Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd ar Gittith, Salm meibion Cora.
84 Mor hawddgar yw dy bebyll di, O Arglwydd y lluoedd! 2 Fy enaid a hiraetha, ie, ac a flysia am gynteddau yr Arglwydd: fy nghalon a’m cnawd a waeddant am y Duw byw. 3 Aderyn y to hefyd a gafodd dŷ, a’r wennol nyth iddi, lle y gesyd ei chywion; sef dy allorau di, O Arglwydd y lluoedd, fy Mrenin, a’m Duw. 4 Gwyn fyd preswylwyr dy dŷ: yn wastad y’th foliannant. Sela. 5 Gwyn ei fyd y dyn y mae ei gadernid ynot; a’th ffyrdd yn eu calon: 6 Y rhai yn myned trwy ddyffryn Bacha a’i gwnânt yn ffynnon: a’r glaw a leinw y llynnau. 7 Ant o nerth i nerth; ymddengys pob un gerbron Duw yn Seion. 8 O Arglwydd Dduw y lluoedd, clyw fy ngweddi: gwrando, O Dduw Jacob. Sela. 9 O Dduw ein tarian, gwêl, ac edrych ar wyneb dy Eneiniog. 10 Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil: dewiswn gadw drws yn nhŷ fy Nuw, o flaen trigo ym mhebyll annuwioldeb. 11 Canys haul a tharian yw yr Arglwydd Dduw: yr Arglwydd a rydd ras a gogoniant: ni atal efe ddim daioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith. 12 O Arglwydd y lluoedd, gwyn fyd y dyn a ymddiried ynot.
29 A Duw a roddodd ddoethineb i Solomon, a deall mawr iawn, a helaethdra calon, fel y tywod sydd ar fin y môr. 30 A doethineb Solomon oedd fwy na doethineb holl feibion y dwyrain, ac na holl ddoethineb yr Aifft. 31 Ie, doethach oedd efe nag un dyn; nag Ethan yr Esrahiad, na Heman, na Chalcol, na Darda, meibion Mahol: a’i enw ef oedd ymhlith yr holl genhedloedd oddi amgylch. 32 Ac efe a lefarodd dair mil o ddiarhebion: a’i ganiadau ef oedd fil a phump. 33 Llefarodd hefyd am brennau, o’r cedrwydd sydd yn Libanus, hyd yr isop a dyf allan o’r pared: ac efe a lefarodd am anifeiliaid, ac am ehediaid, ac am ymlusgiaid, ac am bysgod. 34 Ac o bob pobloedd y daethpwyd i wrando doethineb Solomon, oddi wrth holl frenhinoedd y ddaear, y rhai a glywsent am ei ddoethineb ef.
11 A hyn, gan wybod yr amser, ei bod hi weithian yn bryd i ni ddeffroi o gysgu: canys yr awr hon y mae ein hiachawdwriaeth ni yn nes na phan gredasom. 12 Y nos a gerddodd ymhell, a’r dydd a nesaodd: am hynny bwriwn oddi wrthym weithredoedd y tywyllwch, a gwisgwn arfau’r goleuni. 13 Rhodiwn yn weddus, megis wrth liw dydd; nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen. 14 Eithr gwisgwch amdanoch yr Arglwydd Iesu Grist; ac na wnewch ragddarbod dros y cnawd, er mwyn cyflawni ei chwantau ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.