Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
8 Yna Solomon a gasglodd henuriaid Israel, a holl bennau y llwythau, a thywysogion tadau meibion Israel, at y brenin Solomon, yn Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch cyfamod yr Arglwydd o ddinas Dafydd, honno yw Seion.
6 Felly yr offeiriaid a ddygasant arch cyfamod yr Arglwydd i’w lle ei hun, i gafell y tŷ, i’r cysegr sancteiddiaf, dan adenydd y ceriwbiaid.
10 A phan ddaeth yr offeiriaid allan o’r cysegr, y cwmwl a lanwodd dŷ yr Arglwydd, 11 Fel na allai yr offeiriaid sefyll i wasanaethu, oherwydd y cwmwl: canys gogoniant yr Arglwydd a lanwasai dŷ yr Arglwydd.
22 A Solomon a safodd o flaen allor yr Arglwydd, yng ngŵydd holl gynulleidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo tua’r nefoedd: 23 Ac efe a ddywedodd, O Arglwydd Dduw Israel, nid oes Duw fel tydi, yn y nefoedd oddi uchod, nac ar y ddaear oddi isod, yn cadw cyfamod a thrugaredd â’th weision sydd yn rhodio ger dy fron di â’u holl galon; 24 Yr hwn a gedwaist â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho: traethaist hefyd â’th enau, a chwblheaist â’th law, megis heddiw y mae. 25 Ac yn awr, O Arglwydd Dduw Israel, cadw â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho, gan ddywedyd, Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr ger fy mron i yn eistedd ar deyrngadair Israel; os dy feibion a gadwant eu ffordd, i rodio ger fy mron i, megis y rhodiaist ti ger fy mron. 26 Ac yn awr, O Dduw Israel, poed gwir, atolwg, fyddo dy air a leferaist wrth dy was Dafydd fy nhad. 27 Ai gwir yw, y preswylia Duw ar y ddaear? wele, y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ni allant dy gynnwys di; pa faint llai y dichon y tŷ hwn a adeiledais i! 28 Eto edrych ar weddi dy was, ac ar ei ddeisyfiad ef, O Arglwydd fy Nuw, i wrando ar y llef a’r weddi y mae dy was yn ei gweddïo heddiw ger dy fron di: 29 Fel y byddo dy lygaid yn agored tua’r tŷ yma nos a dydd, tua’r lle y dywedaist amdano, Fy enw a fydd yno: i wrando ar y weddi a weddïo dy was yn y lle hwn. 30 Gwrando gan hynny ddeisyfiad dy was, a’th bobl Israel, pan weddïant yn y lle hwn: clyw hefyd o le dy breswylfa, sef o’r nefoedd; a phan glywych, maddau.
41 Ac am y dieithrddyn hefyd ni byddo o’th bobl Israel, ond dyfod o wlad bell er mwyn dy enw; 42 (Canys clywant am dy enw mawr di, a’th law gref, a’th fraich estynedig;) pan ddêl a gweddïo tua’r tŷ hwn: 43 Gwrando di yn y nefoedd, mangre dy breswylfod, a gwna yn ôl yr hyn oll a’r a lefo’r dieithrddyn arnat amdano: fel yr adwaeno holl bobl y ddaear dy enw di, i’th ofni di, fel y mae dy bobl Israel, ac y gwypont mai ar dy enw di y gelwir y tŷ hwn a adeiledais i.
I’r Pencerdd ar Gittith, Salm meibion Cora.
