Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 124

Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.

124 Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyda ni, y gall Israel ddywedyd yn awr; Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyda ni, pan gyfododd dynion yn ein herbyn: Yna y’n llyncasent ni yn fyw, pan enynnodd eu llid hwynt i’n herbyn: Yna y dyfroedd a lifasai drosom, y ffrwd a aethai dros ein henaid: Yna yr aethai dros ein henaid ddyfroedd chwyddedig. Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn ni roddodd ni yn ysglyfaeth i’w dannedd hwynt. Ein henaid a ddihangodd fel aderyn o fagl yr adarwyr: y fagl a dorrwyd, a ninnau a ddianghasom. Ein porth ni sydd yn enw yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.

Esther 1:1-21

Yn nyddiau Ahasferus, (efe yw Ahasferus yr hwn oedd yn teyrnasu o India hyd Ethiopia, sef ar gant a saith ar hugain o daleithiau;) Yn y dyddiau hynny, pan eisteddodd y brenin Ahasferus ar orseddfa ei frenhiniaeth, yr hon oedd yn Susan y brenhinllys, Yn y drydedd flwyddyn o’i deyrnasiad, efe a wnaeth wledd i’w holl dywysogion a’i weision; cadernid Persia, a Media, y rhaglawiaid, a thywysogion y taleithiau, oedd ger ei fron ef: Fel y dangosai efe gyfoeth a gogoniant ei deyrnas, ac anrhydedd a phrydferthwch ei fawredd, ddyddiau lawer, sef cant a phedwar ugain o ddyddiau. Ac wedi gorffen y dyddiau hynny, y brenin a wnaeth i’r holl bobl a gafwyd yn Susan y brenhinllys, o’r mwyaf hyd y lleiaf, wledd dros saith niwrnod, yng nghyntedd gardd palas y brenin: Lle yr oedd llenni gwynion, gwyrddion, a rhuddgochion, wedi eu clymu â llinynnau sidan, ac â phorffor, wrth fodrwyau arian, a cholofnau marmor: y gwelyau oedd o aur ac arian, ar balmant o faen grisial, a marmor, ac alabaster, a iasinct. Ac yfed diod yr oeddynt mewn llestri aur, a chyfnewid amryw lestri, a gwin brenhinol lawer, yn ôl gallu y brenin. Yr yfed hefyd oedd wrth ddefod, nid oedd neb yn cymell: canys gosodasai y brenin orchymyn ar bob swyddwr o fewn ei dŷ, ar wneuthur yn ôl ewyllys pawb. Y frenhines Fasti hefyd a wnaeth wledd i’r gwragedd yn y brenhindy oedd eiddo Ahasferus y brenin.

10 Ar y seithfed dydd, pan oedd lawen calon y brenin gan win, efe a ddywedodd wrth Mehuman, Bistha, Harbona, Bigtha, ac Abagtha, Sethar, a Charcas, y saith ystafellydd oedd yn gweini gerbron y brenin Ahasferus, 11 Am gyrchu y frenhines Fasti o flaen y brenin, yn y frenhinol goron, i ddangos i’r bobloedd ac i’r tywysogion ei glendid hi: canys glân yr olwg ydoedd hi. 12 Ond y frenhines Fasti a wrthododd ddyfod wrth air y brenin trwy law ei ystafellyddion: am hynny y llidiodd y brenin yn ddirfawr, a’i ddicllonedd ef a enynnodd ynddo.

13 Yna y dywedodd y brenin wrth y doethion oedd yn gwybod yr amserau, (canys felly yr oedd arfer y brenin tuag at bob rhai a fyddai yn gwybod cyfraith a barn: 14 A nesaf ato ef oedd Carsena, Sethar, Admatha, Tarsis, Meres, Marsena, a Memuchan, saith dywysog Persia a Media, y rhai oedd yn gweled wyneb y brenin, ac yn eistedd yn gyntaf yn y frenhiniaeth;) 15 Beth sydd i’w wneuthur wrth y gyfraith i’r frenhines Fasti, am na wnaeth hi archiad y brenin Ahasferus trwy law yr ystafellyddion? 16 Yna Memuchan a ddywedodd gerbron y brenin a’r tywysogion, Nid yn erbyn y brenin yn unig y gwnaeth Fasti y frenhines ar fai, ond yn erbyn yr holl dywysogion hefyd, a’r holl bobloedd sydd trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus. 17 Canys gweithred y frenhines a â allan at yr holl wragedd, fel y tremygant eu gwŷr yn eu golwg eu hun, pan ddywedant, Y brenin Ahasferus a archodd gyrchu Fasti y frenhines o’i flaen; ond ni ddaeth hi. 18 Arglwyddesau Persia a Media, y rhai a glywsant weithred y frenhines, a ddywedant heddiw wrth holl dywysogion y brenin. Felly y bydd mwy na digon o ddirmyg a dicter. 19 Os bydd bodlon gan y brenin, eled brenhinol orchymyn oddi wrtho ef, ac ysgrifenner ef ymysg cyfreithiau y Persiaid a’r Mediaid, fel na throsedder ef, na ddêl Fasti mwy gerbron y brenin Ahasferus; a rhodded y brenin ei brenhinfraint hi i’w chyfeilles yr hon sydd well na hi. 20 A phan glywer gorchymyn y brenin, yr hwn a wnelo efe, trwy ei holl frenhiniaeth, (yr hon sydd fawr,) yna yr holl wragedd a roddant anrhydedd i’w gwŷr, o’r mwyaf hyd y lleiaf. 21 A da oedd y peth yng ngolwg y brenin a’r tywysogion; a’r brenin a wnaeth yn ôl gair Memuchan:

