Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 45:1-2

I’r Pencerdd ar Sosannim, i feibion Cora, Maschil, Cân cariadau.

45 Traetha fy nghalon beth da: dywedyd yr ydwyf y pethau a wneuthum i’r brenin: fy nhafod sydd bin ysgrifennydd buan. Tecach ydwyt na meibion dynion: tywalltwyd gras ar dy wefusau: oherwydd hynny y’th fendithiodd Duw yn dragywydd.

Salmau 45:6-9

Dy orsedd di, O Dduw, sydd byth ac yn dragywydd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy frenhiniaeth di. Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni: am hynny y’th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew llawenydd yn fwy na’th gyfeillion. Arogl myrr, aloes, a chasia, sydd ar dy holl wisgoedd: allan o’r palasau ifori, â’r rhai y’th lawenhasant. Merched brenhinoedd oedd ymhlith dy bendefigesau: safai y frenhines ar dy ddeheulaw mewn aur coeth o Offir.

Hosea 3

Yna yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Dos eto, câr wraig, (hoff gan ei chyfaill, a hithau wedi torri ei phriodas,) yn ôl cariad yr Arglwydd ar feibion Israel, a hwythau yn edrych ar ôl duwiau dieithr, ac yn hoffi costrelau gwin. A mi a’i prynais hi i mi er pymtheg o arian, ac er homer o haidd, a hanner homer o haidd: A dywedais wrthi, Aros amdanaf lawer o ddyddiau; na phuteinia, ac na fydd i ŵr arall: a minnau a fyddaf felly i tithau. Canys llawer o ddyddiau yr erys meibion Israel heb frenin, a heb dywysog, a heb aberth, a heb ddelw, a heb effod, a heb deraffim. Wedi hynny y dychwel meibion Israel, ac y ceisiant yr Arglwydd eu Duw, a Dafydd eu brenin; ac a barchant yr Arglwydd a’i ddaioni yn y dyddiau diwethaf.

Ioan 18:28-32

28 Yna y dygasant yr Iesu oddi wrth Caiaffas i’r dadleudy: a’r bore ydoedd hi; ac nid aethant hwy i mewn i’r dadleudy, rhag eu halogi; eithr fel y gallent fwyta’r pasg. 29 Yna Peilat a aeth allan atynt, ac a ddywedodd, Pa achwyn yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn? 30 Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Oni bai fod hwn yn ddrwgweithredwr, ni thraddodasem ni ef atat ti. 31 Am hynny y dywedodd Peilat wrthynt, Cymerwch chwi ef, a bernwch ef yn ôl eich cyfraith chwi. Yna yr Iddewon a ddywedasant wrtho, Nid cyfreithlon i ni ladd neb: 32 Fel y cyflawnid gair yr Iesu, yr hwn a ddywedasai efe, gan arwyddocáu o ba angau y byddai farw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.