Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Diarhebion 22:1-2

22 Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer; a gwell yw ffafr dda nag arian, ac nag aur. Y tlawd a’r cyfoethog a gydgyfarfyddant: yr Arglwydd yw gwneuthurwr y rhai hyn oll.

Diarhebion 22:8-9

Y neb a heuo anwiredd a fed flinder; a gwialen ei ddigofaint ef a balla. Yr hael ei lygad a fendithir: canys efe a rydd o’i fara i’r tlawd.

Diarhebion 22:22-23

22 Nac ysbeilia mo’r tlawd, oherwydd ei fod yn dlawd: ac na orthryma y cystuddiol yn y porth. 23 Canys yr Arglwydd a ddadlau eu dadl hwynt, ac a orthryma enaid y neb a’u gorthrymo hwynt.

Salmau 125

Caniad y graddau.

125 Y rhai a ymddiriedant yn yr Arglwydd, fyddant fel mynydd Seion, yr hwn ni syflir, ond a bery yn dragywydd. Fel y mae Jerwsalem a’r mynyddoedd o’i hamgylch, felly y mae yr Arglwydd o amgylch ei bobl, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd. Canys ni orffwys gwialen annuwioldeb ar randir y rhai cyfiawn; rhag i’r rhai cyfiawn estyn eu dwylo at anwiredd. O Arglwydd, gwna ddaioni i’r rhai daionus, ac i’r rhai uniawn yn eu calonnau. Ond y rhai a ymdroant i’w trofeydd, yr Arglwydd a’u gyr gyda gweithredwyr anwiredd: a bydd tangnefedd ar Israel.

Iago 2:1-10

Fy mrodyr, na fydded gennych ffydd ein Harglwydd ni Iesu Grist, sef Arglwydd y gogoniant, gyda derbyn wyneb. Oblegid os daw i mewn i’ch cynulleidfa chwi ŵr â modrwy aur, mewn dillad gwychion, a dyfod hefyd un tlawd mewn dillad gwael; Ac edrych ohonoch ar yr hwn sydd yn gwisgo’r dillad gwychion, a dywedyd wrtho, Eistedd di yma mewn lle da; a dywedyd wrth y tlawd, Saf di yna, neu eistedd yma islaw fy ystôl droed i: Onid ydych chwi dueddol ynoch eich hunain? ac onid aethoch yn farnwyr meddyliau drwg? Gwrandewch, fy mrodyr annwyl; Oni ddewisodd Duw dlodion y byd hwn yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas yr hon a addawodd efe i’r rhai sydd yn ei garu ef? Eithr chwithau a amharchasoch y tlawd. Onid yw’r cyfoethogion yn eich gorthrymu chwi, ac yn eich tynnu gerbron brawdleoedd? Onid ydynt hwy’n cablu’r enw rhagorol, yr hwn a elwir arnoch chwi? Os cyflawni yr ydych y gyfraith frenhinol yn ôl yr ysgrythur, Câr dy gymydog fel ti dy hun; da yr ydych yn gwneuthur: Eithr os derbyn wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod, ac yn cael eich argyhoeddi gan y gyfraith megis troseddwyr. 10 Canys pwy bynnag a gadwo’r gyfraith i gyd oll, ac a ballo mewn un pwnc, y mae efe yn euog o’r cwbl.

Iago 2:11-13

11 Canys y neb a ddywedodd, Na odineba, a ddywedodd hefyd, Na ladd. Ac os ti ni odinebi, eto a leddi, yr wyt ti yn troseddu’r gyfraith. 12 Felly dywedwch, ac felly gwnewch, megis rhai a fernir wrth gyfraith rhyddid. 13 Canys barn ddidrugaredd fydd i’r hwn ni wnaeth drugaredd; ac y mae trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn.

Iago 2:14-17

14 Pa fudd yw, fy mrodyr, o dywed neb fod ganddo ffydd, ac heb fod ganddo weithredoedd? a ddichon ffydd ei gadw ef? 15 Eithr os bydd brawd neu chwaer yn noeth, ac mewn eisiau beunyddiol ymborth, 16 A dywedyd o un ohonoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch, ac ymddigonwch; eto heb roddi iddynt angenrheidiau’r corff; pa les fydd? 17 Felly ffydd hefyd, oni bydd ganddi weithredoedd, marw ydyw, a hi yn unig.

Marc 7:24-37

24 Ac efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i gyffiniau Tyrus a Sidon; ac a aeth i mewn i dŷ, ac ni fynasai i neb wybod: eithr ni allai efe fod yn guddiedig. 25 Canys pan glybu gwraig, yr hon yr oedd ei merch fechan ag ysbryd aflan ynddi, sôn amdano, hi a ddaeth ac a syrthiodd wrth ei draed ef: 26 (A Groeges oedd y wraig, Syroffeniciad o genedl.) A hi a atolygodd iddo fwrw’r cythraul allan o’i merch. 27 A’r Iesu a ddywedodd wrthi, Gad yn gyntaf i’r plant gael eu digoni: canys nid cymwys yw cymryd bara’r plant, a’i daflu i’r cenawon cŵn. 28 Hithau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Gwir, O Arglwydd: ac eto y mae’r cenawon dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant. 29 Ac efe a ddywedodd wrthi, Am y gair hwnnw dos ymaith: aeth y cythraul allan o’th ferch. 30 Ac wedi iddi fyned i’w thŷ, hi a gafodd fyned o’r cythraul allan, a’i merch wedi ei bwrw ar y gwely. 31 Ac efe a aeth drachefn ymaith o dueddau Tyrus a Sidon, ac a ddaeth hyd fôr Galilea, trwy ganol terfynau Decapolis. 32 A hwy a ddygasant ato un byddar, ag atal dywedyd arno; ac a atolygasant iddo ddodi ei law arno ef. 33 Ac wedi iddo ei gymryd ef o’r neilltu allan o’r dyrfa, efe a estynnodd ei fysedd yn ei glustiau ef; ac wedi iddo boeri, efe a gyffyrddodd â’i dafod ef; 34 A chan edrych tua’r nef, efe a ochneidiodd, ac a ddywedodd wrtho, Effatha, hynny yw, Ymagor. 35 Ac yn ebrwydd ei glustiau ef a agorwyd, a rhwym ei dafod a ddatodwyd; ac efe a lefarodd yn eglur. 36 Ac efe a waharddodd iddynt ddywedyd i neb: ond po mwyaf y gwaharddodd efe iddynt, mwy o lawer y cyhoeddasant. 37 A synnu a wnaethant yn anfeidrol, gan ddywedyd, Da y gwnaeth efe bob peth: y mae efe yn gwneuthur i’r byddariaid glywed, ac i’r mudion ddywedyd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.