Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 39

Salm Dafydd i’r Pencerdd, sef i Jedwthwn.

39 Dywedais, Cadwaf fy ffyrdd, rhag pechu â’m tafod: cadwaf ffrwyn yn fy ngenau, tra fyddo yr annuwiol yn fy ngolwg. Tewais yn ddistaw, ie, tewais â daioni; a’m dolur a gyffrôdd. Gwresogodd fy nghalon o’m mewn: tra yr oeddwn yn myfyrio, enynnodd tân, a mi a leferais â’m tafod. Arglwydd, pâr i mi wybod fy niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau; fel y gwypwyf o ba oedran y byddaf fi. Wele, gwnaethost fy nyddiau fel dyrnfedd; a’m heinioes sydd megis diddim yn dy olwg di: diau mai cwbl wagedd yw pob dyn, pan fo ar y gorau. Sela. Dyn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cysgod, ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra olud, ac nis gŵyr pwy a’i casgl. Ac yn awr beth a ddisgwyliaf, O Arglwydd? fy ngobaith sydd ynot ti. Gwared fi o’m holl gamweddau; ac na osod fi yn waradwydd i’r ynfyd. Euthum yn fud, ac nid agorais fy ngenau: canys ti a wnaethost hyn. 10 Tyn dy bla oddi wrthyf: gan ddyrnod dy law y darfûm i. 11 Pan gosbit ddyn â cheryddon am anwiredd, datodit fel gwyfyn ei ardderchowgrwydd ef: gwagedd yn ddiau yw pob dyn. Sela. 12 Gwrando fy ngweddi, Arglwydd, a chlyw fy llef; na thaw wrth fy wylofain: canys ymdeithydd ydwyf gyda thi, ac alltud, fel fy holl dadau. 13 Paid â mi, fel y cryfhawyf cyn fy myned, ac na byddwyf mwy.

Job 32

32 Felly y tri gŵr yma a beidiasant ag ateb i Job, am ei fod ef yn gyfiawn yn ei olwg ei hun. Yna digofaint Elihu, mab Barachel y Busiad, o genedl Ram, a gyneuodd: ei ddigofaint ef a enynnodd yn erbyn Job, am farnu ohono ei enaid yn gyfiawn o flaen Duw. A’i ddigofaint ef a gyneuodd yn erbyn ei dri chyfaill, am na chawsent hwy ateb, ac er hynny, farnu ohonynt Job yn euog. Elihu hefyd a arosasai ar Job nes darfod iddo lefaru: canys yr oeddynt hwy yn hŷn nag ef o oedran. Pan welodd Elihu nad oedd ateb gan y triwyr hyn, yna y cyneuodd ei ddigofaint ef. Ac Elihu, mab Barachel y Busiad, a atebodd ac a ddywedodd, Ieuanc ydwyf o oedran, chwithau ydych hen iawn: am hynny yr arswydais, ac yr ofnais ddangos fy meddwl i chwi. Dywedais, Dyddiau a draethant, a lliaws o flynyddoedd a ddysgant ddoethineb. Ond y mae ysbryd mewn dyn; ac ysbrydoliaeth yr Hollalluog sydd yn gwneuthur iddynt hwy ddeall. Nid yw gwŷr mawrion ddoeth bob amser: ac nid yw hynafgwyr yn deall barn. 10 Am hynny y dywedais, Gwrando fi; minnau a ddangosaf fy meddwl. 11 Wele, disgwyliais wrth eich geiriau; clustymwrandewais â’ch rhesymau, tra y chwiliasoch chwi am eiriau. 12 Ie, mi a ddeliais arnoch: ac wele, nid oedd un ohonoch yn argyhoeddi Job, gan ateb ei eiriau ef: 13 Rhag dywedyd ohonoch, Ni a gawsom ddoethineb: Duw sydd yn ei wthio ef i lawr, ac nid dyn. 14 Er na hwyliodd efe ei ymadroddion yn fy erbyn i: ac nid atebaf finnau iddo â’ch geiriau chwi. 15 Hwy a synasant, nid atebasant mwy; peidiasant â llefaru. 16 Wedi disgwyl ohonof, (canys ni lefarant, eithr sefyll heb ateb mwy,) 17 Dywedais, Minnau a atebaf fy rhan, minnau a ddangosaf fy meddwl. 18 Canys yr ydwyf yn llawn geiriau: y mae yr ysbryd sydd ynof yn fy nghymell i. 19 Wele, fy mol sydd fel gwin nid agorid arno: y mae efe yn hollti fel costrelau newyddion. 20 Dywedaf, fel y caffwyf fy anadl: agoraf fy ngwefusau, ac atebaf. 21 Ni dderbyniaf yn awr wyneb neb: ni wenieithiaf wrth ddyn. 22 Canys ni fedraf wenieithio; pe gwnelwn, buan y’m cymerai fy Ngwneuthurwr ymaith.

Luc 16:19-31

19 Yr oedd rhyw ŵr goludog, ac a wisgid â phorffor a lliain main, ac yr oedd yn cymryd byd da yn helaethwych beunydd: 20 Yr oedd hefyd ryw gardotyn, a’i enw Lasarus, yr hwn a fwrid wrth ei borth ef yn gornwydlyd, 21 Ac yn chwenychu cael ei borthi â’r briwsion a syrthiai oddi ar fwrdd y gŵr cyfoethog; ond y cŵn a ddaethant, ac a lyfasant ei gornwydydd ef. 22 A bu, i’r cardotyn farw, a’i ddwyn gan yr angylion i fynwes Abraham. A’r goludog hefyd a fu farw, ac a gladdwyd: 23 Ac yn uffern efe a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau, ac a ganfu Abraham o hirbell, a Lasarus yn ei fynwes. 24 Ac efe a lefodd, ac a ddywedodd, O dad Abraham, trugarha wrthyf, a danfon Lasarus, i drochi pen ei fys mewn dwfr, ac i oeri fy nhafod: canys fe a’m poenir yn y fflam hon. 25 Ac Abraham a ddywedodd, Ha fab, coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, ac felly Lasarus ei adfyd: ac yn awr y diddenir ef, ac y poenir dithau. 26 Ac heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwithau y sicrhawyd agendor mawr: fel na allo’r rhai a fynnent, dramwy oddi yma atoch chwi; na’r rhai oddi yna, dramwy atom ni. 27 Ac efe a ddywedodd, Yr wyf yn atolwg i ti gan hynny, O dad, ddanfon ohonot ef i dŷ fy nhad; 28 Canys y mae i mi bump o frodyr: fel y tystiolaetho iddynt hwy, rhag dyfod ohonynt hwythau hefyd i’r lle poenus hwn. 29 Abraham a ddywedodd wrtho, Y mae ganddynt Moses a’r proffwydi; gwrandawant arnynt hwy. 30 Yntau a ddywedodd, Nage, y tad Abraham: eithr os â un oddi wrth y meirw atynt, hwy a edifarhânt. 31 Yna Abraham a ddywedodd wrtho, Oni wrandawant ar Moses a’r proffwydi, ni chredant chwaith pe codai un oddi wrth y meirw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.