Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
23 A Job a atebodd ac a ddywedodd, 2 Y mae fy ymadrodd heddiw yn chwerw: fy nialedd sydd drymach na’m huchenaid. 3 O na wyddwn pa le y cawn ef! fel y deuwn at ei eisteddfa ef! 4 Trefnwn fy mater ger ei fron ef, a llanwn fy ngenau â rhesymau. 5 Mynnwn wybod â pha eiriau y’m hatebai; a deall pa beth a ddywedai efe wrthyf. 6 A ddadlau efe i’m herbyn â helaethrwydd ei gadernid? Na wna; ond efe a osodai nerth ynof. 7 Yno yr uniawn a ymresymai ag ef: felly mi a ddihangwn byth gan fy marnwr. 8 Wele, ymlaen yr af, ond nid ydyw efe yno; yn ôl hefyd, ond ni fedraf ei ganfod ef: 9 Ar y llaw aswy, lle y mae efe yn gweithio, ond ni fedraf ei weled ef: ar y llaw ddeau y mae yn ymguddio, fel na chaf ei weled:
16 Canys Duw a feddalhaodd fy nghalon, a’r Hollalluog a’m cythryblodd: 17 Oherwydd na thorrwyd fi ymaith o flaen y tywyllwch, ac na chuddiodd efe y tywyllwch o’m gŵydd.
I’r Pencerdd ar Aieleth‐hasahar, Salm Dafydd.
22 Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gwrthodaist? paham yr ydwyt mor bell oddi wrth fy iachawdwriaeth, a geiriau fy llefain? 2 Fy Nuw, llefain yr ydwyf y dydd, ac ni wrandewi; y nos hefyd, ac nid oes osteg i mi. 3 Ond tydi wyt sanctaidd, O dydi yr hwn wyt yn cyfanheddu ym moliant Israel. 4 Ein tadau a obeithiasant ynot: gobeithiasant, a gwaredaist hwynt. 5 Arnat ti y llefasant, ac achubwyd hwynt: ynot yr ymddiriedasant, ac nis gwaradwyddwyd hwynt. 6 A minnau, pryf ydwyf, ac nid gŵr; gwarthrudd dynion, a dirmyg y bobl. 7 Pawb a’r a’m gwelant, a’m gwatwarant: llaesant wefl, ysgydwant ben, gan ddywedyd, 8 Ymddiriedodd yn yr Arglwydd; gwareded ef: achubed ef, gan ei fod yn dda ganddo. 9 Canys ti a’m tynnaist o’r groth: gwnaethost i mi obeithio pan oeddwn ar fronnau fy mam. 10 Arnat ti y’m bwriwyd o’r bru: o groth fy mam fy Nuw ydwyt. 11 Nac ymbellha oddi wrthyf; oherwydd cyfyngder sydd agos: canys nid oes cynorthwywr. 12 Teirw lawer a’m cylchynasant: gwrdd deirw Basan a’m hamgylchasant. 13 Agorasant arnaf eu genau, fel llew rheibus a rhuadwy. 14 Fel dwfr y’m tywalltwyd, a’m hesgyrn oll a ymwahanasant: fy nghalon sydd fel cwyr; hi a doddodd yng nghanol fy mherfedd. 15 Fy nerth a wywodd fel priddlestr; a’m tafod a lynodd wrth daflod fy ngenau: ac i lwch angau y’m dygaist.
12 Canys bywiol yw gair Duw, a nerthol, a llymach nag un cleddyf daufiniog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a’r ysbryd, a’r cymalau a’r mêr; ac yn barnu meddyliau a bwriadau’r galon. 13 Ac nid oes greadur anamlwg yn ei olwg ef: eithr pob peth sydd yn noeth ac yn agored i’w lygaid ef am yr hwn yr ydym yn sôn. 14 Gan fod wrth hynny i ni Archoffeiriad mawr, yr hwn a aeth i’r nefoedd, Iesu Mab Duw, glynwn yn ein proffes. 15 Canys nid oes i ni Archoffeiriad heb fedru cyd‐ddioddef gyda’n gwendid ni; ond wedi ei demtio ym mhob peth yr un ffunud â ninnau, eto heb bechod. 16 Am hynny awn yn hyderus at orseddfainc y gras, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom ras yn gymorth cyfamserol.
17 Ac wedi iddo fyned allan i’r ffordd, rhedodd un ato, a gostyngodd iddo, ac a ofynnodd iddo, O Athro da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol? 18 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid oes neb da ond un, sef Duw. 19 Ti a wyddost y gorchmynion, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na chamdystiolaetha, Na chamgolleda, Anrhydedda dy dad a’th fam. 20 Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Athro, y rhai hyn i gyd a gedwais o’m hieuenctid. 21 A’r Iesu gan edrych arno, a’i hoffodd, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd ddiffygiol i ti: dos, gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, a chymer i fyny y groes, a dilyn fi. 22 Ac efe a bruddhaodd wrth yr ymadrodd, ac a aeth ymaith yn athrist: canys yr oedd ganddo feddiannau lawer.
23 A’r Iesu a edrychodd o’i amgylch, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Mor anodd yr â’r rhai y mae golud ganddynt i deyrnas Dduw! 24 A’r disgyblion a frawychasant wrth ei eiriau ef. Ond yr Iesu a atebodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, O blant, mor anodd yw i’r rhai sydd â’u hymddiried yn eu golud fyned i deyrnas Dduw! 25 Y mae yn haws i gamel fyned trwy grau’r nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw. 26 A hwy a synasant yn ddirfawr, gan ddywedyd wrthynt eu hunain, A phwy a all fod yn gadwedig? 27 A’r Iesu, wedi edrych arnynt, a ddywedodd, Gyda dynion amhosibl yw, ac nid gyda Duw: canys pob peth sydd bosibl gyda Duw.
28 Yna y dechreuodd Pedr ddywedyd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ddilynasom di. 29 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a’r a adawodd dŷ, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, o’m hachos i a’r efengyl, 30 A’r ni dderbyn y can cymaint yr awron y pryd hwn, dai, a brodyr, a chwiorydd, a mamau, a phlant, a thiroedd, ynghyd ag erlidiau; ac yn y byd a ddaw, fywyd tragwyddol. 31 Ond llawer rhai cyntaf a fyddant ddiwethaf; a’r diwethaf fyddant gyntaf.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.