Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd ar Aieleth‐hasahar, Salm Dafydd.
22 Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gwrthodaist? paham yr ydwyt mor bell oddi wrth fy iachawdwriaeth, a geiriau fy llefain? 2 Fy Nuw, llefain yr ydwyf y dydd, ac ni wrandewi; y nos hefyd, ac nid oes osteg i mi. 3 Ond tydi wyt sanctaidd, O dydi yr hwn wyt yn cyfanheddu ym moliant Israel. 4 Ein tadau a obeithiasant ynot: gobeithiasant, a gwaredaist hwynt. 5 Arnat ti y llefasant, ac achubwyd hwynt: ynot yr ymddiriedasant, ac nis gwaradwyddwyd hwynt. 6 A minnau, pryf ydwyf, ac nid gŵr; gwarthrudd dynion, a dirmyg y bobl. 7 Pawb a’r a’m gwelant, a’m gwatwarant: llaesant wefl, ysgydwant ben, gan ddywedyd, 8 Ymddiriedodd yn yr Arglwydd; gwareded ef: achubed ef, gan ei fod yn dda ganddo. 9 Canys ti a’m tynnaist o’r groth: gwnaethost i mi obeithio pan oeddwn ar fronnau fy mam. 10 Arnat ti y’m bwriwyd o’r bru: o groth fy mam fy Nuw ydwyt. 11 Nac ymbellha oddi wrthyf; oherwydd cyfyngder sydd agos: canys nid oes cynorthwywr. 12 Teirw lawer a’m cylchynasant: gwrdd deirw Basan a’m hamgylchasant. 13 Agorasant arnaf eu genau, fel llew rheibus a rhuadwy. 14 Fel dwfr y’m tywalltwyd, a’m hesgyrn oll a ymwahanasant: fy nghalon sydd fel cwyr; hi a doddodd yng nghanol fy mherfedd. 15 Fy nerth a wywodd fel priddlestr; a’m tafod a lynodd wrth daflod fy ngenau: ac i lwch angau y’m dygaist.
20 Yna Soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd, 2 Am hynny y mae fy meddyliau yn peri i mi ateb: ac am hyn y mae brys arnaf. 3 Yr ydwyf yn clywed cerydd gwaradwyddus i mi; ac y mae ysbryd fy neall yn peri i mi ateb. 4 Oni wyddost ti hyn erioed, er pan osodwyd dyn ar y ddaear, 5 Mai byr yw gorfoledd yr annuwiolion, a llawenydd y rhagrithwyr dros funud awr? 6 Pe dyrchafai ei odidowgrwydd ef i’r nefoedd, a chyrhaeddyd o’i ben ef hyd y cymylau; 7 Efe a gollir yn dragywydd fel ei dom: y rhai a’i gwelsant a ddywedant, Pa le y mae efe? 8 Efe a eheda ymaith megis breuddwyd, ac ni cheir ef: ac efe a ymlidir fel gweledigaeth nos. 9 Y llygad a’i gwelodd, ni wêl ef mwy: a’i le ni chenfydd mwy ohono. 10 Ei feibion a gais fodloni’r tlodion: a’i ddwylo a roddant adref eu golud hwynt. 11 Ei esgyrn sydd yn llawn o bechod ei ieuenctid, yr hwn a orwedd gydag ef yn y pridd. 12 Er bod drygioni yn felys yn ei enau ef; er iddo ei gau dan ei dafod; 13 Er iddo ei arbed, ac heb ei ado; eithr ei atal o fewn taflod ei enau: 14 Ei fwyd a dry yn ei ymysgaroedd: bustl asbiaid ydyw o’i fewn ef. 15 Efe a lyncodd gyfoeth, ac efe a’i chwyda: Duw a’i tyn allan o’i fol ef. 16 Efe a sugn wenwyn asbiaid: tafod gwiber a’i lladd ef. 17 Ni chaiff weled afonydd, ffrydiau, ac aberoedd o fêl ac ymenyn. 18 Y mae efe yn rhoddi adref yr hyn a lafuriodd amdano, ac nis llwnc: yn ôl ei olud y rhydd adref, ac heb gael llawenydd ohono. 19 Am iddo ddryllio, a gado’r tlodion; ysglyfaethu tŷ nid adeiladodd; 20 Diau na chaiff lonydd yn ei fol, na weddill o’r hyn a ddymunodd. 21 Ni bydd gweddill o’i fwyd ef; am hynny ni ddisgwyl neb am ei dda ef. 22 Pan gyflawner ei ddigonoldeb, cyfyng fydd arno; llaw pob dyn blin a ddaw arno. 23 Pan fyddo efe ar fedr llenwi ei fol, Duw a ddenfyn arno angerdd ei ddigofaint; ac a’i glawia hi arno ef ymysg ei fwyd. 24 Efe a ffy oddi wrth arfau haearn; a’r bwa dur a’i trywana ef. 25 Efe a dynnir, ac a ddaw allan o’r corff, a gloywlafn a ddaw allan o’i fustl ef; dychryn fydd arno. 26 Pob tywyllwch a fydd cuddiedig yn ei ddirgeloedd ef: tân heb ei chwythu a’i hysa ef: yr hyn a adawer yn ei luestai ef, a ddrygir. 27 Y nefoedd a ddatguddiant ei anwiredd ef, a’r ddaear a gyfyd yn ei erbyn ef. 28 Cynnydd ei dŷ ef a gilia: ei dda a lifa ymaith yn nydd ei ddigofaint ef. 29 Dyma ran dyn annuwiol gan Dduw; a’r etifeddiaeth a osodwyd iddo gan Dduw.
15 Yna yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid, y rhai oedd o Jerwsalem, a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd, 2 Paham y mae dy ddisgyblion di yn troseddu traddodiad yr hynafiaid? canys nid ydynt yn golchi eu dwylo pan fwytaont fara. 3 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A phaham yr ydych chwi yn troseddu gorchymyn Duw trwy eich traddodiad chwi? 4 Canys Duw a orchmynnodd, gan ddywedyd, Anrhydedda dy dad a’th fam: a’r hwn a felltithio dad neu fam, lladder ef yn farw. 5 Eithr yr ydych chwi yn dywedyd, Pwy bynnag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, Rhodd yw pa beth bynnag y ceit les oddi wrthyf fi, ac nid anrhydeddo ei dad neu ei fam, difai fydd. 6 Ac fel hyn y gwnaethoch orchymyn Duw yn ddirym trwy eich traddodiad eich hun. 7 O ragrithwyr, da y proffwydodd Eseias amdanoch chwi, gan ddywedyd, 8 Nesáu y mae’r bobl hyn ataf â’u genau, a’m hanrhydeddu â’u gwefusau; a’u calon sydd bell oddi wrthyf. 9 Eithr yn ofer y’m hanrhydeddant i, gan ddysgu gorchmynion dynion yn ddysgeidiaeth.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.