Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 73:21-28

21 Fel hyn y gofidiodd fy nghalon, ac y’m pigwyd yn fy arennau. 22 Mor ynfyd oeddwn, ac heb wybod; anifail oeddwn o’th flaen di. 23 Eto yr ydwyf yn wastad gyda thi: ymaflaist yn fy llaw ddeau. 24 A’th gyngor y’m harweini; ac wedi hynny y’m cymeri i ogoniant. 25 Pwy sydd gennyf fi yn y nefoedd ond tydi? ac ni ewyllysiais ar y ddaear neb gyda thydi. 26 Pallodd fy nghnawd a’m calon: ond nerth fy nghalon a’m rhan yw Duw yn dragywydd. 27 Canys wele, difethir y rhai a bellhânt oddi wrthyt: torraist ymaith bob un a buteinio oddi wrthyt. 28 Minnau, nesáu at Dduw sydd dda i mi: yn yr Arglwydd Dduw y gosodais fy ngobaith, i draethu dy holl weithredoedd.

Diarhebion 29

29 Gwr a gerydder yn fynych ac a galeda ei war, a ddryllir yn ddisymwth, fel na byddo meddyginiaeth. Pan amlhaer y cyfiawn, y bobl a lawenychant: ond pan fyddo yr annuwiol yn llywodraethu, y bobl a ocheneidia. Gŵr a garo ddoethineb a lawenycha ei dad: ond y neb a fyddo gyfaill i buteiniaid, a ddifa ei dda. Brenin trwy farn a gadarnha y wlad: ond y neb a garo anrhegion, a’i dinistria hi. Y gŵr a ddywedo weniaith wrth ei gymydog, sydd yn taenu rhwyd i’w draed ef. Yng nghamwedd dyn drwg y mae magl: ond y cyfiawn a gân ac a fydd lawen. Y cyfiawn a ystyria fater y tlodion: ond yr annuwiol ni ofala am ei wybod. Dynion gwatwarus a faglant ddinas: ond y doethion a droant ymaith ddigofaint. Os gŵr doeth a ymryson â dyn ffôl, pa un bynnag a wnêl ai digio ai chwerthin, eto ni bydd llonyddwch. 10 Gwŷr gwaedlyd a gasânt yr uniawn: ond yr uniawn a gais ei enaid ef. 11 Y ffôl a dywallt ei holl feddwl: ond gŵr doeth a’i hatal hyd yn ôl. 12 Os llywydd a wrendy ar gelwydd, ei holl weision fyddant annuwiol. 13 Y tlawd a’r twyllodrus a gydgyfarfyddant; a’r Arglwydd a lewyrcha eu llygaid hwy ill dau. 14 Y brenin a farno y tlodion yn ffyddlon, ei orsedd a sicrheir byth. 15 Y wialen a cherydd a rydd ddoethineb: ond mab a gaffo ei rwysg ei hun, a gywilyddia ei fam. 16 Pan amlhao y rhai annuwiol, yr amlha camwedd: ond y rhai cyfiawn a welant eu cwymp hwy. 17 Cerydda dy fab, ac efe a bair i ti lonyddwch; ac a bair hyfrydwch i’th enaid. 18 Lle ni byddo gweledigaeth, methu a wna y bobl: ond y neb a gadwo y gyfraith, gwyn ei fyd ef. 19 Ni chymer gwas addysg ar eiriau: canys er ei fod yn deall, eto nid etyb. 20 A weli di ddyn prysur yn ei eiriau? gwell yw y gobaith am y ffôl nag amdano ef. 21 Y neb a ddygo ei was i fyny yn foethus o’i febyd, o’r diwedd efe a fydd fel mab iddo. 22 Gŵr dicllon a ennyn gynnen; a’r llidiog sydd aml ei gamwedd. 23 Balchder dyn a’i gostwng ef: ond y gostyngedig o ysbryd a gynnal anrhydedd. 24 Y neb a fo cyfrannog â lleidr, a gasâ ei enaid ei hun: efe a wrendy ar felltith, ac nis mynega. 25 Ofn dyn sydd yn dwyn magl: ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd a ddyrchefir. 26 Llawer a ymgeisiant ag wyneb y llywydd: ond oddi wrth yr Arglwydd y mae barn pob dyn. 27 Ffiaidd gan y cyfiawn ŵr anghyfiawn: a ffiaidd gan yr annuwiol ŵr uniawn ei ffordd.

Ioan 7:25-36

25 Yna y dywedodd rhai o’r Hierosolymitaniaid, Onid hwn yw’r un y maent hwy yn ceisio’i ladd? 26 Ac wele, y mae yn llefaru ar gyhoedd, ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho ef: a wybu’r penaethiaid mewn gwirionedd mai hwn yw Crist yn wir? 27 Eithr nyni a adwaenom hwn o ba le y mae: eithr pan ddêl Crist, nis gŵyr neb o ba le y mae. 28 Am hynny yr Iesu, wrth athrawiaethu yn y deml, a lefodd ac a ddywedodd, Chwi a’m hadwaenoch i, ac a wyddoch o ba le yr ydwyf fi: ac ni ddeuthum i ohonof fy hun, eithr y mae yn gywir yr hwn a’m hanfonodd i, yr hwn nid adwaenoch chwi. 29 Ond myfi a’i hadwaen: oblegid ohono ef yr ydwyf fi, ac efe a’m hanfonodd i. 30 Am hynny hwy a geisiasant ei ddal ef: ond ni osododd neb law arno, am na ddaethai ei awr ef eto. 31 A llawer o’r bobl a gredasant ynddo, ac a ddywedasant, Pan ddelo Crist, a wna efe fwy o arwyddion na’r rhai hyn a wnaeth hwn?

32 Y Phariseaid a glywsant fod y bobl yn murmur y pethau hyn amdano ef; a’r Phariseaid a’r archoffeiriaid a anfonasant swyddogion i’w ddal ef. 33 Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Yr ydwyf fi ychydig amser eto gyda chwi, ac yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd. 34 Chwi a’m ceisiwch, ac ni’m cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod. 35 Yna y dywedodd yr Iddewon yn eu mysg eu hunain, I ba le y mae hwn ar fedr myned, fel na chaffom ni ef? ai at y rhai sydd ar wasgar ymhlith y Groegiaid y mae efe ar fedr myned, a dysgu’r Groegiaid? 36 Pa ymadrodd yw hwn a ddywedodd efe, Chwi a’m ceisiwch, ac ni’m cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod?

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.