Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 140

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

140 Gwared fi, O Arglwydd, oddi wrth y dyn drwg: cadw fi rhag y gŵr traws: Y rhai sydd yn bwriadu drygioni yn eu calon: ymgasglant beunydd i ryfel. Golymasant eu tafodau fel sarff: gwenwyn asb sydd dan eu gwefusau. Sela. Cadw fi, O Arglwydd, rhag dwylo’r annuwiol; cadw fi rhag y gŵr traws: y rhai a fwriadasant fachellu fy nhraed. Y beilchion a guddiasant faglau i mi, ac a estynasant rwyd wrth dannau ar ymyl y llwybrau: gosodasant hoenynnau ar fy medr. Sela. Dywedais wrth yr Arglwydd, Fy Nuw ydwyt ti: clyw, O Arglwydd, lef fy ngweddïau. Arglwydd Dduw, nerth fy iachawdwriaeth, gorchuddiaist fy mhen yn nydd brwydr. Na chaniatâ, Arglwydd, ddymuniad yr annuwiol: na lwydda ei ddrwg feddwl; rhag eu balchïo hwynt. Sela. Y pennaf o’r rhai a’m hamgylchyno, blinder eu gwefusau a’u gorchuddio. 10 Syrthied marwor arnynt: a bwrier hwynt yn tân; ac mewn ceuffosydd, fel na chyfodant. 11 Na sicrhaer dyn siaradus ar y ddaear: drwg a hela y gŵr traws i’w ddistryw. 12 Gwn y dadlau yr Arglwydd ddadl y truan, ac y barna efe y tlodion. 13 Y cyfiawn yn ddiau a glodforant dy enw di: y rhai uniawn a drigant ger dy fron di.

Esther 4

Pan wybu Mordecai yr hyn oll a wnaethid, Mordecai a rwygodd ei ddillad, ac a wisgodd sachliain a lludw, ac a aeth allan i ganol y ddinas, ac a waeddodd â chwerw lef uchel. Ac efe a ddaeth hyd o flaen porth y brenin: ond ni cheid dyfod i borth y brenin mewn gwisg o sach. Ac ym mhob talaith a lle a’r y daethai gair y brenin a’i orchymyn iddo, yr oedd galar mawr gan yr Iddewon, ac ympryd, ac wylofain, ac oernad; a llawer a orweddent mewn sachliain a lludw.

Yna llancesau Esther a’i hystafellyddion hi a ddaethant ac a fynegasant hynny iddi hi. A’r frenhines a dristaodd yn ddirfawr; a hi a ddanfonodd wisgoedd i ddilladu Mordecai, ac i dynnu ymaith ei sachliain ef oddi amdano; ond ni chymerai efe hwynt. Am hynny Esther a alwodd ar Hathach, un o ystafellyddion y brenin, yr hwn a osodasai efe i wasanaethu o’i blaen hi; a hi a orchmynnodd iddo am Mordecai, fynnu gwybod pa beth oedd hyn, ac am ba beth yr ydoedd hyn. Yna Hathach a aeth allan at Mordecai i heol y ddinas yr hon sydd o flaen porth y brenin. A Mordecai a fynegodd iddo yr hyn oll a ddigwyddasai iddo; a swm yr arian y rhai a adawsai Haman eu talu i drysorau y brenin am yr Iddewon, i’w difetha hwynt. Ac efe a roddodd iddo destun ysgrifen y gorchymyn a osodasid yn Susan i’w dinistrio hwynt, i’w ddangos i Esther, ac i’w fynegi iddi, ac i orchymyn iddi fyned i mewn at y brenin, i ymbil ag ef, ac i ymnhedd o’i flaen ef dros ei phobl. A Hathach a ddaeth ac a fynegodd i Esther eiriau Mordecai.

10 Ac Esther a ddywedodd wrth Hathach, ac a orchmynnodd iddo ddywedyd wrth Mordecai; 11 Holl weision y brenin, a phobl taleithiau y brenin, ydynt yn gwybod, mai pa ŵr bynnag, neu wraig, a ddelo i mewn at y brenin i’r cyntedd nesaf i mewn, heb ei alw, un o’i gyfreithiau ef yw ei farwolaethu ef, oddieithr yr hwn yr estynno y brenin y deyrnwialen aur iddo, fel y byddo byw: ac ni’m galwyd i ddyfod i mewn at y brenin, bellach er ys deng niwrnod ar hugain. 12 A hwy a fynegasant i Mordecai eiriau Esther. 13 Yna Mordecai a ddywedodd am iddynt ateb Esther, Na feddwl yn dy galon y dihengi yn nhŷ y brenin rhagor yr holl Iddewon. 14 Oherwydd os tewi â sôn a wnei di y pryd hwn, esmwythdra ac ymwared a gyfyd i’r Iddewon o le arall, tithau a thŷ dy dad a gyfrgollir: a phwy sydd yn gwybod ai oherwydd y fath amser â hwn y daethost ti i’r frenhiniaeth?

15 Yna Esther a ddywedodd am ateb Mordecai fel hyn: 16 Dos, a chasgl yr holl Iddewon a gaffer yn Susan, ac ymprydiwch drosof fi, na fwytewch hefyd ac nac yfwch dros dridiau, nos na dydd: a minnau a’m llancesau a ymprydiaf felly: ac felly yr af i mewn at y brenin, yr hwn beth nid yw gyfreithlon: ac o derfydd amdanaf, darfydded. 17 Felly Mordecai a aeth ymaith, ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Esther iddo.

1 Pedr 1:3-9

Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn yn ôl ei fawr drugaredd a’n hadgenhedlodd ni i obaith bywiol, trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw, I etifeddiaeth anllygredig, a dihalogedig, a diddiflanedig, ac yng nghadw yn y nefoedd i chwi. Y rhai trwy allu Duw ydych gadwedig trwy ffydd i iachawdwriaeth, parod i’w datguddio yn yr amser diwethaf. Yn yr hyn yr ydych yn mawr lawenhau, er eich bod ychydig yr awron, os rhaid yw, mewn tristwch, trwy amryw brofedigaethau: Fel y caffer profiad eich ffydd chwi, yr hwn sydd werthfawrusach na’r aur colladwy, cyd profer ef trwy dân, er mawl, ac anrhydedd, a gogoniant, yn ymddangosiad Iesu Grist: Yr hwn, er nas gwelsoch, yr ydych yn ei garu; yn yr hwn, heb fod yr awron yn ei weled, ond yn credu, yr ydych yn mawr lawenhau â llawenydd anhraethadwy a gogoneddus: Gan dderbyn diwedd eich ffydd, sef iachawdwriaeth eich eneidiau.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.