Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Caniad y graddau.
125 Y rhai a ymddiriedant yn yr Arglwydd, fyddant fel mynydd Seion, yr hwn ni syflir, ond a bery yn dragywydd. 2 Fel y mae Jerwsalem a’r mynyddoedd o’i hamgylch, felly y mae yr Arglwydd o amgylch ei bobl, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd. 3 Canys ni orffwys gwialen annuwioldeb ar randir y rhai cyfiawn; rhag i’r rhai cyfiawn estyn eu dwylo at anwiredd. 4 O Arglwydd, gwna ddaioni i’r rhai daionus, ac i’r rhai uniawn yn eu calonnau. 5 Ond y rhai a ymdroant i’w trofeydd, yr Arglwydd a’u gyr gyda gweithredwyr anwiredd: a bydd tangnefedd ar Israel.
10 Gwrando, fy mab, a derbyn fy ngeiriau; a blynyddoedd dy fywyd a amlheir. 11 Yr ydwyf yn dy ddysgu yn ffordd doethineb; ac yn dy dywys yn llwybrau uniondeb. 12 Pan rodiech, dy gerddediad ni bydd gyfyng; a phan redech, ni thramgwyddi. 13 Ymafael mewn addysg, ac na ollwng hi: cadw hi; canys dy fywyd di yw hi.
14 Na ddos i lwybr yr annuwiolion, ac na rodia ar hyd ffordd y drygionus. 15 Gochel hi, na ddos ar hyd‐ddi; cilia oddi wrthi hi, a dos heibio. 16 Canys ni chysgant nes gwneuthur drwg; a’u cwsg a gollant, nes iddynt gwympo rhyw ddyn. 17 Canys y maent yn bwyta bara annuwioldeb, ac yn yfed gwin trais. 18 Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd. 19 Eithr ffordd y drygionus sydd fel y tywyllwch: ni wyddant wrth ba beth y tramgwyddant.
20 Fy mab, gwrando ar fy ngeiriau: gogwydda dy glust at fy ymadroddion. 21 Na ad iddynt fyned ymaith o’th olwg: cadw hwynt yng nghanol dy galon. 22 Canys bywyd ydynt i’r neb a’u caffont, ac iechyd i’w holl gnawd.
23 Cadw dy galon yn dra diesgeulus; canys allan ohoni y mae bywyd yn dyfod. 24 Bwrw oddi wrthyt enau taeogaidd, a gwefusau trofaus ymhell oddi wrthyt. 25 Edryched dy lygaid yn uniawn; ac edryched dy amrantau yn uniawn o’th flaen. 26 Ystyria lwybr dy draed: a threfner dy holl ffyrdd yn uniawn. 27 Na thro ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; symud dy droed oddi wrth ddrygioni.
12 Oblegid cynifer ag a bechasant yn ddi‐ddeddf, a gyfrgollir hefyd yn ddi‐ddeddf; a chynifer ag a bechasant yn y ddeddf, a fernir wrth y ddeddf; 13 (Canys nid gwrandawyr y ddeddf sydd gyfiawn gerbron Duw, ond gwneuthurwyr y ddeddf a gyfiawnheir. 14 Canys pan yw’r Cenhedloedd y rhai nid yw’r ddeddf ganddynt, wrth naturiaeth yn gwneuthur y pethau sydd yn y ddeddf, y rhai hyn heb fod y ddeddf ganddynt, ydynt ddeddf iddynt eu hunain: 15 Y rhai sydd yn dangos gweithred y ddeddf yn ysgrifenedig yn eu calonnau, a’u cydwybod yn cyd‐dystiolaethu, a’u meddyliau yn cyhuddo ei gilydd, neu yn esgusodi;) 16 Yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion, yn ôl fy efengyl i, trwy Iesu Grist.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.