Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
19 Y Nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw; a’r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylo ef. 2 Dydd i ddydd a draetha ymadrodd, a nos i nos a ddengys wybodaeth. 3 Nid oes iaith nac ymadrodd, lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt. 4 Eu llinyn a aeth trwy yr holl ddaear, a’u geiriau hyd eithafoedd byd: i’r haul y gosododd efe babell ynddynt; 5 Yr hwn sydd fel gŵr priod yn dyfod allan o’i ystafell: ac a ymlawenha fel cawr i redeg gyrfa. 6 O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan, a’i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt: ac nid ymgudd dim oddi wrth ei wres ef. 7 Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith, yn troi yr enaid: tystiolaeth yr Arglwydd sydd sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth. 8 Deddfau yr Arglwydd sydd uniawn, yn llawenhau y galon: gorchymyn yr Arglwydd sydd bur, yn goleuo y llygaid. 9 Ofn yr Arglwydd sydd lân, yn parhau yn dragywydd; barnau yr Arglwydd ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gyd. 10 Mwy dymunol ŷnt nag aur, ie, nag aur coeth lawer: melysach hefyd na’r mêl, ac na diferiad diliau mêl. 11 Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir dy was: o’u cadw y mae gwobr lawer. 12 Pwy a ddeall ei gamweddau? glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig. 13 Atal hefyd dy was oddi wrth bechodau rhyfygus: na arglwyddiaethont arnaf: yna y’m perffeithir, ac y’m glanheir oddi wrth anwiredd lawer. 14 Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymeradwy ger dy fron, O Arglwydd, fy nghraig a’m prynwr.
24 Y dyn swrth a gudd ei law yn ei fynwes, ac ni estyn hi at ei enau. 25 Taro watwarwr, a’r ehud fydd gyfrwysach: a phan geryddych y deallus, efe a ddeall wybodaeth. 26 Mab gwaradwyddus gwarthus a anrheithia ei dad ac a yrr ei fam ar grwydr. 27 Fy mab, paid â gwrando yr addysg a bair i ti gyfeiliorni oddi wrth eiriau gwybodaeth. 28 Tyst y fall a watwar farn: a genau y drygionus a lwnc anwiredd. 29 Barn sydd barod i’r gwatwarwyr, a chleisiau i gefn y ffyliaid.
17 Felly ffydd hefyd, oni bydd ganddi weithredoedd, marw ydyw, a hi yn unig. 18 Eithr rhyw un a ddywed, Tydi ffydd sydd gennyt, minnau gweithredoedd sydd gennyf: dangos i mi dy ffydd di heb dy weithredoedd, a minnau wrth fy ngweithredoedd i a ddangosaf i ti fy ffydd innau. 19 Credu yr wyt ti mai un Duw sydd; da yr wyt ti yn gwneuthur: y mae’r cythreuliaid hefyd yn credu, ac yn crynu. 20 Eithr a fynni di wybod, O ddyn ofer, am ffydd heb weithredoedd, mai marw yw? 21 Abraham ein tad ni, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan offrymodd efe Isaac ei fab ar yr allor? 22 Ti a weli fod ffydd yn cydweithio â’i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd fod ffydd wedi ei pherffeithio. 23 A chyflawnwyd yr ysgrythur yr hon sydd yn dywedyd, Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder: a Chyfaill Duw y galwyd ef. 24 Chwi a welwch gan hynny mai o weithredoedd y cyfiawnheir dyn, ac nid o ffydd yn unig. 25 Yr un ffunud hefyd, Rahab y butain, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi, pan dderbyniodd hi’r cenhadau, a’u danfon ymaith ffordd arall? 26 Canys megis y mae’r corff heb yr ysbryd yn farw, felly hefyd ffydd heb weithredoedd, marw yw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.