Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
11 Yn yr Arglwydd yr wyf yn ymddiried: pa fodd y dywedwch wrth fy enaid, Eheda i’ch mynydd fel aderyn? 2 Canys wele, y drygionus a anelant fwa, paratoesant eu saethau ar y llinyn; i saethu yn ddirgel y rhai uniawn o galon. 3 Canys y seiliau a ddinistriwyd; pa beth a wna y cyfiawn? 4 Yr Arglwydd sydd yn nheml ei sancteiddrwydd; gorseddfa yr Arglwydd sydd yn y nefoedd: y mae ei lygaid ef yn gweled, ei amrantau yn profi meibion dynion. 5 Yr Arglwydd a brawf y cyfiawn: eithr cas gan ei enaid ef y drygionus, a’r hwn sydd hoff ganddo drawster. 6 Ar yr annuwiolion y glawia efe faglau, tân a brwmstan, a phoethwynt ystormus: dyma ran eu ffiol hwynt. 7 Canys yr Arglwydd cyfiawn a gâr gyfiawnder: ei wyneb a edrych ar yr uniawn.
6 Ac yn y bedwar ugeinfed a phedwar cant o flynyddoedd wedi dyfod meibion Israel allan o’r Aifft, yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad Solomon ar Israel, yn y mis Sif, hwnnw yw yr ail fis, y dechreuodd efe adeiladu tŷ yr Arglwydd. 2 A’r tŷ a adeiladodd y brenin Solomon i’r Arglwydd oedd drigain cufydd ei hyd, ac ugain cufydd ei led, a deg cufydd ar hugain ei uchder. 3 A’r porth o flaen teml y tŷ oedd ugain cufydd ei hyd, yn un hyd â lled y tŷ; ac yn ddeg cufydd ei led, o flaen y tŷ. 4 Ac efe a wnaeth i’r tŷ ffenestri, yn llydain oddi fewn, ac yn gyfyng oddi allan.
5 Ac efe a adeiladodd wrth fur y tŷ ystafelloedd oddi amgylch mur y tŷ, ynghylch y deml, a’r gafell; ac a wnaeth gelloedd o amgylch. 6 Yr ystafell isaf oedd bum cufydd ei lled, a’r ganol chwe chufydd ei lled, a’r drydedd yn saith gufydd ei lled: canys efe a roddasai ategion o’r tu allan i’r tŷ oddi amgylch, fel na rwymid y trawstiau ym mur y tŷ. 7 A’r tŷ, pan adeiladwyd ef, a adeiladwyd o gerrig wedi eu cwbl naddu cyn eu dwyn yno; fel na chlybuwyd na morthwylion, na bwyeill, nac un offeryn haearn yn y tŷ, wrth ei adeiladu. 8 Drws y gell ganol oedd ar ystlys ddeau y tŷ; ac ar hyd grisiau troëdig y dringid i’r ganol, ac o’r ganol i’r drydedd. 9 Felly yr adeiladodd efe y tŷ, ac a’i gorffennodd; ac a fyrddiodd y tŷ â thrawstiau ac ystyllod o gedrwydd. 10 Ac efe a adeiladodd ystafelloedd wrth yr holl dŷ, yn bum cufydd eu huchder: ac â choed cedr yr oeddynt yn pwyso ar y tŷ.
11 A daeth gair yr Arglwydd at Solomon, gan ddywedyd, 12 Am y tŷ yr wyt ti yn ei adeiladu, os rhodi di yn fy neddfau i, a gwneuthur fy marnedigaethau, a chadw fy holl orchmynion, gan rodio ynddynt; yna y cyflawnaf â thi fy ngair a leferais wrth Dafydd dy dad: 13 A mi a breswyliaf ymysg meibion Israel, ac ni adawaf fy mhobl Israel. 14 Felly yr adeiladodd Solomon y tŷ, ac a’i gorffennodd.
21 Ond fel y gwypoch chwithau hefyd fy helynt, beth yr wyf yn ei wneuthur, Tychicus, y brawd annwyl a’r gweinidog ffyddlon yn yr Arglwydd, a hysbysa i chwi bob peth: 22 Yr hwn a anfonais atoch er mwyn hyn yma; fel y caech wybod ein helynt ni, ac fel y diddanai efe eich calonnau chwi. 23 Tangnefedd i’r brodyr, a chariad gyda ffydd, oddi wrth Dduw Dad, a’r Arglwydd Iesu Grist. 24 Gras fyddo gyda phawb sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn purdeb. Amen.
At yr Effesiaid yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda Thychicus.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.