Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Caniad y graddau.
125 Y rhai a ymddiriedant yn yr Arglwydd, fyddant fel mynydd Seion, yr hwn ni syflir, ond a bery yn dragywydd. 2 Fel y mae Jerwsalem a’r mynyddoedd o’i hamgylch, felly y mae yr Arglwydd o amgylch ei bobl, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd. 3 Canys ni orffwys gwialen annuwioldeb ar randir y rhai cyfiawn; rhag i’r rhai cyfiawn estyn eu dwylo at anwiredd. 4 O Arglwydd, gwna ddaioni i’r rhai daionus, ac i’r rhai uniawn yn eu calonnau. 5 Ond y rhai a ymdroant i’w trofeydd, yr Arglwydd a’u gyr gyda gweithredwyr anwiredd: a bydd tangnefedd ar Israel.
8 Onid yw doethineb yn gweiddi? a deall yn llefain? 2 Ym mhen lleoedd uchel, gerllaw y ffordd, lle mae llwybrau lawer, y mae hi yn sefyll. 3 Gerllaw y pyrth, ym mhen y dref, yn ymyl y drysau, y mae hi yn llefain: 4 Arnoch chwi, wŷr, yr wyf fi yn galw; ac at feibion dynion y mae fy llais. 5 Ha ynfydion, deellwch gyfrwyster; a chwi wŷr angall, byddwch o galon ddeallus. 6 Gwrandewch: canys myfi a draethaf i chwi bethau ardderchog; ac a agoraf fy ngwefusau ar bethau uniawn. 7 Canys fy ngenau a draetha wirionedd; a ffiaidd gan fy ngwefusau ddrygioni. 8 Holl eiriau fy ngenau ydynt gyfiawn; nid oes ynddynt na gŵyrni na thrawsedd. 9 Y maent hwy oll yn amlwg i’r neb a ddeallo, ac yn uniawn i’r rhai a gafodd wybodaeth. 10 Derbyniwch fy addysg, ac nid arian; a gwybodaeth o flaen aur etholedig. 11 Canys gwell yw doethineb na gemau: nid oes dim dymunol cyffelyb iddi. 12 Myfi doethineb wyf yn trigo gyda challineb: yr ydwyf yn cael allan wybodaeth cyngor. 13 Ofn yr Arglwydd yw casáu drygioni: balchder, ac uchder, a ffordd ddrygionus, a’r genau traws, sydd gas gennyf fi. 14 Mi biau cyngor, a gwir ddoethineb: deall ydwyf fi; mi biau nerth. 15 Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd, ac y barna’r penaethiaid gyfiawnder. 16 Trwof fi y rheola tywysogion a phendefigion, sef holl farnwyr y ddaear. 17 Y sawl a’m carant i, a garaf finnau; a’r sawl a’m ceisiant yn fore, a’m cânt. 18 Gyda myfi y mae cyfoeth, ac anrhydedd, golud parhaus, a chyfiawnder. 19 Gwell yw fy ffrwyth i nag aur, ie, nag aur coeth; a’m cynnyrch sydd well na’r arian detholedig. 20 Ar hyd ffordd cyfiawnder yr arweiniaf, ar hyd canol llwybrau barn: 21 I beri i’r rhai a’m carant etifeddu sylwedd: a mi a lanwaf eu trysorau. 22 Yr Arglwydd a’m meddiannodd i yn nechreuad ei ffordd, cyn ei weithredoedd erioed. 23 Er tragwyddoldeb y’m heneiniwyd, er y dechreuad, cyn bod y ddaear. 24 Pryd nad oedd dyfnder y’m cenhedlwyd, cyn bod ffynhonnau yn llawn o ddyfroedd. 25 Cyn sylfaenu y mynyddoedd, o flaen y bryniau y’m cenhedlwyd: 26 Cyn gwneuthur ohono ef y ddaear, na’r meysydd, nac uchder llwch y byd. 27 Pan baratôdd efe y nefoedd, yr oeddwn i yno: pan osododd efe gylch ar wyneb y dyfnder: 28 Pan gadarnhaodd efe y cymylau uwchben: a phan nerthodd efe ffynhonnau y dyfnder: 29 Pan roddes efe ei ddeddf i’r môr, ac i’r dyfroedd, na thorrent ei orchymyn ef: pan osododd efe sylfeini y ddaear: 30 Yna yr oeddwn i gydag ef megis un wedi ei feithrin gydag ef: ac yr oeddwn yn hyfrydwch iddo beunydd, yn ymlawenhau ger ei fron ef bob amser; 31 Ac yn llawenychu yng nghyfanheddle ei ddaear ef; a’m hyfrydwch oedd gyda meibion dynion.
21 A’r Iesu a aeth oddi yno, ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon. 22 Ac wele, gwraig o Ganaan a ddaeth o’r parthau hynny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, Trugarha wrthyf, O Arglwydd, Fab Dafydd: y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythraul. 23 Eithr nid atebodd efe iddi un gair. A daeth ei ddisgyblion ato, ac a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith; canys y mae hi yn llefain ar ein hôl. 24 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Ni’m danfonwyd i ond at ddefaid colledig tŷ Israel. 25 Ond hi a ddaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, cymorth fi. 26 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Nid da cymryd bara’r plant, a’i fwrw i’r cŵn. 27 Hithau a ddywedodd, Gwir yw, Arglwydd: canys y mae’r cŵn yn bwyta o’r briwsion sydd yn syrthio oddi ar fwrdd eu harglwyddi. 28 Yna yr atebodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A’i merch a iachawyd o’r awr honno allan.
29 A’r Iesu a aeth oddi yno, ac a ddaeth gerllaw môr Galilea; ac a esgynnodd i’r mynydd, ac a eisteddodd yno. 30 A daeth ato dorfeydd lawer, a chanddynt gyda hwynt gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac eraill lawer: a hwy a’u bwriasant i lawr wrth draed yr Iesu, ac efe a’u hiachaodd hwynt: 31 Fel y rhyfeddodd y torfeydd, wrth weled y mudion yn llefaru, y rhai anafus yn iach, y cloffion yn rhodio, a’r deillion yn gweled: a hwy a ogoneddasant Dduw Israel.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.