Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
7 Felly daeth y brenin a Haman i gyfeddach gydag Esther y frenhines. 2 A dywedodd y brenin wrth Esther drachefn yr ail ddydd, wrth gyfeddach y gwin, Beth yw dy ddymuniad, Esther y frenhines? ac fe a roddir i ti; a pha beth yw dy ddeisyfiad? gofyn hyd yn hanner y deyrnas, ac fe a’i cwblheir. 3 A’r frenhines Esther a atebodd, ac a ddywedodd, O chefais ffafr yn dy olwg di, O frenin, ac o rhyglydda bodd i’r brenin, rhodder i mi fy einioes ar fy nymuniad, a’m pobl ar fy neisyfiad. 4 Canys gwerthwyd ni, myfi a’m pobl, i’n dinistrio, i’n lladd, ac i’n difetha: ond pe gwerthasid ni yn gaethweision ac yn gaethforynion, mi a dawswn â sôn, er nad yw y gwrthwynebwr yn cystadlu colled y brenin.
5 Yna y llefarodd y brenin Ahasferus, ac y dywedodd wrth Esther y frenhines, Pwy yw hwnnw? a pha le y mae efe, yr hwn a glywai ar ei galon wneuthur felly? 6 A dywedodd Esther, Y gwrthwynebwr a’r gelyn yw yr Haman drygionus hwn. Yna Haman a ofnodd gerbron y brenin a’r frenhines.
9 A Harbona, un o’r ystafellyddion, a ddywedodd yng ngŵydd y brenin, Wele hefyd y crocbren a baratôdd Haman i Mordecai, yr hwn a lefarodd ddaioni am y brenin, yn sefyll yn nhŷ Haman, yn ddeg cufydd a deugain o uchder. Yna y dywedodd y brenin, Crogwch ef ar hwnnw. 10 Felly hwy a grogasant Haman ar y pren a barasai efe ei ddarparu i Mordecai. Yna dicllonedd y brenin a lonyddodd.
20 A Mordecai a ysgrifennodd y geiriau hyn, ac a anfonodd lythyrau at yr holl Iddewon oedd trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus, yn agos ac ymhell, 21 I ordeinio iddynt gadw y pedwerydd dydd ar ddeg o fis Adar, a’r pymthegfed dydd ohono, bob blwyddyn; 22 Megis y dyddiau y cawsai yr Iddewon ynddynt lonydd gan eu gelynion, a’r mis yr hwn a ddychwelasai iddynt o dristwch i lawenydd, ac o alar yn ddydd daionus: gan eu cynnal hwynt yn ddyddiau gwledd a llawenydd, a phawb yn anfon anrhegion i’w gilydd, a rhoddion i’r rhai anghenus.
Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.
124 Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyda ni, y gall Israel ddywedyd yn awr; 2 Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyda ni, pan gyfododd dynion yn ein herbyn: 3 Yna y’n llyncasent ni yn fyw, pan enynnodd eu llid hwynt i’n herbyn: 4 Yna y dyfroedd a lifasai drosom, y ffrwd a aethai dros ein henaid: 5 Yna yr aethai dros ein henaid ddyfroedd chwyddedig. 6 Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn ni roddodd ni yn ysglyfaeth i’w dannedd hwynt. 7 Ein henaid a ddihangodd fel aderyn o fagl yr adarwyr: y fagl a dorrwyd, a ninnau a ddianghasom. 8 Ein porth ni sydd yn enw yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.
13 A oes neb yn eich plith mewn adfyd? gweddïed. A oes neb yn esmwyth arno? caned salmau. 14 A oes neb yn eich plith yn glaf? galwed ato henuriaid yr eglwys; a gweddïant hwy drosto, gan ei eneinio ef ag olew yn enw’r Arglwydd: 15 A gweddi’r ffydd a iachâ’r claf, a’r Arglwydd a’i cyfyd ef i fyny; ac os bydd wedi gwneuthur pechodau, hwy a faddeuir iddo. 16 Cyffeswch eich camweddau bawb i’ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, fel y’ch iachaer. Llawer a ddichon taer weddi’r cyfiawn. 17 Eleias oedd ddyn yn rhaid iddo ddioddef fel ninnau, ac mewn gweddi efe a weddïodd na byddai law: ac ni bu glaw ar y ddaear dair blynedd a chwe mis. 18 Ac efe a weddïodd drachefn; a’r nef a roddes law, a’r ddaear a ddug ei ffrwyth. 19 Fy mrodyr, od aeth neb ohonoch ar gyfeiliorn oddi wrth y gwirionedd, a throi o ryw un ef; 20 Gwybydded, y bydd i’r hwn a drodd bechadur oddi wrth gyfeiliorni ei ffordd, gadw enaid rhag angau, a chuddio lliaws o bechodau.
38 Ac Ioan a’i hatebodd ef, gan ddywedyd, Athro, ni a welsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, yr hwn nid yw yn ein dilyn ni; ac ni a waharddasom iddo, am nad yw yn ein dilyn ni. 39 A’r Iesu a ddywedodd, Na waherddwch iddo; canys nid oes neb a wna wyrthiau yn fy enw i, ac a all yn y fan roi drygair i mi. 40 Canys y neb nid yw i’n herbyn, o’n tu ni y mae. 41 Canys pwy bynnag a roddo i chwi i’w yfed gwpanaid o ddwfr yn fy enw i, am eich bod yn perthyn i Grist, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei obrwy. 42 A phwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, gwell oedd iddo osod maen melin o amgylch ei wddf, a’i daflu i’r môr. 43 Ac os dy law a’th rwystra, tor hi ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn anafus, nag â dwy law gennyt fyned i uffern, i’r tân anniffoddadwy: 44 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na’r tân yn diffodd. 45 Ac os dy droed a’th rwystra, tor ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn gloff, nag â dau droed gennyt dy daflu i uffern, i’r tân anniffoddadwy: 46 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na’r tân yn diffodd. 47 Ac os dy lygad a’th rwystra, bwrw ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i deyrnas Dduw yn unllygeidiog, nag â dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern: 48 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na’r tân yn diffodd. 49 Canys pob un a helltir â thân, a phob aberth a helltir â halen. 50 Da yw’r halen: ond os bydd yr halen yn ddi‐hallt, â pha beth yr helltwch ef? Bid gennych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlon â’ch gilydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.