Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschil, Salm Dafydd.
55 Gwrando fy ngweddi, O Dduw; ac nac ymguddia rhag fy neisyfiad. 2 Gwrando arnaf, ac erglyw fi: cwynfan yr ydwyf yn fy ngweddi, a thuchan, 3 Gan lais y gelyn, gan orthrymder yr annuwiol: oherwydd y maent yn bwrw anwiredd arnaf, ac yn fy nghasáu yn llidiog. 4 Fy nghalon a ofidia o’m mewn: ac ofn angau a syrthiodd arnaf. 5 Ofn ac arswyd a ddaeth arnaf, a dychryn a’m gorchuddiodd. 6 A dywedais, O na bai i mi adenydd fel colomen! yna yr ehedwn ymaith, ac y gorffwyswn. 7 Wele, crwydrwn ymhell, ac arhoswn yn yr anialwch. Sela. 8 Brysiwn i ddianc, rhag y gwynt ystormus a’r dymestl. 9 Dinistria, O Arglwydd, a gwahan eu tafodau: canys gwelais drawster a chynnen yn y ddinas. 10 Dydd a nos yr amgylchant hi ar ei muriau: ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi. 11 Anwireddau sydd yn ei chanol hi; ac ni chilia twyll a dichell o’i heolydd hi. 12 Canys nid gelyn a’m difenwodd; yna y dioddefaswn: nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i’m herbyn; yna mi a ymguddiaswn rhagddo ef: 13 Eithr tydi, ddyn, fy nghydradd, fy fforddwr, a’m cydnabod, 14 Y rhai oedd felys gennym gydgyfrinachu, ac a rodiasom i dŷ Dduw ynghyd. 15 Rhuthred marwolaeth arnynt, a disgynnant i uffern yn fyw: canys drygioni sydd yn eu cartref, ac yn eu mysg.
8 Yna Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd, 2 Pa hyd y dywedi di hynny? ac y bydd geiriau dy enau megis gwynt cryf? 3 A ŵyra Duw farn? neu a ŵyra yr Hollalluog gyfiawnder? 4 Os dy feibion a bechasant yn ei erbyn ef; a bwrw ohono ef hwynt ymaith am eu camwedd; 5 Os tydi a foregodi at Dduw, ac a weddïi ar yr Hollalluog; 6 Os pur ac uniawn fyddi, yn wir efe a ddeffry atat ti yr awron, ac a wna drigfa dy gyfiawnder yn llwyddiannus. 7 Er bod dy ddechreuad yn fychan, eto dy ddiwedd a gynydda yn ddirfawr. 8 Oblegid gofyn, atolwg, i’r oes gynt, ac ymbaratoa i chwilio eu hynafiaid hwynt: 9 (Canys er doe yr ydym ni, ac ni wyddom ddim, oherwydd cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear:) 10 Oni ddysgant hwy di? ac oni ddywedant i ti? ac oni ddygant ymadroddion allan o’u calon? 11 A gyfyd brwynen heb wlybaniaeth? a dyf hesg heb ddwfr? 12 Tra fyddo hi eto yn wyrddlas heb ei thorri, hi a wywa o flaen pob glaswelltyn. 13 Felly y mae llwybrau pawb a’r sydd yn gollwng Duw dros gof, ac y derfydd am obaith y rhagrithiwr: 14 Yr hwn y torrir ymaith ei obaith; ac fel tŷ pryf copyn y bydd ei hyder ef. 15 Efe a bwysa ar ei dŷ, ond ni saif; efe a ymeifl ynddo, ond ni phery. 16 Y mae efe yn ir o flaen yr haul, ac yn ei ardd y daw ei frig allan. 17 Plethir ei wraidd ef ynghylch y pentwr, ac efe a wêl le cerrig. 18 Os diwreiddia efe ef allan o’i le, efe a’i gwad ef, gan ddywedyd, Ni’th welais. 19 Wele, dyma lawenydd ei ffordd ef: ac o’r ddaear y blagura eraill. 20 Wele, ni wrthyd Duw y perffaith, ac nid ymeifl efe yn llaw y rhai drygionus; 21 Oni lanwo efe dy enau di â chwerthin, a’th wefusau â gorfoledd. 22 A gwisgir dy gaseion di â chywilydd, ac ni bydd lluesty yr annuwiol.
7 Ac am y pethau yr ysgrifenasoch ataf: Da i ddyn na chyffyrddai â gwraig. 2 Ond rhag godineb, bydded i bob gŵr ei wraig ei hun, a bydded i bob gwraig ei gŵr ei hun. 3 Rhodded y gŵr i’r wraig ddyledus ewyllys da; a’r un wedd y wraig i’r gŵr. 4 Nid oes i’r wraig feddiant ar ei chorff ei hun, ond i’r gŵr; ac yr un ffunud, nid oes i’r gŵr feddiant ar ei gorff ei hun, ond i’r wraig. 5 Na thwyllwch eich gilydd, oddieithr o gydsyniad dros amser, fel y galloch ymroi i ympryd a gweddi: a deuwch drachefn ynghyd, rhag temtio o Satan chwi oherwydd eich anlladrwydd. 6 A hyn yr wyf yn ei ddywedyd o ganiatâd, nid o orchymyn. 7 Canys mi a fynnwn fod pob dyn fel fi fy hun: eithr y mae i bob un ei ddawn ei hun gan Dduw; i un fel hyn, ac i arall fel hyn. 8 Dywedyd yr wyf wrth y rhai heb briodi, a’r gwragedd gweddwon, Da yw iddynt os arhosant fel finnau. 9 Eithr oni allant ymgadw, priodant: canys gwell yw priodi nag ymlosgi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.