Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd ar Gittith, Salm meibion Cora.
84 Mor hawddgar yw dy bebyll di, O Arglwydd y lluoedd! 2 Fy enaid a hiraetha, ie, ac a flysia am gynteddau yr Arglwydd: fy nghalon a’m cnawd a waeddant am y Duw byw. 3 Aderyn y to hefyd a gafodd dŷ, a’r wennol nyth iddi, lle y gesyd ei chywion; sef dy allorau di, O Arglwydd y lluoedd, fy Mrenin, a’m Duw. 4 Gwyn fyd preswylwyr dy dŷ: yn wastad y’th foliannant. Sela. 5 Gwyn ei fyd y dyn y mae ei gadernid ynot; a’th ffyrdd yn eu calon: 6 Y rhai yn myned trwy ddyffryn Bacha a’i gwnânt yn ffynnon: a’r glaw a leinw y llynnau. 7 Ant o nerth i nerth; ymddengys pob un gerbron Duw yn Seion. 8 O Arglwydd Dduw y lluoedd, clyw fy ngweddi: gwrando, O Dduw Jacob. Sela. 9 O Dduw ein tarian, gwêl, ac edrych ar wyneb dy Eneiniog. 10 Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil: dewiswn gadw drws yn nhŷ fy Nuw, o flaen trigo ym mhebyll annuwioldeb. 11 Canys haul a tharian yw yr Arglwydd Dduw: yr Arglwydd a rydd ras a gogoniant: ni atal efe ddim daioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith. 12 O Arglwydd y lluoedd, gwyn fyd y dyn a ymddiried ynot.
5 Hiram hefyd brenin Tyrus a anfonodd ei weision at Solomon; canys clybu eneinio ohonynt hwy ef yn frenin yn lle ei dad: canys hoff oedd gan Hiram Dafydd bob amser. 2 A Solomon a anfonodd at Hiram, gan ddywedyd, 3 Ti a wyddost am Dafydd fy nhad, na allai efe adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd ei Dduw, gan y rhyfeloedd oedd o’i amgylch ef, nes rhoddi o’r Arglwydd hwynt dan wadnau ei draed ef. 4 Eithr yn awr yr Arglwydd fy Nuw a roddodd i mi lonydd oddi amgylch, fel nad oes na gwrthwynebydd, nac ymgyfarfod niweidiol. 5 Ac wele fi â’m bryd ar adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd fy Nuw; megis y llefarodd yr Arglwydd wrth Dafydd fy nhad, gan ddywedyd, Dy fab, yr hwn a osodaf fi yn dy le di ar dy orseddfainc di, efe a adeilada dŷ i’m henw i. 6 Yn awr, gan hynny, gorchymyn dorri ohonynt i mi gedrwydd o Libanus; a’m gweision i a fyddant gyda’th weision di: a rhoddaf atat gyflog dy weision, yn ôl yr hyn a ddywedych: canys ti a wyddost nad oes yn ein plith ni ŵr a fedro gymynu coed megis y Sidoniaid.
7 A bu, pan glybu Hiram eiriau Solomon, lawenychu ohono ef yn ddirfawr, a dywedyd, Bendigedig yw yr Arglwydd heddiw, yr hwn a roddes i Dafydd fab doeth ar y bobl luosog yma. 8 A Hiram a anfonodd at Solomon, gan ddywedyd, Gwrandewais ar yr hyn a anfonaist ataf: mi a wnaf dy holl ewyllys di am goed cedrwydd, a choed ffynidwydd. 9 Fy ngweision a’u dygant i waered o Libanus hyd y môr: a mi a’u gyrraf hwynt yn gludeiriau ar hyd y môr, hyd y fan a osodych di i mi; ac yno y datodaf hwynt, a chymer di hwynt: ond ti a wnei fy ewyllys innau, gan roddi ymborth i’m teulu i. 10 Felly yr oedd Hiram yn rhoddi i Solomon o goed cedrwydd, ac o goed ffynidwydd, ei holl ddymuniad. 11 A Solomon a roddodd i Hiram ugain mil corus o wenith yn gynhaliaeth i’w dŷ, ac ugain corus o olew coeth: felly y rhoddai Solomon i Hiram bob blwyddyn. 12 A’r Arglwydd a roddes ddoethineb i Solomon, fel y dywedasai wrtho: a bu heddwch rhwng Hiram a Solomon; a hwy a wnaethant gyfamod ill dau.
5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy ohonoch fydd iddo gyfaill, ac a â ato hanner nos, ac a ddywed wrtho, O gyfaill, moes i mi dair torth yn echwyn; 6 Canys cyfaill i mi a ddaeth ataf wrth ymdaith, ac nid oes gennyf ddim i’w ddodi ger ei fron ef: 7 Ac yntau oddi mewn a etyb ac a ddywed, Na flina fi: yn awr y mae’r drws yn gaead, a’m plant gyda mi yn y gwely; ni allaf godi a’u rhoddi i ti. 8 Yr wyf yn dywedyd i chwi, Er na chyfyd efe a rhoddi iddo, am ei fod yn gyfaill iddo; eto oherwydd ei daerni, efe a gyfyd, ac a rydd iddo gynifer ag y sydd arno eu heisiau. 9 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe a agorir i chwi. 10 Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir. 11 Os bara a ofyn mab i un ohonoch chwi sydd dad, a ddyry efe garreg iddo? ac os pysgodyn, a ddyry efe iddo sarff yn lle pysgodyn? 12 Neu os gofyn efe wy, a ddyry efe ysgorpion iddo? 13 Os chwychwi gan hynny, y rhai ydych ddrwg, a fedrwch roi rhoddion da i’ch plant chwi; pa faint mwy y rhydd eich Tad o’r nef yr Ysbryd Glân i’r rhai a ofynno ganddo?
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.