Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschil, Salm Dafydd.
55 Gwrando fy ngweddi, O Dduw; ac nac ymguddia rhag fy neisyfiad. 2 Gwrando arnaf, ac erglyw fi: cwynfan yr ydwyf yn fy ngweddi, a thuchan, 3 Gan lais y gelyn, gan orthrymder yr annuwiol: oherwydd y maent yn bwrw anwiredd arnaf, ac yn fy nghasáu yn llidiog. 4 Fy nghalon a ofidia o’m mewn: ac ofn angau a syrthiodd arnaf. 5 Ofn ac arswyd a ddaeth arnaf, a dychryn a’m gorchuddiodd. 6 A dywedais, O na bai i mi adenydd fel colomen! yna yr ehedwn ymaith, ac y gorffwyswn. 7 Wele, crwydrwn ymhell, ac arhoswn yn yr anialwch. Sela. 8 Brysiwn i ddianc, rhag y gwynt ystormus a’r dymestl. 9 Dinistria, O Arglwydd, a gwahan eu tafodau: canys gwelais drawster a chynnen yn y ddinas. 10 Dydd a nos yr amgylchant hi ar ei muriau: ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi. 11 Anwireddau sydd yn ei chanol hi; ac ni chilia twyll a dichell o’i heolydd hi. 12 Canys nid gelyn a’m difenwodd; yna y dioddefaswn: nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i’m herbyn; yna mi a ymguddiaswn rhagddo ef: 13 Eithr tydi, ddyn, fy nghydradd, fy fforddwr, a’m cydnabod, 14 Y rhai oedd felys gennym gydgyfrinachu, ac a rodiasom i dŷ Dduw ynghyd. 15 Rhuthred marwolaeth arnynt, a disgynnant i uffern yn fyw: canys drygioni sydd yn eu cartref, ac yn eu mysg.
11 A soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd, 2 Oni atebir amlder geiriau? ac a gyfiawnheir gŵr siaradus? 3 Ai dy gelwyddau a wna i wŷr dewi? a phan watwarech, oni bydd a’th waradwyddo? 4 Canys dywedaist, Pur ydyw fy nysgeidiaeth, a glân ydwyf yn dy olwg di. 5 Ond, O na lefarai Duw, ac nad agorai ei wefusau yn dy erbyn, 6 A mynegi i ti ddirgeledigaethau doethineb, eu bod yn ddau cymaint â’r hyn sydd! Cydnebydd gan hynny i Dduw ofyn gennyt lai nag haeddai dy anwiredd. 7 A elli di wrth chwilio gael gafael ar Dduw? a elli di gael yr Hollalluog hyd berffeithrwydd? 8 Cyfuwch â’r nefoedd ydyw, beth a wnei di? dyfnach nag uffern yw, beth a elli di ei wybod? 9 Mae ei fesur ef yn hwy na’r ddaear, ac yn lletach na’r môr. 10 Os tyr efe ymaith, ac os carchara: os casgl ynghyd, pwy a’i rhwystra ef? 11 Canys efe a edwyn ofer ddynion, ac a wêl anwiredd; onid ystyria efe gan hynny? 12 Dyn gwag er hynny a gymer arno fod yn ddoeth; er geni dyn fel llwdn asen wyllt. 13 Os tydi a baratoi dy galon, ac a estynni dy ddwylo ato ef; 14 Od oes drygioni yn dy law, bwrw ef ymaith ymhell, ac na ddioddef i anwiredd drigo yn dy luestai: 15 Canys yna y codi dy wyneb yn ddifrychau; ie, byddi safadwy, ac nid ofni: 16 Oblegid ti a ollyngi dy ofid dros gof: fel dyfroedd y rhai a aethant heibio y cofi ef. 17 Dy oedran hefyd a fydd disgleiriach na hanner dydd; llewyrchi, a byddi fel y boreddydd. 18 Hyderus fyddi hefyd, oherwydd bod gobaith: ie, ti a gloddi, ac a orweddi mewn diogelwch. 19 Ti a orweddi hefyd, ac ni bydd a’th ddychryno, a llawer a ymbiliant â’th wyneb. 20 Ond llygaid yr annuwiolion a ddiffygiant, metha ganddynt ffoi, a’u gobaith fydd fel ymadawiad yr enaid.
10 Ac i’r rhai a briodwyd yr ydwyf yn gorchymyn, nid myfi chwaith, ond yr Arglwydd, Nad ymadawo gwraig oddi wrth ei gŵr: 11 Ac os ymedy hi, arhoed heb briodi, neu, cymoder hi â’i gŵr: ac na ollynged y gŵr ei wraig ymaith. 12 Ac wrth y lleill, dywedyd yr wyf fi, nid yr Arglwydd, Os bydd i un brawd wraig ddi‐gred, a hithau yn fodlon i drigo gydag ef, na ollynged hi ymaith. 13 A’r wraig, yr hon y mae iddi ŵr di‐gred, ac yntau yn fodlon i drigo gyda hi, na wrthoded hi ef. 14 Canys y gŵr di‐gred a sancteiddir trwy’r wraig, a’r wraig ddi‐gred a sancteiddir trwy’r gŵr: pe amgen, aflan yn ddiau fyddai eich plant; eithr yn awr sanctaidd ydynt. 15 Eithr os yr anghredadun a ymedy, ymadawed. Nid yw’r brawd neu’r chwaer gaeth yn y cyfryw bethau; eithr Duw a’n galwodd ni i heddwch. 16 Canys beth a wyddost ti, wraig, a gedwi di dy ŵr? a pheth a wyddost tithau, ŵr, a gedwi di dy wraig?
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.