Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 128

Caniad y graddau.

128 Gwyn ei fyd pob un sydd yn ofni yr Arglwydd; yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef. Canys mwynhei lafur dy ddwylo: gwyn dy fyd, a da fydd i ti. Dy wraig fydd fel gwinwydden ffrwythlon ar hyd ystlysau dy dŷ: dy blant fel planhigion olewydd o amgylch dy ford. Wele, fel hyn yn ddiau y bendithir y gŵr a ofno yr Arglwydd. Yr Arglwydd a’th fendithia allan o Seion; a thi a gei weled daioni Jerwsalem holl ddyddiau dy einioes. A thi a gei weled plant dy blant, a thangnefedd ar Israel.

Diarhebion 27

27 Nac ymffrostia o’r dydd yfory: canys ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod. Canmoled arall dydi, ac nid dy enau dy hun; estron, ac nid dy wefusau dy hunan. Trom yw y garreg, a phwysfawr yw y tywod: ond digofaint y ffôl sydd drymach na hwy ill dau. Creulon yw llid, fel llifddwfr yw digofaint; a phwy a ddichon sefyll o flaen cenfigen? Gwell yw cerydd cyhoedd na chariad cuddiedig. Ffyddlon yw archollion y caredig: ond cusanau y digasog ydynt dwyllodrus. Y dyn llawn a fathra y dil mêl: ond i’r newynog pob peth chwerw sydd felys. Gŵr yn ymdaith o’i le ei hun, sydd debyg i aderyn yn cilio o’i nyth. Olew ac arogl‐darth a lawenycha y galon; felly y gwna mwynder cyfaill trwy gyngor ffyddlon. 10 Nac ymado â’th gydymaith dy hun, a chydymaith dy dad; ac na ddos i dŷ dy frawd yn amser dy orthrymder: canys gwell yw cymydog yn agos na brawd ymhell. 11 Bydd ddoeth, fy mab, a llawenycha fy nghalon; fel y gallwyf ateb i’r neb a’m gwaradwyddo. 12 Y call a wêl y drwg yn dyfod, ac a ymgûdd: ond yr angall a ânt rhagddynt, ac a gosbir. 13 Cymer wisg yr hwn a fachnïo dros y dieithr; a chymer wystl ganddo dros y ddieithr. 14 Y neb a fendithio ei gydymaith â llef uchel y bore pan gyfodo, cyfrifir hyn yn felltith iddo. 15 Defni parhaus ar ddiwrnod glawog, a gwraig anynad, cyffelyb ydynt. 16 Y mae yr hwn a’i cuddio hi, megis yn cuddio y gwynt, ac olew ei ddeheulaw, yr hwn a ymddengys. 17 Haearn a hoga haearn: felly gŵr a hoga wyneb ei gyfaill. 18 Y neb a gadwo ei ffigysbren, a fwyty o’i ffrwyth ef: a’r neb a wasanaetho ei feistr, a ddaw i anrhydedd. 19 Megis mewn dwfr y mae wyneb yn ateb i wyneb: felly y mae calon dyn i ddyn. 20 Ni lenwir uffern na distryw: felly ni lenwir llygaid dyn. 21 Fel y tawddlestr i’r arian, a’r ffwrnais i’r aur: felly y mae gŵr i’w glod. 22 Er i ti bwyo ffôl mewn morter â phestl ymhlith gwenith, eto nid ymedy ei ffolineb ag ef. 23 Edrych yn ddyfal ar dy anifeiliaid, a gofala am dy braidd. 24 Canys cyfoeth ni phery byth: ac a bery y goron o genhedlaeth i genhedlaeth? 25 Y gwair a flaendardda, a’r glaswellt a ymddengys, a llysiau y mynyddoedd a gesglir. 26 Yr ŵyn a’th ddillada, ac o’r geifr y cei werth tir. 27 Hefyd ti a gei ddigon o laeth geifr yn fwyd i ti, yn fwyd i’th dylwyth, ac yn gynhaliaeth i’th lancesau.

Iago 4:8-17

Nesewch at Dduw, ac efe a nesâ atoch chwi. Glanhewch eich dwylo, chwi bechaduriaid; a phurwch eich calonnau, chwi â’r meddwl dauddyblyg. Ymofidiwch, a galerwch, ac wylwch: troer eich chwerthin chwi yn alar, a’ch llawenydd yn dristwch. 10 Ymddarostyngwch gerbron yr Arglwydd, ac efe a’ch dyrchafa chwi. 11 Na ddywedwch yn erbyn eich gilydd, frodyr. Y neb sydd yn dywedyd yn erbyn ei frawd, ac yn barnu ei frawd, y mae efe yn dywedyd yn erbyn y gyfraith, ac yn barnu’r gyfraith: ac od wyt ti yn barnu’r gyfraith, nid wyt ti wneuthurwr y gyfraith, eithr barnwr. 12 Un gosodwr cyfraith sydd, yr hwn a ddichon gadw a cholli. Pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu arall? 13 Iddo yn awr, y rhai ydych yn dywedyd, Heddiw neu yfory ni a awn i gyfryw ddinas, ac a arhoswn yno flwyddyn, ac a farchnatawn, ac a enillwn: 14 Y rhai ni wyddoch beth a fydd yfory. Canys beth ydyw eich einioes chwi? Canys tarth ydyw, yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos, ac wedi hynny yn diflannu. 15 Lle y dylech ddywedyd, Os yr Arglwydd a’i myn, ac os byddwn byw, ni a wnawn hyn, neu hynny. 16 Eithr yn awr gorfoleddu yr ydych yn eich ymffrost: pob cyfryw orfoledd, drwg ydyw. 17 Am hynny i’r neb a fedr wneuthur daioni, ac nid yw yn ei wneuthur, pechod ydyw iddo.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.