Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd ar Sosannim, i feibion Cora, Maschil, Cân cariadau.
45 Traetha fy nghalon beth da: dywedyd yr ydwyf y pethau a wneuthum i’r brenin: fy nhafod sydd bin ysgrifennydd buan. 2 Tecach ydwyt na meibion dynion: tywalltwyd gras ar dy wefusau: oherwydd hynny y’th fendithiodd Duw yn dragywydd.
6 Dy orsedd di, O Dduw, sydd byth ac yn dragywydd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy frenhiniaeth di. 7 Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni: am hynny y’th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew llawenydd yn fwy na’th gyfeillion. 8 Arogl myrr, aloes, a chasia, sydd ar dy holl wisgoedd: allan o’r palasau ifori, â’r rhai y’th lawenhasant. 9 Merched brenhinoedd oedd ymhlith dy bendefigesau: safai y frenhines ar dy ddeheulaw mewn aur coeth o Offir.
1 Can y caniadau, eiddo Solomon. 2 Cusaned fi â chusanau ei fin: canys gwell yw dy gariad na gwin. 3 Oherwydd arogl dy ennaint daionus, ennaint tywalltedig yw dy enw: am hynny y llancesau a’th garant. 4 Tyn fi, ni a redwn ar dy ôl. Y brenin a’m dug i i’w ystafellau: ni a ymhyfrydwn ac a ymlawenhawn ynot; ni a gofiwn dy gariad yn fwy na gwin: y rhai uniawn sydd yn dy garu. 5 Du ydwyf fi, ond hawddgar, merched Jerwsalem, fel pebyll Cedar, fel llenni Solomon. 6 Nac edrychwch arnaf, am fy mod yn ddu, ac am i’r haul edrych arnaf: meibion fy mam a ddigiasant wrthyf, gosodasant fi i gadw gwinllannoedd eraill; fy ngwinllan fy hun nis cedwais. 7 Mynega i mi, yr hwn a hoffodd fy enaid, pa le yr wyt yn bugeilio, pa le y gwnei iddynt orwedd ganol dydd: canys paham y byddaf megis un yn troi heibio wrth ddiadellau dy gyfeillion?
8 Oni wyddost ti, y decaf o’r gwragedd, dos allan rhagot ar hyd ôl y praidd, a phortha dy fynnod gerllaw pebyll y bugeiliaid. 9 I’r meirch yng ngherbydau Pharo y’th gyffelybais, fy anwylyd. 10 Hardd yw dy ruddiau gan dlysau, a’th wddf gan gadwyni. 11 Tlysau o aur, a boglynnau o arian, a wnawn i ti.
12 Tra yw y brenin ar ei fwrdd, fy nardus i a rydd ei arogl. 13 Fy anwylyd sydd i mi yn bwysi myrr; rhwng fy mronnau yr erys dros nos. 14 Cangen o rawn camffir yw fy anwylyd i mi, yng ngwinllannoedd Engedi. 15 Wele di yn deg, fy anwylyd, wele di yn deg; y mae i ti lygaid colomennod. 16 Wele di, fy anwylyd, yn deg, ac yn hawddgar; ein gwely hefyd sydd iraidd. 17 Swmerau ein tai sydd gedrwydd; ein distiau sydd ffynidwydd.
1 Iago, gwasanaethwr Duw a’r Arglwydd Iesu Grist, at y deuddeg llwyth sydd ar wasgar, annerch. 2 Cyfrifwch yn bob llawenydd, fy mrodyr, pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau; 3 Gan wybod fod profiad eich ffydd chwi yn gweithredu amynedd. 4 Ond caffed amynedd ei pherffaith waith; fel y byddoch berffaith a chyfan, heb ddiffygio mewn dim. 5 O bydd ar neb ohonoch eisiau doethineb, gofynned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb, ac heb ddannod; a hi roddir iddo ef. 6 Eithr gofynned mewn ffydd, heb amau dim: canys yr hwn sydd yn amau, sydd gyffelyb i don y môr, a chwelir ac a deflir gan y gwynt. 7 Canys na feddylied y dyn hwnnw y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd. 8 Gŵr dauddyblyg ei feddwl sydd anwastad yn ei holl ffyrdd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.