, a elwir yn bendefigion. 26 Ond na fyddwch chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megis yr ieuangaf; a’r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini. 27 Canys pa un fwyaf, ai’r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai’r hwn sydd yn gwasanaethu? onid yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyf fi yn eich mysg fel un yn gwasanaethu. 28 A chwychwi yw’r rhai a arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau. 29 Ac yr wyf fi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeiniodd fy Nhad i minnau; 30 Fel y bwytaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas, ac yr eisteddoch ar orseddfeydd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.