Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 26

Salm Dafydd.

26 Barn fi, Arglwydd; canys rhodiais yn fy mherffeithrwydd: ymddiriedais hefyd yn yr Arglwydd: am hynny ni lithraf. Hola fi, Arglwydd, a phrawf fi: chwilia fy arennau a’m calon. Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid: ac mi a rodiais yn dy wirionedd. Nid eisteddais gyda dynion coegion; a chyda’r rhai trofaus nid af. Caseais gynulleidfa y drygionus; a chyda’r annuwiolion nid eisteddaf. Golchaf fy nwylo mewn diniweidrwydd: a’th allor, O Arglwydd, a amgylchynaf: I gyhoeddi â llef clodforedd, ac i fynegi dy holl ryfeddodau. Arglwydd, hoffais drigfan dy dŷ, a lle preswylfa dy ogoniant. Na chasgl fy enaid gyda phechaduriaid, na’m bywyd gyda dynion gwaedlyd: 10 Y rhai y mae ysgelerder yn eu dwylo, a’u deheulaw yn llawn gwobrau. 11 Eithr mi a rodiaf yn fy mherffeithrwydd: gwared fi, a thrugarha wrthyf. 12 Fy nhroed sydd yn sefyll ar yr uniawn: yn y cynulleidfaoedd y’th fendithiaf, O Arglwydd.

Job 2:11-3:26

11 A phan glybu tri chyfaill Job yr holl ddrwg yma a ddigwyddasai iddo ef, hwy a ddaethant bob un o’i fangre ei hun; Eliffas y Temaniad, a Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad: canys hwy a gytunasent i ddyfod i gydofidio ag ef, ac i’w gysuro. 12 A phan ddyrchafasant eu llygaid o bell, ac heb ei adnabod ef, hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant; rhwygasant hefyd bob un ei fantell, a thaenasant lwch ar eu pennau tua’r nefoedd. 13 Felly hwy a eisteddasant gydag ef ar y ddaear saith niwrnod a saith noswaith; ac nid oedd neb a ddywedai air wrtho ef: canys gwelent fyned ei ddolur ef yn fawr iawn.

Wedi hyn Job a agorodd ei enau, ac a felltithiodd ei ddydd. A Job a lefarodd, ac a ddywedodd, Darfydded am y dydd y’m ganwyd ynddo, a’r nos y dywedwyd, Enillwyd gwryw. Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch, a Duw oddi uchod heb ei ystyried; ac na thywynned llewyrch arno. Tywyllwch a chysgod marwolaeth a’i halogo, ac arhosed cwmwl arno; dued y diwrnod a’i dychryno. Y nos honno, tywyllwch a’i cymero; na chydier hi â dyddiau y flwyddyn, ac na ddeued i rifedi y misoedd. Bydded y noswaith honno yn unig, ac na fydded gorfoledd ynddi. A’r rhai a felltithiant y dydd, ac sydd barod i gyffroi eu galar, a’i melltithio hi. A bydded sêr ei chyfddydd hi yn dywyll: disgwylied am oleuni ac na fydded iddi; ac na chaffed weled y wawrddydd: 10 Am na chaeodd ddrysau croth fy mam, ac na chuddiodd ofid oddi wrth fy llygaid. 11 Paham na bûm farw o’r bru? na threngais pan ddeuthum allan o’r groth? 12 Paham y derbyniodd gliniau fyfi? a phaham y cefais fronnau i sugno? 13 Oherwydd yn awr mi a gawswn orwedd, a gorffwys, a huno: yna y buasai llonyddwch i mi. 14 Gyda brenhinoedd a chynghorwyr y ddaear, y rhai a adeiladasant iddynt eu hunain fannau anghyfannedd; 15 Neu gyda thywysogion ag aur ganddynt, y rhai a lanwasant eu tai ag arian; 16 Neu fel erthyl cuddiedig, ni buaswn ddim; megis plant bychain heb weled goleuni. 17 Yno yr annuwiolion a beidiant â’u cyffro; ac yno y gorffwys y rhai lluddedig. 18 Y rhai a garcharwyd a gânt yno lonydd ynghyd; ni chlywant lais y gorthrymydd. 19 Bychan a mawr sydd yno; a’r gwas a ryddhawyd oddi wrth ei feistr. 20 Paham y rhoddir goleuni i’r hwn sydd mewn llafur, a bywyd i’r gofidus ei enaid? 21 Y rhai sydd yn disgwyl am farwolaeth, ac heb ei chael; ac yn cloddio amdani yn fwy nag am drysorau cuddiedig? 22 Y rhai a lawenychant mewn hyfrydwch, ac a orfoleddant, pan gaffont y bedd? 23 Paham y rhoddir goleuni i’r dyn y mae ei ffordd yn guddiedig, ac y caeodd Duw arno? 24 Oblegid o flaen fy mwyd y daw fy uchenaid; a’m rhuadau a dywelltir megis dyfroedd. 25 Canys yr hyn a fawr ofnais a ddaeth arnaf, a’r hyn a arswydais a ddigwyddodd i mi. 26 Ni chefais na llonydd nac esmwythdra, ac ni orffwysais: er hynny daeth cynnwrf.

Galatiaid 3:23-29

23 Eithr cyn dyfod ffydd, y’n cadwyd dan y ddeddf, wedi ein cyd‐gau i’r ffydd, yr hon oedd i’w datguddio. 24 Y ddeddf gan hynny oedd ein hathro ni at Grist, fel y’n cyfiawnheid trwy ffydd. 25 Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dan athro. 26 Canys chwi oll ydych blant i Dduw trwy ffydd yng Nghrist Iesu. 27 Canys cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd yng Nghrist, a wisgasoch Grist. 28 Nid oes nac Iddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw: canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu. 29 Ac os eiddo Crist ydych, yna had Abraham ydych, ac etifeddion yn ôl yr addewid.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.