Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 124

Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.

124 Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyda ni, y gall Israel ddywedyd yn awr; Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyda ni, pan gyfododd dynion yn ein herbyn: Yna y’n llyncasent ni yn fyw, pan enynnodd eu llid hwynt i’n herbyn: Yna y dyfroedd a lifasai drosom, y ffrwd a aethai dros ein henaid: Yna yr aethai dros ein henaid ddyfroedd chwyddedig. Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn ni roddodd ni yn ysglyfaeth i’w dannedd hwynt. Ein henaid a ddihangodd fel aderyn o fagl yr adarwyr: y fagl a dorrwyd, a ninnau a ddianghasom. Ein porth ni sydd yn enw yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.

Esther 3

Wedi y pethau hyn, y brenin Ahasferus a fawrhaodd Haman mab Hammedatha yr Agagiad, ac a’i dyrchafodd ef; gosododd hefyd ei orseddfainc ef goruwch yr holl dywysogion oedd gydag ef. A holl weision y brenin, y rhai oedd ym mhorth y brenin, oedd yn ymgrymu, ac yn ymostwng i Haman; canys felly y gorchmynasai y brenin amdano ef: ond nid ymgrymodd Mordecai, ac nid ymostyngodd. Yna gweision y brenin, y rhai oedd ym mhorth y brenin, a ddywedasant wrth Mordecai, Paham yr ydwyt ti yn troseddu gorchymyn y brenin? Ac er eu bod hwy beunydd yn dywedyd wrtho fel hyn, eto ni wrandawai efe arnynt hwy; am hynny y mynegasant i Haman, i edrych a safai geiriau Mordecai: canys efe a fynegasai iddynt mai Iddew ydoedd efe. A phan welodd Haman nad oedd Mordecai yn ymgrymu, nac yn ymostwng iddo, Haman a lanwyd o ddicllonedd. Er hynny diystyr oedd ganddo yn ei olwg ei hun estyn llaw yn erbyn Mordecai ei hunan; canys mynegasant iddo bobl Mordecai: am hynny Haman a geisiodd ddifetha yr holl Iddewon, y rhai oedd trwy holl frenhiniaeth Ahasferus, sef pobl Mordecai.

Yn y mis cyntaf, hwnnw yw mis Nisan, yn y ddeuddegfed flwyddyn i’r brenin Ahasferus, efe a barodd fwrw Pwr, (hwnnw yw, y coelbren,) gerbron Haman, o ddydd i ddydd, ac o fis i fis, hyd y deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar.

A Haman a ddywedodd wrth y brenin Ahasferus, Y mae rhyw bobl wasgaredig a gwahanedig ymhlith y bobloedd, trwy holl daleithiau dy frenhiniaeth; a’u cyfreithiau hwynt sydd yn amrafaelio oddi wrth yr holl bobl, ac nid ydynt yn gwneuthur cyfreithiau y brenin; am hynny nid buddiol i’r brenin eu dioddef hwynt. O bydd bodlon gan y brenin, ysgrifenner am eu difetha hwynt: a deng mil o dalentau arian a dalaf ar ddwylo’r rhai a wnânt y weithred hon, i’w dwyn i drysorau y brenin. 10 A thynnodd y brenin ei fodrwy oddi am ei law, ac a’i rhoddes i Haman mab Hammedatha yr Agagiad, gwrthwynebwr yr Iddewon. 11 A’r brenin a ddywedodd wrth Haman, Rhodder yr arian i ti, a’r bobl, i wneuthur â hwynt fel y byddo da yn dy olwg. 12 Yna y galwyd ysgrifenyddion y brenin, yn y mis cyntaf, ar y trydydd dydd ar ddeg o’r mis hwnnw, ac yr ysgrifennwyd, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Haman, at bendefigion y brenin, ac at y dugiaid oedd ar bob talaith, ac at dywysogion pob pobl i bob talaith yn ôl ei ysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith; yn enw y brenin Ahasferus yr ysgrifenasid, ac â modrwy y brenin y seliasid hyn. 13 A’r llythyrau a anfonwyd gyda’r rhedegwyr i holl daleithiau y brenin; i ddinistrio, i ladd, ac i ddifetha yr holl Iddewon, yn ieuainc ac yn hen, yn blant ac yn wragedd, mewn un dydd, sef ar y trydydd dydd ar ddeg o’r deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar, ac i ysglyfaethu eu hysbail hwynt. 14 Testun yr ysgrifen, i roi gorchymyn ym mhob talaith, a gyhoeddwyd i’r holl bobloedd, i fod yn barod erbyn y diwrnod hwnnw. 15 Y rhedegwyr a aethant, wedi eu cymell trwy air y brenin, a’r gorchymyn a roddasid yn Susan y brenhinllys. Y brenin hefyd a Haman a eisteddasant i yfed, a dinasyddion Susan oedd yn athrist.

Mathew 5:13-20

13 Chwi yw halen y ddaear: eithr o diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef? ni thâl efe mwy ddim ond i’w fwrw allan, a’i sathru gan ddynion. 14 Chwi yw goleuni’r byd. Dinas a osodir ar fryn, ni ellir ei chuddio. 15 Ac ni oleuant gannwyll, a’i dodi dan lestr, ond mewn canhwyllbren; a hi a oleua i bawb sydd yn y tŷ. 16 Llewyrched felly eich goleuni gerbron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.

17 Na thybiwch fy nyfod i dorri’r gyfraith, neu’r proffwydi: ni ddeuthum i dorri, ond i gyflawni. 18 Canys yn wir meddaf i chwi, Hyd onid êl y nef a’r ddaear heibio, nid â un iod nac un tipyn o’r gyfraith heibio, hyd oni chwblhaer oll. 19 Pwy bynnag gan hynny a dorro un o’r gorchmynion lleiaf hyn, ac a ddysgo i ddynion felly, lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas nefoedd: ond pwy bynnag a’u gwnelo, ac a’u dysgo i eraill, hwn a elwir yn fawr yn nheyrnas nefoedd. 20 Canys meddaf i chwi, Oni bydd eich cyfiawnder yn helaethach na chyfiawnder yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid, nid ewch i mewn i deyrnas nefoedd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.