Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Asaff.
73 Yn ddiau da yw Duw i Israel; sef i’r rhai glân o galon. 2 Minnau, braidd na lithrodd fy nhraed: prin na thripiodd fy ngherddediad. 3 Canys cenfigennais wrth y rhai ynfyd, pan welais lwyddiant y rhai annuwiol. 4 Canys nid oes rhwymau yn eu marwolaeth; a’u cryfder sydd heini. 5 Nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill; ac ni ddialeddir arnynt hwy gyda dynion eraill. 6 Am hynny y cadwynodd balchder hwynt, ac y gwisg trawster amdanynt fel dilledyn. 7 Eu llygaid a saif allan gan fraster: aethant dros feddwl calon o gyfoeth. 8 Y maent wedi llygru, yn chwedleua yn ddrygionus am drawster; yn dywedyd yn uchel. 9 Gosodasant eu genau yn erbyn y nefoedd: a’u tafod a gerdd trwy y ddaear. 10 Am hynny y dychwel ei bobl ef yma; ac y gwesgir iddynt ddwfr ffiol lawn. 11 Dywedant hefyd, Pa fodd y gŵyr Duw? a oes gwybodaeth gan y Goruchaf? 12 Wele, dyma y rhai annuwiol, a’r rhai sydd lwyddiannus yn y byd, ac a amlhasant olud. 13 Diau mai yn ofer y glanheais fy nghalon, ac y golchais fy nwylo mewn diniweidrwydd. 14 Canys ar hyd y dydd y’m maeddwyd; fy ngherydd a ddeuai bob bore. 15 Os dywedwn, Mynegaf fel hyn; wele, â chenhedlaeth dy blant di y gwnawn gam. 16 Pan amcenais wybod hyn, blin oedd hynny yn fy ngolwg i; 17 Hyd onid euthum i gysegr Duw: yna y deellais eu diwedd hwynt. 18 Diau osod ohonot hwynt mewn llithrigfa, a chwympo ohonot hwynt i ddinistr. 19 Mor ddisymwth yr aethant yn anghyfannedd! pallasant, a darfuant gan ofn. 20 Fel breuddwyd wrth ddihuno un; felly, O Arglwydd, pan ddeffroech, y dirmygi eu gwedd hwynt.
11 Cloriannau anghywir sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond carreg uniawn sydd fodlon ganddo ef. 2 Pan ddêl balchder, fe ddaw gwarth: ond gyda’r gostyngedig y mae doethineb. 3 Perffeithrwydd yr uniawn a’u tywys hwynt: ond trawsedd yr anffyddloniaid a’u difetha hwynt. 4 Ni thycia cyfoeth yn nydd digofaint: ond cyfiawnder a wared rhag angau. 5 Cyfiawnder y perffaith a’i hyfforddia ef: ond o achos ei ddrygioni y syrth y drygionus. 6 Cyfiawnder y cyfiawn a’u gwared hwynt: ond troseddwyr a ddelir yn eu drygioni. 7 Pan fyddo marw dyn drygionus, fe a ddarfu am ei obaith ef: a gobaith y traws a gyfrgollir. 8 Y cyfiawn a waredir o gyfyngder, a’r drygionus a ddaw yn ei le ef. 9 Rhagrithiwr â’i enau a lygra ei gymydog: ond y cyfiawn a waredir trwy wybodaeth. 10 Yr holl ddinas a ymlawenha oherwydd llwyddiant y cyfiawn: a phan gyfrgoller y drygionus, y bydd gorfoledd. 11 Trwy fendith y cyfiawn y dyrchefir y ddinas: ond trwy enau y drygionus y dinistrir hi. 12 Y neb sydd ddisynnwyr a ddiystyra ei gymydog; ond y synhwyrol a dau â sôn. 13 Yr hwn a rodia yn athrodwr, a ddatguddia gyfrinach: ond y ffyddlon ei galon a gela y peth. 14 Lle ni byddo cyngor, y bobl a syrthiant: ond lle y byddo llawer o gynghorwyr, y bydd diogelwch. 15 Blinder mawr a gaiff y neb a fachnïo dros ddieithrddyn: ond y neb a gasao fachnïaeth, fydd ddiogel. 