Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
10 Pwy a fedr gael gwraig rinweddol? gwerthfawrocach yw hi na’r carbuncl. 11 Calon ei gŵr a ymddiried ynddi, fel na bydd arno eisiau anrhaith. 12 Hi a wna iddo les, ac nid drwg, holl ddyddiau ei bywyd. 13 Hi a gais wlân a llin, ac a’i gweithia â’i dwylo yn ewyllysgar. 14 Tebyg yw hi i long marsiandwr; hi a ddwg ei hymborth o bell. 15 Hi a gyfyd hefyd liw nos, ac a rydd fwyd i’w thylwyth, a’u dogn i’w llancesau. 16 Hi a feddwl am faes, ac a’i prŷn ef; â gwaith ei dwylo hi a blanna winllan. 17 Hi a wregysa ei llwynau â nerth, ac a gryfha ei breichiau. 18 Hi a wêl fod ei marsiandïaeth yn fuddiol; ni ddiffydd ei channwyll ar hyd y nos. 19 Hi a rydd ei llaw ar y werthyd, a’i llaw a ddeil y cogail. 20 Hi a egyr ei llaw i’r tlawd, ac a estyn ei dwylo i’r anghenus. 21 Nid ofna hi am ei thylwyth rhag yr eira; canys ei holl dŷ hi a ddilledir ag ysgarlad. 22 Hi a weithia iddi ei hun garpedau; ei gwisg yw sidan a phorffor. 23 Hynod yw ei gŵr hi yn y pyrth, pan eisteddo gyda henuriaid y wlad. 24 Hi a wna liain main, ac a’i gwerth, ac a rydd wregysau at y marsiandwr. 25 Nerth ac anrhydedd yw ei gwisg; ac yn yr amser a ddaw hi a chwardd. 26 Hi a egyr ei genau yn ddoeth: a chyfraith trugaredd sydd ar ei thafod hi. 27 Hi a graffa ar ffyrdd tylwyth ei thŷ: ac ni fwyty hi fara seguryd. 28 Ei phlant a godant, ac a’i galwant yn ddedwydd; ei gŵr hefyd, ac a’i canmol hi: 29 Llawer merch a weithiodd yn rymus; ond ti a ragoraist arnynt oll. 30 Siomedig yw ffafr, ac ofer yw tegwch; ond benyw yn ofni yr Arglwydd, hi a gaiff glod. 31 Rhoddwch iddi o ffrwyth ei dwylo; a chanmoled ei gweithredoedd hi yn y pyrth.
1 Gwyn ei fyd y gŵr ni rodia yng nghyngor yr annuwiolion, ac ni saif yn ffordd pechaduriaid, ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr. 2 Ond sydd â’i ewyllys yng nghyfraith yr Arglwydd; ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos. 3 Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd; a’i ddalen ni wywa; a pha beth bynnag a wnêl, efe a lwydda. 4 Nid felly y bydd yr annuwiol; ond fel mân us yr hwn a chwâl y gwynt ymaith. 5 Am hynny yr annuwiolion ni safant yn y farn, na phechaduriaid yng nghynulleidfa y rhai cyfiawn. 6 Canys yr Arglwydd a edwyn ffordd y rhai cyfiawn: ond ffordd yr annuwiolion a ddifethir.
13 Pwy sydd ŵr doeth a deallus yn eich plith? dangosed, trwy ymarweddiad da, ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra doethineb. 14 Eithr od oes gennych genfigen chwerw ac ymryson yn eich calon, na fyddwch ffrostwyr a chelwyddog yn erbyn y gwirionedd. 15 Nid yw’r doethineb hwn yn disgyn oddi uchod; ond daearol, anianol, cythreulig yw. 16 Canys lle mae cenfigen ac ymryson, yno y mae terfysg, a phob gweithred ddrwg. 17 Eithr y ddoethineb sydd oddi uchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hynny heddychlon, boneddigaidd, hawdd ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd, a diragrith. 18 A ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch i’r rhai sydd yn gwneuthur heddwch.
4 O ba le y mae rhyfeloedd ac ymladdau yn eich plith chwi? onid oddi wrth hyn, sef eich melyschwantau y rhai sydd yn rhyfela yn eich aelodau? 2 Chwenychu yr ydych, ac nid ydych yn cael: cenfigennu yr ydych ac eiddigeddu, ac nid ydych yn gallu cyrhaeddyd: ymladd a rhyfela yr ydych, ond nid ydych yn cael, am nad ydych yn gofyn. 3 Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, oherwydd eich bod yn gofyn ar gam, fel y galloch eu treulio ar eich melyschwantau.
7 Ymddarostyngwch gan hynny i Dduw. Gwrthwynebwch ddiafol, ac efe a ffy oddi wrthych. 8 Nesewch at Dduw, ac efe a nesâ atoch chwi. Glanhewch eich dwylo, chwi bechaduriaid; a phurwch eich calonnau, chwi â’r meddwl dauddyblyg.
30 Ac wedi ymadael oddi yno, hwy a ymdeithiasant trwy Galilea: ac ni fynnai efe wybod o neb. 31 Canys yr oedd efe yn dysgu ei ddisgyblion, ac yn dywedyd wrthynt, Y traddodid Mab y dyn i ddwylo dynion, ac y lladdent ef; ac wedi ei ladd, yr atgyfodai y trydydd dydd. 32 Ond nid oeddynt hwy yn deall yr ymadrodd, ac ofni yr oeddynt ofyn iddo.
33 Ac efe a ddaeth i Gapernaum: a phan oedd efe yn y tŷ, efe a ofynnodd iddynt, Beth yr oeddech yn ymddadlau yn eich plith eich hunain ar y ffordd? 34 Ond hwy a dawsant â sôn: canys ymddadleuasent â’i gilydd ar y ffordd, pwy a fyddai fwyaf. 35 Ac efe a eisteddodd, ac a alwodd y deuddeg, ac a ddywedodd wrthynt, Os myn neb fod yn gyntaf, efe a fydd olaf o’r cwbl, a gweinidog i bawb. 36 Ac efe a gymerth fachgennyn, ac a’i gosododd ef yn eu canol hwynt: ac wedi iddo ei gymryd ef yn ei freichiau, efe a ddywedodd wrthynt, 37 Pwy bynnag a dderbynio un o’r cyfryw fechgyn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynnag a’m derbyn i, nid myfi y mae yn ei dderbyn, ond yr hwn a’m danfonodd i.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.