Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd ar Sosannim, i feibion Cora, Maschil, Cân cariadau.
45 Traetha fy nghalon beth da: dywedyd yr ydwyf y pethau a wneuthum i’r brenin: fy nhafod sydd bin ysgrifennydd buan. 2 Tecach ydwyt na meibion dynion: tywalltwyd gras ar dy wefusau: oherwydd hynny y’th fendithiodd Duw yn dragywydd.
6 Dy orsedd di, O Dduw, sydd byth ac yn dragywydd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy frenhiniaeth di. 7 Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni: am hynny y’th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew llawenydd yn fwy na’th gyfeillion. 8 Arogl myrr, aloes, a chasia, sydd ar dy holl wisgoedd: allan o’r palasau ifori, â’r rhai y’th lawenhasant. 9 Merched brenhinoedd oedd ymhlith dy bendefigesau: safai y frenhines ar dy ddeheulaw mewn aur coeth o Offir.
2 Rhosyn Saron, a lili y dyffrynnoedd, ydwyf fi. 2 Megis lili ymysg y drain, felly y mae fy anwylyd ymysg y merched. 3 Megis pren afalau ymysg prennau y coed, felly y mae fy anwylyd ymhlith y meibion: bu dda gennyf eistedd dan ei gysgod ef, a’i ffrwyth oedd felys i’m genau. 4 Efe a’m dug i’r gwindy, a’i faner drosof ydoedd gariad. 5 Cynheliwch fi â photelau, cysurwch fi ag afalau; canys claf ydwyf fi o gariad. 6 Ei law aswy sydd dan fy mhen, a’i ddeheulaw sydd yn fy nghofleidio. 7 Merched Jerwsalem, tynghedaf chwi trwy iyrchod ac ewigod y maes, na chyffrôch, ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.
9 Y brawd o radd isel, llawenyched yn ei oruchafiaeth: 10 A’r cyfoethog, yn ei ddarostyngiad: canys megis blodeuyn y glaswelltyn y diflanna efe. 11 Canys cyfododd yr haul gyda gwres, a gwywodd y glaswelltyn, a’i flodeuyn a gwympodd, a thegwch ei bryd ef a gollodd: felly hefyd y diflanna’r cyfoethog yn ei ffyrdd. 12 Gwyn ei fyd y gŵr sydd yn goddef profedigaeth: canys pan fyddo profedig, efe a dderbyn goron y bywyd, yr hon a addawodd yr Arglwydd i’r rhai a’i carant ef. 13 Na ddyweded neb, pan demtier ef, Gan Dduw y’m temtir: canys Duw nis gellir ei demtio â drygau, ac nid yw efe yn temtio neb. 14 Canys yna y temtir pob un, pan ei tynner ef, ac y llithier, gan ei chwant ei hun. 15 Yna chwant, wedi ymddŵyn, a esgor ar bechod: pechod hefyd, pan orffenner, a esgor ar farwolaeth. 16 Fy mrodyr annwyl, na chyfeiliornwch.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.