Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 55:1-15

I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschil, Salm Dafydd.

55 Gwrando fy ngweddi, O Dduw; ac nac ymguddia rhag fy neisyfiad. Gwrando arnaf, ac erglyw fi: cwynfan yr ydwyf yn fy ngweddi, a thuchan, Gan lais y gelyn, gan orthrymder yr annuwiol: oherwydd y maent yn bwrw anwiredd arnaf, ac yn fy nghasáu yn llidiog. Fy nghalon a ofidia o’m mewn: ac ofn angau a syrthiodd arnaf. Ofn ac arswyd a ddaeth arnaf, a dychryn a’m gorchuddiodd. A dywedais, O na bai i mi adenydd fel colomen! yna yr ehedwn ymaith, ac y gorffwyswn. Wele, crwydrwn ymhell, ac arhoswn yn yr anialwch. Sela. Brysiwn i ddianc, rhag y gwynt ystormus a’r dymestl. Dinistria, O Arglwydd, a gwahan eu tafodau: canys gwelais drawster a chynnen yn y ddinas. 10 Dydd a nos yr amgylchant hi ar ei muriau: ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi. 11 Anwireddau sydd yn ei chanol hi; ac ni chilia twyll a dichell o’i heolydd hi. 12 Canys nid gelyn a’m difenwodd; yna y dioddefaswn: nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i’m herbyn; yna mi a ymguddiaswn rhagddo ef: 13 Eithr tydi, ddyn, fy nghydradd, fy fforddwr, a’m cydnabod, 14 Y rhai oedd felys gennym gydgyfrinachu, ac a rodiasom i dŷ Dduw ynghyd. 15 Rhuthred marwolaeth arnynt, a disgynnant i uffern yn fyw: canys drygioni sydd yn eu cartref, ac yn eu mysg.

Job 15

15 Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd, A adrodd gŵr doeth wybodaeth o wynt? ac a leinw efe ei fol â’r dwyreinwynt? A ymresyma efe â gair ni fuddia? neu ag ymadroddion y rhai ni wna efe lesâd â hwynt? Yn ddiau ti a dorraist ymaith ofn: yr ydwyt yn atal gweddi gerbron Duw. Canys dy enau a draetha dy anwiredd; ac yr wyt yn dewis tafod y cyfrwys. Dy enau di sydd yn dy fwrw yn euog, ac nid myfi: a’th wefusau sydd yn tystiolaethu yn dy erbyn. A aned tydi yn gyntaf dyn? a lunied tydi o flaen y bryniau? A glywaist ti gyfrinach Duw? ac a ateli di ddoethineb gyda thi dy hun? Beth a wyddost ti a’r nas gwyddom ni? beth a ddeelli di, heb fod hynny hefyd gennym ninnau? 10 Y mae yn ein mysg ni y penllwyd, a’r oedrannus hefyd; hŷn o oedran na’th dad di. 11 Ai bychan gennyt ti ddiddanwch Duw? a oes dim dirgel gyda thi? 12 Pa beth sydd yn dwyn dy feddwl oddi arnat? ac ar ba beth yr amneidia dy lygaid, 13 Gan i ti droi dy feddwl yn erbyn Duw, a gollwng y fath eiriau allan o’th enau? 14 Pa beth yw dyn, i fod yn lân? a’r hwn a aned o wraig, i fod yn gyfiawn? 15 Wele, ni roddes efe ymddiried yn ei saint; a’r nefoedd nid ydynt lân yn ei olwg ef. 16 Pa faint mwy ffiaidd a drewedig ydyw dyn, yr hwn sydd yn yfed anwiredd fel dwfr? 17 Dangosaf i ti, gwrando arnaf; a’r hyn a welais a fynegaf. 18 Yr hyn a fynegodd gwŷr doethion oddi wrth eu tadau, ac nis celasant: 19 I’r rhai yn unig y rhoddwyd y ddaear: ac ni ddaeth alltud yn eu plith hwy. 20 Holl ddyddiau yr annuwiol y bydd efe yn ymofidio: a rhifedi y blynyddoedd a guddiwyd oddi wrth y traws. 21 Trwst ofnadwy sydd yn ei glustiau ef: mewn heddwch y daw y dinistrydd arno. 22 Ni chred efe y dychwel allan o dywyllwch: ac y mae y cleddyf yn gwylied arno. 23 Y mae efe yn crwydro am fara, pa le y byddo: efe a ŵyr fod dydd tywyllwch yn barod wrth ei law. 24 Cystudd a chyfyngdra a’i brawycha ef; hwy a’i gorchfygant, fel brenin parod i ryfel. 25 Canys efe a estynnodd ei law yn erbyn Duw; ac yn erbyn yr Hollalluog yr ymnerthodd. 26 Efe a red yn y gwddf iddo ef, trwy dewdwr torrau ei darianau: 27 Canys efe a dodd ei wyneb â’i fraster: ac a wnaeth dyrch o floneg ar ei denewynnau. 28 A thrigo y mae mewn dinasoedd wedi eu dinistrio, a thai anghyfannedd, y rhai sydd barod i fod yn garneddau. 29 Ni chyfoethoga efe, ni phery ei olud ef chwaith; ac nid estyn efe eu perffeithrwydd hwy ar y ddaear. 30 Nid ymedy efe allan o dywyllwch, y fflam a wywa ei frig ef; ac efe a ymedy trwy anadl ei enau ef. 31 Yr hwn a dwylled, nac ymddirieded mewn oferedd: canys oferedd fydd ei wobr ef. 32 Efe a dorrir ymaith cyn ei ddydd; a’i gangen ni lasa. 33 Efe a ddihidla ei rawn anaeddfed fel gwinwydden; ac a fwrw ei flodeuyn fel olewydden. 34 Canys cynulleidfa rhagrithwyr fydd unig: a thân a ysa luestai gwobrwyr. 35 Y maent yn ymddŵyn blinder, ac yn esgor ar wagedd; a’u bol sydd yn darpar twyll.

Mathew 5:27-36

27 Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na wna odineb; 28 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un sydd yn edrych ar wraig i’w chwenychu hi, wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon. 29 Ac os dy lygad deau a’th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o’th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern. 30 Ac os dy law ddeau a’th rwystra, tor hi ymaith, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o’th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern. 31 A dywedwyd, Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, rhoed iddi lythyr ysgar: 32 Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, fod pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos godineb, yn peri iddi wneuthur godineb: a phwy bynnag a briodo’r hon a ysgarwyd, y mae efe yn gwneuthur godineb.

33 Trachefn, clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na thwng anudon; eithr tâl dy lwon i’r Arglwydd: 34 Ond yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na thwng ddim: nac i’r nef; canys gorseddfa Duw ydyw: 35 Nac i’r ddaear; canys troedfainc ei draed ydyw: nac i Jerwsalem; canys dinas y brenin mawr ydyw. 36 Ac na thwng i’th ben; am na elli wneuthur un blewyn yn wyn, neu yn ddu.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.