Actau 4:13-31

13 A phan welsant hyfder Pedr ac Ioan, a deall mai gwŷr anllythrennog ac annysgedig oeddynt, hwy a ryfeddasant; a hwy a’u hadwaenent, eu bod hwy gyda’r Iesu. 14 Ac wrth weled y dyn a iachasid yn sefyll gyda hwynt, nid oedd ganddynt ddim i’w ddywedyd yn erbyn hynny. 15 Eithr wedi gorchymyn iddynt fyned allan o’r gynghorfa, hwy a ymgyngorasant â’i gilydd, 16 Gan ddywedyd, Beth a wnawn ni i’r dynion hyn? canys yn ddiau arwydd hynod a wnaed trwyddynt hwy, hysbys i bawb a’r sydd yn preswylio yn Jerwsalem, ac nis gallwn ni ei wadu. 17 Eithr fel nas taener ymhellach ymhlith y bobl, gan fygwth bygythiwn hwy, na lefaront mwyach wrth un dyn yn yr enw hwn. 18 A hwy a’u galwasant hwynt, ac a orchmynasant iddynt nad ynganent ddim, ac na ddysgent yn enw yr Iesu. 19 Eithr Pedr ac Ioan a atebasant iddynt, ac a ddywedasant, Ai cyfiawn yw gerbron Duw, wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw, bernwch chwi. 20 Canys ni allwn ni na ddywedom y pethau a welsom ac a glywsom. 21 Eithr wedi eu bygwth ymhellach, hwy a’u gollyngasant hwy yn rhyddion, heb gael dim i’w cosbi hwynt, oblegid y bobl: canys yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn a wnaethid. 22 Canys yr oedd y dyn uwchlaw deugain oed, ar yr hwn y gwnaethid yr arwydd hwn o iechydwriaeth.

23 A hwythau, wedi eu gollwng ymaith, a ddaethant at yr eiddynt, ac a ddangosasant yr holl bethau a ddywedasai’r archoffeiriaid a’r henuriaid wrthynt. 24 Hwythau pan glywsant, o un fryd a gyfodasant eu llef at Dduw, ac a ddywedasant, O Arglwydd, tydi yw’r Duw yr hwn a wnaethost y nef, a’r ddaear, a’r môr, ac oll sydd ynddynt; 25 Yr hwn trwy’r Ysbryd Glân, yng ngenau dy was Dafydd, a ddywedaist, Paham y terfysgodd y cenhedloedd, ac y bwriadodd y bobloedd bethau ofer? 26 Brenhinoedd y ddaear a safasant i fyny, a’r llywodraethwyr a ymgasglasant ynghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef. 27 Canys mewn gwirionedd, yn y ddinas hon yr ymgynullodd yn erbyn dy Sanct Fab Iesu, yr hwn a eneiniaist ti, Herod a Phontius Peilat, gyda’r Cenhedloedd, a phobl Israel, 28 I wneuthur pa bethau bynnag a ragluniodd dy law a’th gyngor di eu gwneuthur. 29 Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion hwy, a chaniatâ i’th weision draethu dy air di gyda phob hyfder; 30 Trwy estyn ohonot dy law i iacháu, ac fel y gwneler arwyddion a rhyfeddodau trwy enw dy sanctaidd Fab Iesu.

31 Ac wedi iddynt weddïo, siglwyd y lle yr oeddynt wedi ymgynnull ynddo; a hwy a lanwyd oll o’r Ysbryd Glân, a hwy a lefarasant air Duw yn hyderus.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.