Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 39

Salm Dafydd i’r Pencerdd, sef i Jedwthwn.

39 Dywedais, Cadwaf fy ffyrdd, rhag pechu â’m tafod: cadwaf ffrwyn yn fy ngenau, tra fyddo yr annuwiol yn fy ngolwg. Tewais yn ddistaw, ie, tewais â daioni; a’m dolur a gyffrôdd. Gwresogodd fy nghalon o’m mewn: tra yr oeddwn yn myfyrio, enynnodd tân, a mi a leferais â’m tafod. Arglwydd, pâr i mi wybod fy niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau; fel y gwypwyf o ba oedran y byddaf fi. Wele, gwnaethost fy nyddiau fel dyrnfedd; a’m heinioes sydd megis diddim yn dy olwg di: diau mai cwbl wagedd yw pob dyn, pan fo ar y gorau. Sela. Dyn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cysgod, ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra olud, ac nis gŵyr pwy a’i casgl. Ac yn awr beth a ddisgwyliaf, O Arglwydd? fy ngobaith sydd ynot ti. Gwared fi o’m holl gamweddau; ac na osod fi yn waradwydd i’r ynfyd. Euthum yn fud, ac nid agorais fy ngenau: canys ti a wnaethost hyn. 10 Tyn dy bla oddi wrthyf: gan ddyrnod dy law y darfûm i. 11 Pan gosbit ddyn â cheryddon am anwiredd, datodit fel gwyfyn ei ardderchowgrwydd ef: gwagedd yn ddiau yw pob dyn. Sela. 12 Gwrando fy ngweddi, Arglwydd, a chlyw fy llef; na thaw wrth fy wylofain: canys ymdeithydd ydwyf gyda thi, ac alltud, fel fy holl dadau. 13 Paid â mi, fel y cryfhawyf cyn fy myned, ac na byddwyf mwy.

Job 28:12-29:10

12 Ond pa le y ceir doethineb? a pha le y mae trigle deall? 13 Ni ŵyr dyn beth a dâl hi; ac ni cheir hi yn nhir y rhai byw. 14 Y mae y dyfnder yn dywedyd, Nid ydyw hi ynof fi: ac y mae y môr yn dywedyd, Nid ydyw hi gyda myfi. 15 Ni cheir hi er aur pur; ac ni ellir pwyso ei gwerth hi o arian. 16 Ni chyffelybir hi i’r aur o Offir; nac i’r onics gwerthfawr, nac i’r saffir. 17 Nid aur a grisial a’i cystadla hi: na llestr o aur dilin fydd gydwerth iddi. 18 Ni chofir y cwrel, na’r gabis: canys gwell yw caffaeliad doethineb na gemau. 19 Ni ellir cyffelybu y topas o Ethiopia iddi hi: ni chydbrisir hi ag aur pur. 20 Gan hynny o ba le y daw doethineb? a pha le y mae mangre deall? 21 Canys hi a guddied oddi wrth lygaid pob dyn byw; a hi a guddiwyd oddi wrth ehediaid y nefoedd. 22 Colledigaeth a marwolaeth sydd yn dywedyd, Ni a glywsom â’n clustiau sôn amdani hi. 23 Duw sydd yn deall ei ffordd hi; ac efe a edwyn ei lle hi. 24 Canys y mae efe yn edrych ar eithafoedd y ddaear, ac yn gweled dan yr holl nefoedd; 25 I wneuthur pwys i’r gwynt; ac efe a bwysa’r dyfroedd wrth fesur. 26 Pan wnaeth efe ddeddf i’r glaw, a ffordd i fellt y taranau: 27 Yna efe a’i gwelodd hi, ac a’i mynegodd hi; efe a’i paratôdd hi, a hefyd efe a’i chwiliodd hi allan. 28 Ac wrth ddyn efe a ddywedodd, Wele, ofn yr Arglwydd, hynny ydyw doethineb; a chilio oddi wrth ddrwg, sydd ddeall.

29 Yna Job a barablodd drachefn, ac a ddywedodd, O na bawn i fel yn y misoedd o’r blaen, fel yn y dyddiau pan gadwai Duw fi; Pan wnâi efe i’w oleuni lewyrchu ar fy mhen, wrth oleuni yr hwn y rhodiwn trwy dywyllwch; Pan oeddwn yn nyddiau fy ieuenctid, a dirgelwch Duw ar fy mhabell; Pan oedd yr Hollalluog eto gyda mi, a’m plant o’m hamgylch; Pan olchwn fy nghamre ag ymenyn, a phan dywalltai y graig i mi afonydd o olew! Pan awn i allan i’r porth trwy y dref; pan baratown fy eisteddfa yn yr heol, Llanciau a’m gwelent, ac a ymguddient; a henuriaid a gyfodent, ac a safent i fyny. Tywysogion a atalient eu hymadroddion, ac a osodent eu llaw ar eu genau. 10 Pendefigion a dawent â sôn, a’u tafod a lynai wrth daflod eu genau.

Datguddiad 8:1-5

Aphan agorodd efe y seithfed sêl, yr ydoedd gosteg yn y nef megis dros hanner awr. Ac mi a welais y saith angel y rhai oedd yn sefyll gerbron Duw: a rhoddwyd iddynt saith o utgyrn. Ac angel arall a ddaeth, ac a safodd gerbron yr allor, a thuser aur ganddo: a rhoddwyd iddo arogl-darth lawer, fel yr offrymai ef gyda gweddïau’r holl saint ar yr allor aur, yr hon oedd gerbron yr orseddfainc. Ac fe aeth mwg yr arogl-darth gyda gweddïau’r saint, o law yr angel i fyny gerbron Duw. A’r angel a gymerth y thuser, ac a’i llanwodd hi o dân yr allor, ac a’i bwriodd i’r ddaear: a bu lleisiau, a tharanau, a mellt, a daeargryn.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.