Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 128

Caniad y graddau.

128 Gwyn ei fyd pob un sydd yn ofni yr Arglwydd; yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef. Canys mwynhei lafur dy ddwylo: gwyn dy fyd, a da fydd i ti. Dy wraig fydd fel gwinwydden ffrwythlon ar hyd ystlysau dy dŷ: dy blant fel planhigion olewydd o amgylch dy ford. Wele, fel hyn yn ddiau y bendithir y gŵr a ofno yr Arglwydd. Yr Arglwydd a’th fendithia allan o Seion; a thi a gei weled daioni Jerwsalem holl ddyddiau dy einioes. A thi a gei weled plant dy blant, a thangnefedd ar Israel.

Pregethwr 5

Gwylia ar dy droed pan fyddych yn myned i dŷ Dduw, a bydd barotach i wrando nag i roi aberth ffyliaid; canys ni wyddant hwy eu bod yn gwneuthur drwg. Na fydd ry brysur â’th enau, ac na frysied dy galon i draethu dim gerbron Duw: canys Duw sydd yn y nefoedd, a thithau sydd ar y ddaear; ac am hynny bydded dy eiriau yn anaml. Canys breuddwyd a ddaw o drallod lawer: ac ymadrodd y ffôl o laweroedd o eiriau. Pan addunedech adduned i Dduw, nac oeda ei thalu: canys nid oes ganddo flas ar rai ynfyd; y peth a addunedaist, tâl. Gwell i ti fod heb addunedu, nag i ti addunedu a bod heb dalu. Na ad i’th enau beri i’th gnawd bechu; ac na ddywed gerbron yr angel, Amryfusedd fu: paham y digiai Duw wrth dy leferydd, a difetha gwaith dy ddwylo? Canys mewn llaweroedd o freuddwydion y mae gwagedd, ac mewn llawer o eiriau: ond ofna di Dduw.

Os gweli dreisio y tlawd, a thrawswyro barn a chyfiawnder mewn gwlad, na ryfedda o achos hyn: canys y mae yr hwn sydd uwch na’r uchaf yn gwylied; ac y mae un sydd uwch na hwynt.

Cynnyrch y ddaear hefyd sydd i bob peth: wrth dir llafur y mae y brenin yn byw. 10 Y neb a garo arian, ni ddigonir ag arian; na’r neb a hoffo amldra, â chynnyrch. Hyn hefyd sydd wagedd. 11 Lle y byddo llawer o dda, y bydd llawer i’w ddifa: pa fudd gan hynny sydd i’w perchennog, ond eu gweled â’u llygaid? 12 Melys yw hun y gweithiwr, pa un bynnag ai ychydig ai llawer a fwytao: ond llawnder y cyfoethog ni ad iddo gysgu. 13 Y mae trueni blin a welais dan yr haul, cyfoeth wedi eu cadw yn niwed i’w perchennog. 14 Ond derfydd am y cyfoeth hynny trwy drallod blin; ac efe a ennill fab, ac nid oes dim yn ei law ef. 15 Megis y daeth allan o groth ei fam yn noeth, y dychwel i fyned modd y daeth, ac ni ddwg ddim o’i lafur, yr hyn a ddygo ymaith yn ei law. 16 A hyn hefyd sydd ofid blin; yn hollol y modd y daeth, felly yr â efe ymaith: a pha fudd sydd iddo ef a lafuriodd am y gwynt? 17 Ei holl ddyddiau y bwyty efe mewn tywyllwch, mewn dicter mawr, gofid, a llid.

18 Wele y peth a welais i: da yw a theg i ddyn fwyta ac yfed, a chymryd byd da o’i holl lafur a lafuria dan yr haul, holl ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes Duw iddo: canys hynny yw ei ran ef. 19 Ie, i bwy bynnag y rhoddes Duw gyfoeth a golud; ac y rhoddes iddo ryddid i fwyta ohonynt, ac i gymryd ei ran, ac i lawenychu yn ei lafur; rhodd Duw yw hyn. 20 Canys ni fawr gofia efe ddyddiau ei fywyd; am fod Duw yn ateb i lawenydd ei galon ef.

Ioan 8:21-38

21 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy drachefn, Yr wyf fi yn myned ymaith, a chwi a’m ceisiwch i, ac a fyddwch feirw yn eich pechod: lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod. 22 Am hynny y dywedodd yr Iddewon, A ladd efe ei hun? gan ei fod yn dywedyd, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod. 23 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Chwychwi sydd oddi isod; minnau sydd oddi uchod: chwychwi sydd o’r byd hwn; minnau nid wyf o’r byd hwn. 24 Am hynny y dywedais wrthych, y byddwch chwi feirw yn eich pechodau: oblegid oni chredwch chwi mai myfi yw efe, chwi a fyddwch feirw yn eich pechodau. 25 Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd hefyd wrthych o’r dechreuad. 26 Y mae gennyf fi lawer o bethau i’w dywedyd ac i’w barnu amdanoch chwi: eithr cywir yw’r hwn a’m hanfonodd i; a’r pethau a glywais i ganddo, y rhai hynny yr ydwyf fi yn eu dywedyd i’r byd. 27 Ni wyddent hwy mai am y Tad yr oedd efe yn dywedyd wrthynt hwy. 28 Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt, Pan ddyrchafoch chwi Fab y dyn, yna y cewch wybod mai myfi yw efe, ac nad wyf fi yn gwneuthur dim ohonof fy hun; ond megis y dysgodd fy Nhad fi, yr wyf yn llefaru y pethau hyn. 29 A’r hwn a’m hanfonodd i sydd gyda myfi: ni adawodd y Tad fi yn unig; oblegid yr wyf fi yn gwneuthur bob amser y pethau sydd fodlon ganddo ef. 30 Fel yr oedd efe yn llefaru’r pethau hyn, llawer a gredasant ynddo ef. 31 Yna y dywedodd yr Iesu wrth yr Iddewon a gredasant ynddo, Os arhoswch chwi yn fy ngair i, disgyblion i mi ydych yn wir; 32 A chwi a gewch wybod y gwirionedd, a’r gwirionedd a’ch rhyddha chwi.

33 Hwythau a atebasant iddo, Had Abraham ydym ni, ac ni wasanaethasom ni neb erioed: pa fodd yr wyt ti yn dywedyd, Chwi a wneir yn rhyddion? 34 Yr Iesu a atebodd iddynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pwy bynnag sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn was i bechod. 35 Ac nid yw’r gwas yn aros yn tŷ byth: y Mab sydd yn aros byth. 36 Os y Mab gan hynny a’ch rhyddha chwi, rhyddion fyddwch yn wir. 37 Mi a wn mai had Abraham ydych chwi: ond yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, am nad yw fy ngair i yn genni ynoch chwi. 38 Yr wyf fi yn llefaru yr hyn a welais gyda’m Tad i: a chwithau sydd yn gwneuthur yr hyn a welsoch gyda’ch tad chwithau.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.