Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 11

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

11 Yn yr Arglwydd yr wyf yn ymddiried: pa fodd y dywedwch wrth fy enaid, Eheda i’ch mynydd fel aderyn? Canys wele, y drygionus a anelant fwa, paratoesant eu saethau ar y llinyn; i saethu yn ddirgel y rhai uniawn o galon. Canys y seiliau a ddinistriwyd; pa beth a wna y cyfiawn? Yr Arglwydd sydd yn nheml ei sancteiddrwydd; gorseddfa yr Arglwydd sydd yn y nefoedd: y mae ei lygaid ef yn gweled, ei amrantau yn profi meibion dynion. Yr Arglwydd a brawf y cyfiawn: eithr cas gan ei enaid ef y drygionus, a’r hwn sydd hoff ganddo drawster. Ar yr annuwiolion y glawia efe faglau, tân a brwmstan, a phoethwynt ystormus: dyma ran eu ffiol hwynt. Canys yr Arglwydd cyfiawn a gâr gyfiawnder: ei wyneb a edrych ar yr uniawn.

1 Brenhinoedd 6:15-38

15 Ac efe a fyrddiodd barwydydd y tŷ oddi fewn ag ystyllod cedrwydd, o lawr y tŷ hyd y llogail y byrddiodd efe ef â choed oddi fewn: byrddiodd hefyd lawr y tŷ â phlanciau o ffynidwydd. 16 Ac efe a adeiladodd ugain cufydd ar ystlysau y tŷ ag ystyllod cedr, o’r llawr hyd y parwydydd: felly yr adeiladodd iddo o fewn, sef i’r gafell, i’r cysegr sancteiddiolaf. 17 A’r tŷ, sef y deml o’i flaen ef, oedd ddeugain cufydd ei hyd. 18 A chedrwydd y tŷ oddi fewn oedd wedi eu cerfio yn gnapiau, ac yn flodau agored: y cwbl oedd gedrwydd; ni welid carreg. 19 A’r gafell a ddarparodd efe yn y tŷ o fewn, i osod yno arch cyfamod yr Arglwydd. 20 A’r gafell yn y pen blaen oedd ugain cufydd o hyd, ac ugain cufydd o led, ac ugain cufydd ei huchder: ac efe a’i gwisgodd ag aur pur; felly hefyd y gwisgodd efe yr allor o gedrwydd. 21 Solomon hefyd a wisgodd y tŷ oddi fewn ag aur pur; ac a roddes farrau ar draws, wrth gadwyni aur, o flaen y gafell, ac a’u gwisgodd ag aur. 22 A’r holl dŷ a wisgodd efe ag aur, nes gorffen yr holl dŷ: yr allor hefyd oll, yr hon oedd wrth y gafell, a wisgodd efe ag aur.

23 Ac efe a wnaeth yn y gafell ddau o geriwbiaid, o bren olewydd, pob un yn ddeg cufydd ei uchder. 24 A’r naill adain i’r ceriwb oedd bum cufydd, a’r adain arall i’r cerub oedd bum cufydd: deg cufydd oedd o’r naill gwr i’w adenydd ef hyd y cwr arall i’w adenydd ef. 25 A’r ail geriwb oedd o ddeg cufydd: un mesur ac un agwedd oedd y ddau geriwb. 26 Uchder y naill geriwb oedd ddeg cufydd; ac felly yr oedd y ceriwb arall. 27 Ac efe a osododd y ceriwbiaid yn y tŷ oddi fewn: ac adenydd y ceriwbiaid a ymledasant, fel y cyffyrddodd adain y naill â’r naill bared, ac adain y ceriwb arall oedd yn cyffwrdd â’r pared arall; a’u hadenydd hwy yng nghanol y tŷ oedd yn cyffwrdd â’i gilydd. 28 Ac efe a wisgodd y ceriwbiaid ag aur. 29 A holl barwydydd y tŷ o amgylch a gerfiodd efe â cherfiedig luniau ceriwbiaid, a phalmwydd, a blodau agored; o fewn ac oddi allan. 30 Llawr y tŷ hefyd a wisgodd efe ag aur, oddi fewn ac oddi allan.

31 Ac i ddrws y gafell y gwnaeth efe ddorau o goed olewydd; capan y drws a’r gorsingau oedd bumed ran y pared. 32 Ac ar y ddwy ddôr o goed olewydd y cerfiodd efe gerfiadau ceriwbiaid, a phalmwydd, a blodau agored, ac a’u gwisgodd ag aur, ac a ledodd aur ar y ceriwbiaid, ac ar y palmwydd. 33 Ac felly y gwnaeth efe i ddrws y deml orsingau o goed olewydd, y rhai oedd bedwaredd ran y pared. 34 Ac yr oedd y ddwy ddôr o goed ffynidwydd: dwy ddalen blygedig oedd i’r naill ddôr, a dwy ddalen blygedig i’r ddôr arall. 35 Ac efe a gerfiodd geriwbiaid, a phalmwydd, a blodau agored, arnynt; ac a’u gwisgodd ag aur, yr hwn a gymhwyswyd ar y cerfiad.

36 Ac efe a adeiladodd y cyntedd nesaf i mewn â thair rhes o gerrig nadd, ac â rhes o drawstiau cedrwydd.

37 Yn y bedwaredd flwyddyn y sylfaenwyd tŷ yr Arglwydd, ym mis Sif: 38 Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, ym mis Bul, (dyna yr wythfed mis,) y gorffennwyd y tŷ, a’i holl rannau, a’i holl berthynasau. Felly mewn saith mlynedd yr adeiladodd efe ef.

Ioan 15:16-25

16 Nid chwi a’m dewisasoch i, ond myfi a’ch dewisais chwi, ac a’ch ordeiniais chwi, fel yr elech ac y dygech ffrwyth, ac yr arhosai eich ffrwyth; megis pa beth bynnag a ofynnoch gan y Tad yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi. 17 Hyn yr wyf yn ei orchymyn i chwi, garu ohonoch eich gilydd. 18 Os yw’r byd yn eich casáu chwi, chwi a wyddoch gasáu ohono fyfi o’ch blaen chwi. 19 Pe byddech o’r byd, y byd a garai’r eiddo; ond oblegid nad ydych o’r byd, eithr i mi eich dewis allan o’r byd, am hynny y mae’r byd yn eich casáu chwi. 20 Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais i wrthych; Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd. Os erlidiasant fi, hwy a’ch erlidiant chwithau: os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant. 21 Eithr hyn oll a wnânt i chwi er mwyn fy enw i, am nad adwaenant yr hwn a’m hanfonodd i. 22 Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod: ond yr awron nid oes ganddynt esgus am eu pechod. 23 Yr hwn sydd yn fy nghasáu i, sydd yn casáu fy Nhad hefyd. 24 Oni bai wneuthur ohonof yn eu plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall, ni buasai arnynt bechod: ond yr awron hwy a welsant, ac a’m casasant i a’m Tad hefyd. 25 Eithr, fel y cyflawnid y gair sydd ysgrifenedig yn eu cyfraith hwynt, Hwy a’m casasant yn ddiachos.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.