Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 144:9-15

Canaf i ti, O Dduw, ganiad newydd: ar y nabl a’r dectant y canaf i ti. 10 Efe sydd yn rhoddi iachawdwriaeth i frenhinoedd; yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei was oddi wrth y cleddyf niweidiol. 11 Achub fi, a gwared fi o law meibion estron, y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster: 12 Fel y byddo ein meibion fel planwydd yn tyfu yn eu hieuenctid; a’n merched fel conglfaen nadd, wrth gyffelybrwydd palas: 13 Fel y byddo ein celloedd yn llawn, yn trefnu pob rhyw luniaeth; a’n defaid yn dwyn miloedd a myrddiwn yn ein heolydd: 14 A’n hychen yn gryfion i lafurio; heb na rhuthro i mewn, na myned allan; na gwaedd yn ein heolydd. 15 Gwyn eu byd y bobl y mae felly iddynt: gwyn eu byd y bobl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddynt.

Caniad Solomon 8:5-7

Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o’r anialwch, ac yn pwyso ar ei hanwylyd? Dan yr afallen y’th gyfodais: yno y’th esgorodd dy fam; yno y’th esgorodd yr hon a’th ymddûg.

Gosod fi megis sêl ar dy galon, fel sêl ar dy fraich: canys cariad sydd gryf fel angau; eiddigedd sydd greulon fel y bedd: ei farwor sydd farwor tanllyd, a fflam angerddol iddynt. Dyfroedd lawer ni allant ddiffoddi cariad, ac afonydd nis boddant: pe rhoddai ŵr holl gyfoeth ei dŷ am gariad, gan ddirmygu y dirmygid hynny.

Marc 7:9-23

Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwych yr ydych yn rhoi heibio orchymyn Duw, fel y cadwoch eich traddodiad eich hunain. 10 Canys Moses a ddywedodd, Anrhydedda dy dad a’th fam: a’r hwn a felltithio dad neu fam, bydded farw’r farwolaeth. 11 Ac meddwch chwithau, Os dywed dyn wrth ei dad neu ei fam, Corban, hynny yw, Rhodd, trwy ba beth bynnag y ceit les oddi wrthyf fi; difai fydd. 12 Ac nid ydych mwyach yn gadael iddo wneuthur dim i’w dad neu i’w fam; 13 Gan ddirymu gair Duw â’ch traddodiad eich hunain, yr hwn a draddodasoch chwi: a llawer o gyffelyb bethau â hynny yr ydych yn eu gwneuthur.

14 A chwedi galw ato yr holl dyrfa, efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch chwi oll arnaf, a deellwch. 15 Nid oes dim allan o ddyn yn myned i mewn iddo, a ddichon ei halogi ef: eithr y pethau sydd yn dyfod allan ohono, y rhai hynny yw’r pethau sydd yn halogi dyn. 16 Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed. 17 A phan ddaeth efe i mewn i’r tŷ oddi wrth y bobl, ei ddisgyblion a ofynasant iddo am y ddameg. 18 Yntau a ddywedodd wrthynt, Ydych chwithau hefyd mor ddiddeall? Oni wyddoch am bob peth oddi allan a êl i mewn i ddyn, na all hynny ei halogi ef? 19 Oblegid nid yw yn myned i’w galon ef, ond i’r bol; ac yn myned allan i’r geudy, gan garthu’r holl fwydydd? 20 Ac efe a ddywedodd, Yr hyn sydd yn dyfod allan o ddyn, hynny sydd yn halogi dyn. 21 Canys oddi mewn, allan o galon dynion, y daw drwg feddyliau, torpriodasau, puteindra, llofruddiaeth, 22 Lladradau, cybydd‐dod, drygioni, twyll, anlladrwydd, drwg lygad, cabledd, balchder, ynfydrwydd: 23 Yr holl ddrwg bethau hyn sydd yn dyfod oddi mewn, ac yn halogi dyn.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.