16 Gwraig rasol a gaiff anrhydedd; a’r galluog a gânt gyfoeth. 17 Gŵr trugarog sydd dda wrth ei enaid ei hun: ond y creulon a flina ei gnawd ei hun. 18 Y drygionus a wna waith twyllodrus: ond i’r neb a heuo gyfiawnder, y bydd gwobr sicr. 19 Fel yr arwain cyfiawnder i fywyd: felly dilyn drygioni a dywys i angau. 20 Ffiaidd gan yr Arglwydd y neb sydd gyndyn eu calonnau: eithr hoff ganddo ef y rhai sydd berffaith yn eu ffyrdd. 21 Er maint fyddo cymorth, y drygionus ni bydd ddieuog: ond had y cyfiawn a waredir. 22 Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch, yw benyw lân heb synnwyr. 23 Deisyfiad y cyfiawn sydd ar ddaioni yn unig: ond gobaith y drygionus sydd ddicter. 24 Rhyw un a wasgar ei dda, ac efe a chwanegir iddo: a rhyw un arall a arbed mwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi. 25 Yr enaid hael a fraseir: a’r neb a ddyfrhao, a ddyfrheir yntau hefyd. 26 Y neb a atalio ei ŷd, y bobl a’i melltithia: ond bendith a fydd ar ben y neb a’i gwertho. 27 Y neb a ddyfal geisio ddaioni, a ennill ewyllys da: ond y neb a geisio ddrwg, iddo ei hun y daw. 28 Y neb a roddo ei oglyd ar ei gyfoeth, a syrth: ond y cyfiawn a flodeuant megis cangen. 29 Y neb a flino ei dŷ ei hun, a berchenoga y gwynt: a’r ffôl a fydd gwas i’r synhwyrol ei galon. 30 Ffrwyth y cyfiawn sydd megis pren y bywyd: a’r neb a enillo eneidiau, sydd ddoeth. 31 Wele, telir i’r cyfiawn ar y ddaear: pa faint mwy i’r drygionus a’r pechadur?
3 Ystyriwch am hynny yr hwn a ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid; fel na flinoch, ac nad ymollyngoch yn eich eneidiau. 4 Ni wrthwynebasoch eto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod. 5 A chwi a ollyngasoch dros gof y cyngor, yr hwn sydd yn dywedyd wrthych megis wrth blant, Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan y’th argyhoedder ganddo: 6 Canys y neb y mae’r Arglwydd yn ei garu, y mae’n ei geryddu; ac yn fflangellu pob mab a dderbynio. 7 Os goddefwch gerydd, y mae Duw yn ymddwyn tuag atoch megis tuag at feibion: canys pa fab sydd, yr hwn nid yw ei dad yn ei geryddu? 8 Eithr os heb gerydd yr ydych, o’r hwn y mae pawb yn gyfrannog; yna bastardiaid ydych, ac nid meibion. 9 Heblaw hynny, ni a gawsom dadau ein cnawd i’n ceryddu, ac a’u parchasom hwy: onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i Dad yr ysbrydoedd, a byw? 10 Canys hwynt‐hwy yn wir dros ychydig ddyddiau a’n ceryddent fel y gwelent hwy yn dda; eithr hwn er llesâd i ni, fel y byddem gyfranogion o’i sancteiddrwydd ef. 11 Eto ni welir un cerydd dros yr amser presennol yn hyfryd, eithr yn anhyfryd: ond gwedi hynny y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder i’r rhai sydd wedi eu cynefino ag ef. 12 Oherwydd paham cyfodwch i fyny’r dwylo a laesasant, a’r gliniau a ymollyngasant. 13 A gwnewch lwybrau union i’ch traed; fel na throer y cloff allan o’r ffordd, ond yr iachaer efe yn hytrach.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.