Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 101

Salm Dafydd.

101 Canaf am drugaredd a barn: i ti, Arglwydd, y canaf. Byddaf ddeallus mewn ffordd berffaith. Pa bryd y deui ataf? rhodiaf mewn perffeithrwydd fy nghalon o fewn fy nhŷ. Ni osodaf ddim anwir o flaen fy llygaid: cas gennyf waith y rhai cildynnus; ni lŷn wrthyf fi. Calon gyndyn a gilia oddi wrthyf: nid adnabyddaf ddyn drygionus. Torraf ymaith yr hwn a enllibio ei gymydog yn ddirgel: yr uchel o olwg, a’r balch ei galon, ni allaf ei ddioddef. Fy llygaid fydd ar ffyddloniaid y tir, fel y trigont gyda mi: yr hwn a rodio mewn ffordd berffaith, hwnnw a’m gwasanaetha i. Ni thrig o fewn fy nhŷ yr un a wnelo dwyll: ni thrig yn fy ngolwg yr un a ddywedo gelwydd. Yn fore y torraf ymaith holl annuwiolion y tir, i ddiwreiddio holl weithredwyr anwiredd o ddinas yr Arglwydd.

1 Brenhinoedd 8:1-21

Yna Solomon a gasglodd henuriaid Israel, a holl bennau y llwythau, a thywysogion tadau meibion Israel, at y brenin Solomon, yn Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch cyfamod yr Arglwydd o ddinas Dafydd, honno yw Seion. A holl wŷr Israel a ymgynullasant at y brenin Solomon, ar yr ŵyl, ym mis Ethanim, hwnnw yw y seithfed mis. A holl henuriaid Israel a ddaethant, a’r offeiriaid a godasant yr arch i fyny. A hwy a ddygasant i fyny arch yr Arglwydd, a phabell y cyfarfod, a holl lestri’r cysegr y rhai oedd yn y babell, a’r offeiriaid a’r Lefiaid a’u dygasant hwy i fyny. A’r brenin Solomon, a holl gynulleidfa Israel, y rhai a ymgynullasai ato ef, oedd gydag ef o flaen yr arch, yn aberthu defaid, a gwartheg, y rhai ni rifid ac ni chyfrifid, gan luosowgrwydd. Felly yr offeiriaid a ddygasant arch cyfamod yr Arglwydd i’w lle ei hun, i gafell y tŷ, i’r cysegr sancteiddiaf, dan adenydd y ceriwbiaid. Canys y ceriwbiaid oedd yn lledu eu hadenydd dros le yr arch; a’r ceriwbiaid a orchuddient yr arch, a’i barrau oddi arnodd. A’r barrau a estynasant, fel y gwelid pennau y barrau o’r cysegr o flaen y gafell, ond nis gwelid oddi allan: yno y maent hwy hyd y dydd hwn. Nid oedd dim yn yr arch ond y ddwy lech faen a osodasai Moses yno yn Horeb, lle y cyfamododd yr Arglwydd â meibion Israel, pan oeddynt yn dyfod o wlad yr Aifft. 10 A phan ddaeth yr offeiriaid allan o’r cysegr, y cwmwl a lanwodd dŷ yr Arglwydd, 11 Fel na allai yr offeiriaid sefyll i wasanaethu, oherwydd y cwmwl: canys gogoniant yr Arglwydd a lanwasai dŷ yr Arglwydd.

12 Yna y dywedodd Solomon, Yr Arglwydd a ddywedodd, y preswyliai efe yn y tywyllwch. 13 Gan adeiladu yr adeiledais dŷ yn breswylfod i ti; trigle i ti i aros yn dragywydd ynddo. 14 A’r brenin a drodd ei wyneb, ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel. A holl gynulleidfa Israel oedd yn sefyll. 15 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a lefarodd â’i enau wrth Dafydd fy nhad, ac a’i cwblhaodd â’i law, gan ddywedyd, 16 Er y dydd y dygais fy mhobl Israel allan o’r Aifft, ni ddewisais ddinas o holl lwythau Israel i adeiladu tŷ, fel y byddai fy enw i yno: eithr dewisais Dafydd i fod ar fy mhobl Israel. 17 Ac yr oedd ym mryd Dafydd fy nhad adeiladu tŷ i enw Arglwydd Dduw Israel. 18 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Dafydd fy nhad, Oherwydd bod yn dy fryd di adeiladu tŷ i’m henw i, da y gwnaethost fod hynny yn dy galon: 19 Eto nid adeiledi di y tŷ; ond dy fab di, yr hwn a ddaw allan o’th lwynau di, efe a adeilada y tŷ i’m henw i. 20 A’r Arglwydd a gywirodd ei air a lefarodd efe; a mi a gyfodais yn lle Dafydd fy nhad, ac a eisteddais ar deyrngadair Israel, megis y llefarodd yr Arglwydd, ac a adeiledais dŷ i enw Arglwydd Dduw Israel. 21 A mi a osodais yno le i’r arch, yr hon y mae ynddi gyfamod yr Arglwydd, yr hwn a gyfamododd efe â’n tadau ni, pan ddug efe hwynt allan o wlad yr Aifft.

Marc 8:14-21

14 A’r disgyblion a adawsant yn angof gymryd bara, ac nid oedd ganddynt gyda hwynt ond un dorth yn y llong. 15 Yna y gorchmynnodd efe iddynt, gan ddywedyd, Gwyliwch, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid, a surdoes Herod. 16 Ac ymresymu a wnaethant y naill wrth y llall, gan ddywedyd, Hyn sydd oblegid nad oes gennym fara. 17 A phan wybu’r Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, Pa ymresymu yr ydych, am nad oes gennych fara? onid ydych chwi eto yn ystyried, nac yn deall? ydyw eich calon eto gennych wedi caledu? 18 A chennych lygaid, oni welwch? a chennych glustiau, oni chlywch? ac onid ydych yn cofio? 19 Pan dorrais y pum torth hynny ymysg y pum mil, pa sawl basgedaid yn llawn o friwfwyd a godasoch i fyny? Dywedasant wrtho, Deuddeg. 20 A phan dorrais y saith ymhlith y pedair mil, llonaid pa sawl basged o friwfwyd a godasoch i fyny? A hwy a ddywedasant, Saith. 21 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd nad ydych yn deall?

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.