Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 104:1-9

104 Fy enaid, bendithia yr Arglwydd. O Arglwydd fy Nuw, tra mawr ydwyt; gwisgaist ogoniant a harddwch. Yr hwn wyt yn gwisgo goleuni fel dilledyn: ac yn taenu y nefoedd fel llen. Yr hwn sydd yn gosod tulathau ei ystafelloedd yn y dyfroedd; yn gwneuthur y cymylau yn gerbyd iddo; ac yn rhodio ar adenydd y gwynt. Yr hwn sydd yn gwneuthur ei genhadon yn ysbrydion; a’i weinidogion yn dân fflamllyd. Yr hwn a seiliodd y ddaear ar ei sylfeini, fel na symudo byth yn dragywydd. Toaist hi â’r gorddyfnder, megis â gwisg: y dyfroedd a safent goruwch y mynyddoedd. Gan dy gerydd di y ffoesant: rhag sŵn dy daran y prysurasant ymaith. Gan y mynyddoedd yr ymgodant: ar hyd y dyffrynnoedd y disgynnant, i’r lle a seiliaist iddynt. Gosodaist derfyn, fel nad elont drosodd; fel na ddychwelont i orchuddio y ddaear.

Salmau 104:24

24 Mor lluosog yw dy weithredoedd, O Arglwydd! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb: llawn yw y ddaear o’th gyfoeth.

Salmau 104:35

35 Darfydded y pechaduriaid o’r tir, na fydded yr annuwiolion mwy. Fy enaid, bendithia di yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.

Job 37

37 Wrth hyn hefyd y crŷn fy nghalon, ac y dychlama hi o’i lle. Gan wrando gwrandewch ar sŵn ei lef, ac ar y sain a ddaw allan o’i enau ef. Efe a’i hyfforddia dan yr holl nefoedd, a’i fellt hyd eithafoedd y ddaear. Sŵn a rua ar ei ôl ef: efe a wna daranau â llais ei odidowgrwydd, ac ni oeda efe hwynt, pan glywir ei dwrf ef. Duw a wna daranau â’i lais yn rhyfedd: y mae yn gwneuthur pethau mwy nag a wyddom ni. Canys efe a ddywed wrth yr eira, Bydd ar y ddaear; ac wrth gawod o law, ac wrth law mawr ei nerth ef. Efe a selia law pob dyn, fel yr adwaeno pawb ei waith ef. Yna yr â y bwystfil i’w loches, ac y trig yn ei le. O’r deau y daw corwynt; ac oerni oddi wrth y gogledd. 10 Â’i wynt y rhydd Duw rew: a lled y dyfroedd a gyfyngir. 11 Hefyd efe a flina gwmwl yn dyfrhau; efe a wasgar ei gwmwl golau. 12 Ac y mae hwnnw yn ymdroi oddi amgylch wrth ei lywodraeth ef: fel y gwnelont hwy beth bynnag a orchmynno efe iddynt, ar hyd wyneb y byd ar y ddaear. 13 Pa un bynnag ai yn gosbedigaeth, ai i’w ddaear, ai er daioni, efe a bair iddo ddyfod. 14 Gwrando hyn, Job; saf, ac ystyria ryfeddodau Duw. 15 A wyddost ti pa bryd y dosbarthodd Duw hwynt, ac y gwnaeth efe i oleuni ei gwmwl lewyrchu? 16 A wyddost ti oddi wrth bwysau y cymylau, rhyfeddodau yr hwn sydd berffaith‐gwbl o wybodaeth? 17 Pa fodd y mae dy ddillad yn gynnes, pan baro efe y ddaear yn dawel â’r deheuwynt? 18 A daenaist ti gydag ef yr wybren, yr hon a sicrhawyd fel drych toddedig? 19 Gwna i ni wybod pa beth a ddywedwn wrtho: ni fedrwn ni gyfleu ein geiriau gan dywyllwch. 20 A fynegir iddo ef os llefaraf? os dywed neb, diau y llyncir ef. 21 Ac yn awr, ni wêl neb y goleuni disglair sydd yn y cymylau: ond myned y mae y gwynt, a’u puro hwynt. 22 O’r gogleddwynt y daw hindda: y mae yn Nuw ogoniant mwy ofnadwy. 23 Am yr Hollalluog, ni allwn ni mo’i gael ef: ardderchog yw o nerth, a barn, a helaethrwydd cyfiawnder: ni chystuddia efe. 24 Am hynny yr ofna dynion ef: nid edrych efe ar neb doeth eu calon.

