Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Dafydd.
26 Barn fi, Arglwydd; canys rhodiais yn fy mherffeithrwydd: ymddiriedais hefyd yn yr Arglwydd: am hynny ni lithraf. 2 Hola fi, Arglwydd, a phrawf fi: chwilia fy arennau a’m calon. 3 Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid: ac mi a rodiais yn dy wirionedd. 4 Nid eisteddais gyda dynion coegion; a chyda’r rhai trofaus nid af. 5 Caseais gynulleidfa y drygionus; a chyda’r annuwiolion nid eisteddaf. 6 Golchaf fy nwylo mewn diniweidrwydd: a’th allor, O Arglwydd, a amgylchynaf: 7 I gyhoeddi â llef clodforedd, ac i fynegi dy holl ryfeddodau. 8 Arglwydd, hoffais drigfan dy dŷ, a lle preswylfa dy ogoniant. 9 Na chasgl fy enaid gyda phechaduriaid, na’m bywyd gyda dynion gwaedlyd: 10 Y rhai y mae ysgelerder yn eu dwylo, a’u deheulaw yn llawn gwobrau. 11 Eithr mi a rodiaf yn fy mherffeithrwydd: gwared fi, a thrugarha wrthyf. 12 Fy nhroed sydd yn sefyll ar yr uniawn: yn y cynulleidfaoedd y’th fendithiaf, O Arglwydd.
7 Onid oes amser terfynedig i ddyn ar y ddaear? onid yw ei ddyddiau ef megis dyddiau gwas cyflog? 2 Megis y dyhea gwas am gysgod, ac y disgwyl cyflogddyn wobr ei waith: 3 Felly y gwnaethpwyd i mi feddiannu misoedd o oferedd, a nosweithiau blinion a osodwyd i mi. 4 Pan orweddwyf, y dywedaf, Pa bryd y codaf, ac yr ymedy y nos? canys caf ddigon o ymdroi hyd y cyfddydd. 5 Fy nghnawd a wisgodd bryfed a thom priddlyd: fy nghroen a agennodd, ac a aeth yn ffiaidd. 6 Fy nyddiau sydd gynt na gwennol gwehydd, ac a ddarfuant heb obaith. 7 Cofia mai gwynt yw fy hoedl: ni wêl fy llygad ddaioni mwyach. 8 Y llygad a’m gwelodd, ni’m gwêl mwyach: dy lygaid sydd arnaf, ac nid ydwyf. 9 Fel y derfydd y cwmwl, ac yr â ymaith: felly yr hwn sydd yn disgyn i’r bedd, ni ddaw i fyny mwyach. 10 Ni ddychwel mwy i’w dŷ: a’i le nid edwyn ef mwy. 11 Gan hynny ni warafunaf i’m genau; mi a lefaraf yng nghyfyngdra fy ysbryd; myfi a gwynaf yn chwerwder fy enaid. 12 Ai môr ydwyf, neu forfil, gan dy fod yn gosod cadwraeth arnaf? 13 Pan ddywedwyf, Fy ngwely a’m cysura, fy ngorweddfa a esmwythâ fy nghwynfan; 14 Yna y’m brawychi â breuddwydion, ac y’m dychryni â gweledigaethau: 15 Am hynny y dewisai fy enaid ymdagu, a marwolaeth yn fwy na’m hoedl. 16 Ffieiddiais einioes, ni fynnwn fyw byth: paid â mi, canys oferedd ydyw fy nyddiau. 17 Pa beth ydyw dyn, pan fawrheit ef? a phan osodit dy feddwl arno? 18 Ac ymweled ag ef bob bore, a’i brofi ar bob moment? 19 Pa hyd y byddi heb gilio oddi wrthyf, ac na adewi fi yn llonydd tra llyncwyf fy mhoeryn? 20 Myfi a bechais; beth a wnaf i ti, O geidwad dyn? paham y gosodaist fi yn nod i ti, fel yr ydwyf yn faich i mi fy hun? 21 A phaham na faddeui fy nghamwedd, ac na fwri heibio fy anwiredd? canys yn awr yn y llwch y gorweddaf, a thi a’m ceisi yn fore, ond ni byddaf.
14 A’r Phariseaid hefyd, y rhai oedd ariangar, a glywsant y pethau hyn oll, ac a’i gwatwarasant ef. 15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwychwi yw’r rhai sydd yn eich cyfiawnhau eich hunain gerbron dynion; eithr Duw a ŵyr eich calonnau chwi: canys y peth sydd uchel gyda dynion, sydd ffiaidd gerbron Duw. 16 Y gyfraith a’r proffwydi oedd hyd Ioan: er y pryd hwnnw y pregethir teyrnas Dduw, a phob dyn sydd yn ymwthio iddi. 17 A haws yw i nef a daear fyned heibio, nag i un tipyn o’r gyfraith ballu. 18 Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, y mae efe yn godinebu; a phwy bynnag a briodo’r hon a ollyngwyd ymaith oddi wrth ei gŵr, y mae efe yn godinebu.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.