84 Mor hawddgar yw dy bebyll di, O Arglwydd y lluoedd! 2 Fy enaid a hiraetha, ie, ac a flysia am gynteddau yr Arglwydd: fy nghalon a’m cnawd a waeddant am y Duw byw. 3 Aderyn y to hefyd a gafodd dŷ, a’r wennol nyth iddi, lle y gesyd ei chywion; sef dy allorau di, O Arglwydd y lluoedd, fy Mrenin, a’m Duw. 4 Gwyn fyd preswylwyr dy dŷ: yn wastad y’th foliannant. Sela. 5 Gwyn ei fyd y dyn y mae ei gadernid ynot; a’th ffyrdd yn eu calon: 6 Y rhai yn myned trwy ddyffryn Bacha a’i gwnânt yn ffynnon: a’r glaw a leinw y llynnau. 7 Ant o nerth i nerth; ymddengys pob un gerbron Duw yn Seion. 8 O Arglwydd Dduw y lluoedd, clyw fy ngweddi: gwrando, O Dduw Jacob. Sela. 9 O Dduw ein tarian, gwêl, ac edrych ar wyneb dy Eneiniog. 10 Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil: dewiswn gadw drws yn nhŷ fy Nuw, o flaen trigo ym mhebyll annuwioldeb. 11 Canys haul a tharian yw yr Arglwydd Dduw: yr Arglwydd a rydd ras a gogoniant: ni atal efe ddim daioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith. 12 O Arglwydd y lluoedd, gwyn fyd y dyn a ymddiried ynot.
10 Heblaw hyn, fy mrodyr, ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac yng nghadernid ei allu ef. 11 Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol. 12 Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd. 13 Am hynny cymerwch atoch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg; ac wedi gorffen pob peth, sefyll. 14 Sefwch gan hynny, wedi amgylchwregysu eich lwynau â gwirionedd, a gwisgo dwyfronneg cyfiawnder; 15 A gwisgo am eich traed esgidiau paratoad efengyl tangnefedd: 16 Uwchlaw pob dim, wedi cymryd tarian y ffydd, â’r hon y gellwch ddiffoddi holl bicellau tanllyd y fall. 17 Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw gair Duw: 18 Gan weddïo bob amser â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr Ysbryd, a bod yn wyliadwrus at hyn yma, trwy bob dyfalbara, a deisyfiad dros yr holl saint; 19 A throsof finnau, fel y rhodder i mi ymadrodd, trwy agoryd fy ngenau yn hy, i hysbysu dirgelwch yr efengyl; 20 Dros yr hon yr wyf yn gennad mewn cadwyn: fel y traethwyf yn hy amdani, fel y perthyn imi draethu.
56 Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau. 57 Fel yr anfonodd y Tad byw fi, ac yr ydwyf fi yn byw trwy’r Tad: felly yr hwn sydd yn fy mwyta i, yntau a fydd byw trwof fi. 58 Dyma’r bara a ddaeth i waered o’r nef: nid megis y bwytaodd eich tadau chwi y manna, ac y buont feirw. Y neb sydd yn bwyta’r bara hwn, a fydd byw yn dragywydd. 59 Y pethau hyn a ddywedodd efe yn y synagog, wrth athrawiaethu yng Nghapernaum. 60 Llawer gan hynny o’i ddisgyblion, pan glywsant, a ddywedasant, Caled yw’r ymadrodd hwn; pwy a ddichon wrando arno? 61 Pan wybu’r Iesu ynddo ei hun, fod ei ddisgyblion yn grwgnach am hyn, efe a ddywedodd wrthynt, A ydyw hyn yn eich rhwystro chwi? 62 Beth gan hynny os gwelwch Fab y dyn yn dyrchafu lle yr oedd efe o’r blaen? 63 Yr ysbryd yw’r hyn sydd yn bywhau; y cnawd nid yw yn llesáu dim: y geiriau yr ydwyf fi yn eu llefaru wrthych, ysbryd ydynt, a bywyd ydynt. 64 Ond y mae ohonoch chwi rai nid ydynt yn credu. Canys yr Iesu a wyddai o’r dechreuad, pwy oedd y rhai nid oedd yn credu, a phwy oedd yr hwn a’i bradychai ef. 65 Ac efe a ddywedodd, Am hynny y dywedais wrthych, na ddichon neb ddyfod ataf fi, oni bydd wedi ei roddi iddo oddi wrth fy Nhad.
66 O hynny allan llawer o’i ddisgyblion ef a aethant yn eu hôl, ac ni rodiasant mwyach gydag ef. 67 Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth y deuddeg, A fynnwch chwithau hefyd fyned ymaith? 68 Yna Simon Pedr a’i hatebodd ef, O Arglwydd, at bwy yr awn ni? gennyt ti y mae geiriau bywyd tragwyddol. 69 Ac yr ydym ni yn credu, ac yn gwybod mai tydi yw’r Crist, Mab y Duw byw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.