Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Caniad y graddau.
125 Y rhai a ymddiriedant yn yr Arglwydd, fyddant fel mynydd Seion, yr hwn ni syflir, ond a bery yn dragywydd. 2 Fel y mae Jerwsalem a’r mynyddoedd o’i hamgylch, felly y mae yr Arglwydd o amgylch ei bobl, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd. 3 Canys ni orffwys gwialen annuwioldeb ar randir y rhai cyfiawn; rhag i’r rhai cyfiawn estyn eu dwylo at anwiredd. 4 O Arglwydd, gwna ddaioni i’r rhai daionus, ac i’r rhai uniawn yn eu calonnau. 5 Ond y rhai a ymdroant i’w trofeydd, yr Arglwydd a’u gyr gyda gweithredwyr anwiredd: a bydd tangnefedd ar Israel.
1 Diarhebion Solomon mab Dafydd, brenin Israel; 2 I wybod doethineb ac addysg, i ddeall geiriau synnwyr; 3 I gymryd athrawiaeth deall, cyfiawnder, a barn, ac uniondeb; 4 I roi callineb i’r angall, ac i’r bachgen wybodaeth a synnwyr. 5 Y doeth a wrendy, ac a chwanega addysg; a’r deallgar a ddaw i gynghorion pwyllog: 6 I ddeall dihareb, a’i deongl; geiriau y doethion, a’u damhegion.
7 Ofn yr Arglwydd yw dechreuad gwybodaeth: ond ffyliaid a ddiystyrant ddoethineb ac addysg. 8 Fy mab, gwrando addysg dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam: 9 Canys cynnydd gras a fyddant hwy i’th ben, a chadwyni am dy wddf di.
10 Fy mab, os pechaduriaid a’th ddenant, na chytuna. 11 Os dywedant, Tyred gyda ni, cynllwynwn am waed, ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos: 12 Llyncwn hwy yn fyw, fel y bedd; ac yn gyfan, fel rhai yn disgyn i’r pydew: 13 Nyni a gawn bob cyfoeth gwerthfawr, nyni a lanwn ein tai ag ysbail: 14 Bwrw dy goelbren yn ein mysg; bydded un pwrs i ni i gyd: 15 Fy mab, na rodia yn y ffordd gyda hwynt; atal dy droed rhag eu llwybr hwy. 16 Canys eu traed a redant i ddrygioni, ac a brysurant i dywallt gwaed. 17 Diau gwaith ofer yw taenu rhwyd yng ngolwg pob perchen adain. 18 Ac y maent hwy yn cynllwyn am eu gwaed eu hun: am eu heinioes eu hun y maent yn llechu. 19 Felly y mae llwybrau y rhai oll sydd chwannog i elw; yr hwn a ddwg einioes ei berchenogion.
2 Oherwydd paham, diesgus wyt ti, O ddyn, pwy bynnag wyt yn barnu: canys yn yr hyn yr wyt yn barnu arall, yr wyt yn dy gondemnio dy hun: canys ti yr hwn wyt yn barnu, wyt yn gwneuthur yr un pethau. 2 Eithr ni a wyddom fod barn Duw yn ôl gwirionedd, yn erbyn y rhai a wnânt gyfryw bethau. 3 Ac a wyt ti’n tybied hyn, O ddyn, yr hwn wyt yn barnu’r rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau, a thithau yn gwneuthur yr un pethau, y dihengi di rhag barn Duw? 4 Neu a wyt ti’n diystyru golud ei ddaioni ef, a’i ddioddefgarwch, a’i ymaros, heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch? 5 Eithr yn ôl dy galedrwydd, a’th galon ddiedifeiriol, wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint erbyn dydd y digofaint, a datguddiad cyfiawn farn Duw, 6 Yr hwn a dâl i bob un yn ôl ei weithredoedd: 7 Sef i’r rhai trwy barhau yn gwneuthur da, a geisiant ogoniant, ac anrhydedd, ac anllygredigaeth, bywyd tragwyddol: 8 Eithr i’r rhai sydd gynhennus, ac anufudd i’r gwirionedd, eithr yn ufudd i anghyfiawnder, y bydd llid a digofaint; 9 Trallod ac ing ar bob enaid dyn sydd yn gwneuthur drwg; yr Iddew yn gyntaf, a’r Groegwr hefyd: 10 Eithr gogoniant, ac anrhydedd, a thangnefedd, i bob un sydd yn gwneuthur daioni; i’r Iddew yn gyntaf, ac i’r Groegwr hefyd. 11 Canys nid oes derbyn wyneb gerbron Duw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.