Datguddiad 17

17 A daeth un o’r saith angel oedd â’r saith ffiol ganddynt, ac a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd wrthyf, Tyred, mi a ddangosaf i ti farnedigaeth y butain fawr sydd yn eistedd ar ddyfroedd lawer; Gyda’r hon y puteiniodd brenhinoedd y ddaear, ac y meddwyd y rhai sydd yn trigo ar y ddaear gan win ei phuteindra hi. Ac efe a’m dygodd i i’r diffeithwch yn yr ysbryd: ac mi a welais wraig yn eistedd ar fwystfil o liw ysgarlad, yn llawn o enwau cabledd, a saith ben iddo, a deg corn. A’r wraig oedd wedi ei dilladu â phorffor ac ysgarlad, ac wedi ei gwychu ag aur, ac â main gwerthfawr, a pherlau, a chanddi gwpan aur yn ei llaw, yn llawn o ffieidd-dra ac aflendid ei phuteindra. Ac ar ei thalcen yr oedd enw wedi ei ysgrifennu, DIRGELWCH, BABILON FAWR, MAM PUTEINIAID A FFIEIDD-DRA’R DDAEAR. Ac mi a welais y wraig yn feddw gan waed y saint, a chan waed merthyron Iesu: a phan ei gwelais, mi a ryfeddais â rhyfeddod mawr. A’r angel a ddywedodd wrthyf, Paham y rhyfeddaist? myfi a ddywedaf i ti ddirgelwch y wraig a’r bwystfil sydd yn ei dwyn hi, yr hwn sydd â’r saith ben ganddo, a’r deg corn. Y bwystfil a welaist, a fu, ac nid yw; a bydd iddo ddyfod i fyny o’r pydew heb waelod, a myned i ddistryw: a rhyfeddu a wna’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, y rhai nid ysgrifennwyd eu henwau yn llyfr y bywyd er seiliad y byd, pan welont y bwystfil, yr hwn a fu, ac nid yw, er ei fod. Dyma’r meddwl sydd â doethineb ganddo. Y saith ben, saith fynydd ydynt, lle mae’r wraig yn eistedd arnynt. 10 Ac y mae saith frenin: pump a gwympasant, ac un sydd, a’r llall ni ddaeth eto; a phan ddêl, rhaid iddo aros ychydig. 11 A’r bwystfil, yr hwn oedd, ac nid ydyw, yntau yw’r wythfed, ac o’r saith y mae, ac i ddistryw y mae’n myned. 12 A’r deg corn a welaist, deg brenin ydynt, y rhai ni dderbyniasant frenhiniaeth eto; eithr awdurdod fel brenhinoedd, un awr, y maent yn ei dderbyn gyda’r bwystfil. 13 Yr un meddwl sydd i’r rhai hyn, a hwy a roddant eu nerth a’u hawdurdod i’r bwystfil. 14 Y rhai hyn a ryfelant â’r Oen, a’r Oen a’u gorchfyga hwynt: oblegid Arglwydd arglwyddi ydyw, a Brenin brenhinoedd; a’r rhai sydd gydag ef, sydd alwedig, ac etholedig, a ffyddlon. 15 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y dyfroedd a welaist, lle mae’r butain yn eistedd, pobloedd a thorfeydd ydynt, a chenhedloedd ac ieithoedd. 16 A’r deg corn a welaist ar y bwystfil, y rhai hyn a gasânt y butain, ac a’i gwnânt hi yn unig ac yn noeth, a’i chnawd hi a fwytânt hwy, ac a’i llosgant hi â thân. 17 Canys Duw a roddodd yn eu calonnau hwynt wneuthur ei ewyllys ef, a gwneuthur yr un ewyllys, a rhoddi eu teyrnas i’r bwystfil, hyd oni chyflawner geiriau Duw. 18 A’r wraig a welaist, yw’r ddinas fawr, sydd yn teyrnasu ar frenhinoedd y ddaear.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.