Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
9 Canaf i ti, O Dduw, ganiad newydd: ar y nabl a’r dectant y canaf i ti. 10 Efe sydd yn rhoddi iachawdwriaeth i frenhinoedd; yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei was oddi wrth y cleddyf niweidiol. 11 Achub fi, a gwared fi o law meibion estron, y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster: 12 Fel y byddo ein meibion fel planwydd yn tyfu yn eu hieuenctid; a’n merched fel conglfaen nadd, wrth gyffelybrwydd palas: 13 Fel y byddo ein celloedd yn llawn, yn trefnu pob rhyw luniaeth; a’n defaid yn dwyn miloedd a myrddiwn yn ein heolydd: 14 A’n hychen yn gryfion i lafurio; heb na rhuthro i mewn, na myned allan; na gwaedd yn ein heolydd. 15 Gwyn eu byd y bobl y mae felly iddynt: gwyn eu byd y bobl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddynt.
2 Myfi sydd yn cysgu, a’m calon yn neffro: llais fy anwylyd yw yn curo, gan ddywedyd, Fy chwaer, fy anwylyd, fy ngholomen, fy nihalog, agor i mi: canys llanwyd fy mhen â gwlith, a’m gwallt â defnynnau y nos. 3 Diosgais fy mhais; pa fodd y gwisgaf hi? golchais fy nhraed; pa fodd y diwynaf hwynt? 4 Fy anwylyd a estynnodd ei law trwy y twll; a’m hymysgaroedd a gyffrôdd er ei fwyn. 5 Mi a gyfodais i agori i’m hanwylyd; a’m dwylo a ddiferasant gan fyrr, a’m bysedd gan fyrr yn diferu ar hyd hesbennau y clo. 6 Agorais i’m hanwylyd; ond fy anwylyd a giliasai, ac a aethai ymaith: fy enaid a lewygodd pan lefarodd: ceisiais, ac nis cefais; gelwais ef, ond ni’m hatebodd. 7 Y gwylwyr y rhai a aent o amgylch y ddinas, a’m cawsant, a’m trawsant, a’m harchollasant: gwylwyr y caerau a ddygasant fy ngorchudd oddi arnaf. 8 Merched Jerwsalem, gorchmynnaf i chwi, os cewch fy anwylyd, fynegi iddo fy mod yn glaf o gariad.
9 Beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, y decaf o’r gwragedd? beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, pan orchmynni i ni felly? 10 Fy anwylyd sydd wyn a gwridog, yn rhagori ar ddengmil. 11 Ei ben fel aur coeth, ei wallt yn grych, yn ddu fel y frân. 12 Ei lygaid fel llygaid colomennod wrth afonydd dyfroedd, wedi eu golchi â llaeth, wedi eu gosod yn gymwys. 13 Ei ruddiau fel gwely perlysiau, fel blodau peraidd: ei wefusau fel lili yn diferu myrr diferol. 14 Ei ddwylo sydd fel modrwyau aur, wedi eu llenwi o beryl: ei fol fel disglair ifori wedi ei wisgo â saffir. 15 Ei goesau fel colofnau marmor wedi eu gosod ar wadnau o aur coeth: ei wynepryd fel Libanus, mor ddewisol â chedrwydd. 16 Melys odiaeth yw ei enau; ie, y mae efe oll yn hawddgar. Dyma fy anwylyd, dyma fy nghyfaill, O ferched Jerwsalem.
6 I ba le yr aeth dy anwylyd, y decaf o’r gwragedd? i ba le y trodd dy anwylyd? fel y ceisiom ef gyda thi. 2 Fy anwylyd a aeth i waered i’w ardd, i welyau y perlysiau, i ymborth yn y gerddi, ac i gasglu lili. 3 Myfi wyf eiddo fy anwylyd, a’m hanwylyd yn eiddof finnau, yr hwn sydd yn bugeilio ymysg y lili.
19 Canys hyn sydd rasol, os yw neb oherwydd cydwybod i Dduw yn dwyn tristwch, gan ddioddef ar gam. 20 Oblegid pa glod yw, os, pan bechoch, a chael eich cernodio, y byddwch dda eich amynedd? eithr os, a chwi’n gwneuthur yn dda, ac yn dioddef, y byddwch dda eich amynedd, hyn sydd rasol gerbron Duw. 21 Canys i hyn y’ch galwyd hefyd: oblegid Crist yntau a ddioddefodd drosom ni, gan adael i ni esampl, fel y canlynech ei ôl ef: 22 Yr hwn ni wnaeth bechod, ac ni chaed twyll yn ei enau: 23 Yr hwn, pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn; pan ddioddefodd, ni fygythiodd; eithr rhoddodd ar y neb sydd yn barnu yn gyfiawn: 24 Yr hwn ei hun a ddug ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren; fel, gwedi ein marw i bechodau, y byddem byw i gyfiawnder: trwy gleisiau yr hwn yr iachawyd chwi. 25 Canys yr oeddech megis defaid yn myned ar gyfeiliorn; eithr yn awr chwi a ddychwelwyd at Fugail ac Esgob eich eneidiau.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.