Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
11 Yn yr Arglwydd yr wyf yn ymddiried: pa fodd y dywedwch wrth fy enaid, Eheda i’ch mynydd fel aderyn? 2 Canys wele, y drygionus a anelant fwa, paratoesant eu saethau ar y llinyn; i saethu yn ddirgel y rhai uniawn o galon. 3 Canys y seiliau a ddinistriwyd; pa beth a wna y cyfiawn? 4 Yr Arglwydd sydd yn nheml ei sancteiddrwydd; gorseddfa yr Arglwydd sydd yn y nefoedd: y mae ei lygaid ef yn gweled, ei amrantau yn profi meibion dynion. 5 Yr Arglwydd a brawf y cyfiawn: eithr cas gan ei enaid ef y drygionus, a’r hwn sydd hoff ganddo drawster. 6 Ar yr annuwiolion y glawia efe faglau, tân a brwmstan, a phoethwynt ystormus: dyma ran eu ffiol hwynt. 7 Canys yr Arglwydd cyfiawn a gâr gyfiawnder: ei wyneb a edrych ar yr uniawn.
13 A’r brenin Solomon a gyfododd dreth o holl Israel, a’r dreth oedd ddeng mil ar hugain o wŷr. 14 Ac efe a’u hanfonodd hwynt i Libanus, deng mil yn y mis ar gylch: mis y byddent yn Libanus, a dau fis gartref. Ac Adoniram oedd ar y dreth. 15 Ac yr oedd gan Solomon ddeng mil a thrigain yn dwyn beichiau, a phedwar ugain mil yn naddu cerrig yn y mynydd; 16 Heb law pen‐swyddogion Solomon, y rhai oedd ar y gwaith, sef tair mil a thri chant, yn llywodraethu y bobl a weithient yn y gwaith. 17 A’r brenin a orchmynnodd ddwyn ohonynt hwy feini mawr, a meini costus, a meini nadd, i sylfaenu y tŷ. 18 Felly seiri Solomon, a seiri Hiram, a’r Gibliaid, a naddasant, ac a ddarparasant goed a cherrig i adeiladu’r tŷ.
21 Gan ymddarostwng i’ch gilydd yn ofn Duw. 22 Y gwragedd, ymostyngwch i’ch gwŷr priod, megis i’r Arglwydd. 23 Oblegid y gŵr yw pen y wraig, megis ag y mae Crist yn ben i‘r eglwys; ac efe yw Iachawdwr y corff. 24 Ond fel y mae’r eglwys yn ddarostyngedig i Grist, felly hefyd bydded y gwragedd i’w gwŷr priod ym mhob peth. 25 Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, megis ag y carodd Crist yr eglwys, ac a’i rhoddes ei hun drosti; 26 Fel y sancteiddiai efe hi, a’i glanhau â’r olchfa ddwfr trwy y gair; 27 Fel y gosodai efe hi yn ogoneddus iddo ei hun, yn eglwys heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o’r cyfryw; ond fel y byddai yn sanctaidd ac yn ddifeius. 28 Felly y dylai’r gwŷr garu eu gwragedd, megis eu cyrff eu hunain. Yr hwn a garo ei wraig, sydd yn ei garu ei hun. 29 Canys ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun; eithr ei fagu a’i feithrin y mae, megis ag y mae’r Arglwydd am yr eglwys: 30 Oblegid aelodau ydym o’i gorff ef, o’i gnawd ef, ac o’i esgyrn ef. 31 Am hynny y gad dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a hwy a fyddant ill dau yn un cnawd. 32 Y dirgelwch hwn sydd fawr: eithr am Grist ac am yr eglwys yr wyf fi yn dywedyd. 33 Ond chwithau hefyd cymain un, felly cared pob un ohonoch ei wraig, fel ef ei hunan; a’r wraig edryched ar iddi berchi ei gŵr.
6 Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni yn yr Arglwydd: canys hyn sydd gyfiawn. 2 Anrhydedda dy dad a’th fam, (yr hwn yw’r gorchymyn cyntaf mewn addewid;) 3 Fel y byddo yn dda i ti, ac fel y byddech hir‐hoedlog ar y ddaear. 4 A chwithau dadau, na yrrwch eich plant i ddigio; ond maethwch hwynt yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. 5 Y gweision, ufuddhewch i’r rhai sydd arglwyddi i chwi yn ôl y cnawd, gydag ofn a dychryn, yn symlrwydd eich calon, megis i Grist; 6 Nid â golwg‐wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, ond fel gweision Crist, yn gwneuthur ewyllys Duw o’r galon; 7 Trwy ewyllys da yn gwneuthur gwasanaeth, megis i’r Arglwydd, ac nid i ddynion: 8 Gan wybod mai pa ddaioni bynnag a wnelo pob un, hynny a dderbyn efe gan yr Arglwydd, pa un bynnag ai caeth ai rhydd fyddo. 9 A chwithau feistriaid, gwnewch yr un pethau tuag atynt hwy, gan roddi bygwth heibio: gan wybod fod eich Arglwydd chwi a hwythau yn y nefoedd; ac nid oes derbyn wyneb gydag ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.